Amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr

Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Tarmac Trading Limited i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres 24/67/8/0047.

Gofynnir yn y cais am gael newid y pwynt tynnu dŵr yn Nant Dolfechlas i Gyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ 19813 67678, newid diben tynnu’r dŵr i atal llwch a golchi olwynion, a lleihau’r meintiau awdurdodedig i 17.28m3 fesul awr, 205.2m3 fesul diwrnod a 58,687.2m3 fesul blwyddyn.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein, neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu y dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod  PAN-031772 wrth:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23 Mehefin 2026.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf