Gwneud cais i newid eich cyfarpar hylosgi canolig annibynnol neu drwydded generadur penodedig

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid eich cyfarpar hylosgi canolig neu drwydded generadur penodedig.

Gwiriwch pa newidiadau y gallwch eu gwneud

Mae gwybod beth yw eich math o newid yn eich helpu chi i:

Newid enw neu gyfeiriad

Er mwyn newid enw, cyfeiriad neu fanylion cysylltu lle na fu newid o ran endid cyfreithiol, gwnewch gais am newid gweinyddol.

Tynnu uned hylosgi

Gwnewch gais am fân amrywiad technegol.

Newid neu ychwanegu uned hylosgi

Dilynwch y camau hyn i ddod o hyd i'ch math o newid.

  1. Dechreuwch gyda'r tabl pellteroedd sgrinio lleiaf i safleoedd y cynefinoedd ar y dudalen hon.

  2. Os yw lefelau eich uned hylosgi sydd wedi newid neu sy’n newydd yn ddigon isel neu’n ddibwys (‘sgrinio allan’), gwnewch gais am fân amrywiad technegol.

  3. Os nad yw lefelau eich uned hylosgi sydd wedi newid neu sy’n newydd yn ddigon isel neu’n ddibwys (‘sgrinio i mewn’), yna mae angen i chi ddefnyddio offeryn sgrinio hylosgi Cyfrifad Syml o Derfynau Effaith Atmosfferig (SCAIL).

  4. Os yw eich uned hylosgi sydd wedi newid neu sy’n newydd yn ‘sgrinio allan’ gan ddefnyddio offeryn sgrinio SCAIL, gwnewch gais am amrywiad arferol pwrpasol syml.

  5. Os yw eich uned hylosgi sydd wedi newid neu sy’n newydd yn ‘sgrinio i mewn’ gan ddefnyddio offeryn sgrinio SCAIL, gwnewch gais am amrywiad pwrpasol cymhleth. Bydd angen i chi ddarparu asesiad modelu ansawdd aer ac unrhyw asesiadau perthnasol eraill gyda'ch cais.

  6. Os oes gennych chi drwydded Rheolau Safonol ar hyn o bryd ac os yw eich newidiadau arfaethedig yn golygu na allwch bellach fodloni'r rheolau hyn bydd angen i chi wneud cais am amrywiad sylweddol, naill ai syml neu gymhleth, yn dibynnu ar ba un a oes angen i chi ddarparu asesiad modelu ansawdd aer gyda'ch cais ai peidio.

  7. Efallai y byddwn hefyd yn eich cynghori bod angen i chi wneud cais am amrywiad sylweddol os ydych yn cynllunio newidiadau sylweddol i'ch gweithrediadau y bydd angen lefel uchel o asesiad manwl yn ystod y penderfyniad. 

Tabl pellteroedd sgrinio lleiaf i safleoedd y cynefinoedd

Math o danwydd a ddefnyddir Mewnbwn thermol graddedig (MWth) o unrhyw gyfarpar hylosgi canolig Pellter lleiaf o gyfarpar hylosgi canolig i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu barth cadwraeth morol (metrau) Pellter lleiaf o gyfarpar hylosgi canolig i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu wlyptir Ramsar (metrau)
Nwy naturiol, olew nwy, a biomas solet prennaidd 1-2 750 750
Nwy naturiol, olew nwy, a biomas solet prennaidd 2-5 1,000 1,000
Nwy naturiol, olew nwy, a biomas solet prennaidd 5-10 1,500 1,500
Nwy naturiol, olew nwy, a biomas solet prennaidd 10-20 2,000 2,500
Nwy naturiol, olew nwy, a biomas solet prennaidd 20-50 2,000 5,000
Nwy heblaw nwy naturiol 1-2 1,000 1,000
Nwy heblaw nwy naturiol 2-5 1,500 1,500
Nwy heblaw nwy naturiol 5-10 2,000 4,000
Nwy heblaw nwy naturiol 10-20 2,000 5,000
Nwy heblaw nwy naturiol 20-50 2,000 10,000
Olew tanwydd trwm solet a hylifol 1-2 2,000 2,000
Olew tanwydd trwm solet a hylifol 2-5 2,000 4,000
Olew tanwydd trwm solet a hylifol 5-10 2,000 8,000
Olew tanwydd trwm solet a hylifol 10-50 2,000 10,000

 

Paratoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom

Mae angen i chi wybod:

Os ydych yn bwriadu newid neu ychwanegu uned hylosgi at eich trwydded, bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • y rhif dynodi unigryw yr uned hylosgi
  • dyddiad cychwyn gweithredol yr uned hylosgi
  • maint (capasiti) yr uned hylosgi
  • pa danwydd a ddefnyddir gan yr uned hylosgi
  • yr oriau gweithredu

Bydd angen i chi uwchlwytho rhai neu bob un o'r dogfennau canlynol gyda’ch cais.

Os yw eich cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig yn dod o dan Ran B, e-bostiwch mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael mwy o wybodaeth am sut i wneud asesiad Technegau Gorau sydd ar Gael.

Gwnewch gais ar-lein i newid eich trwydded

Amserlenni

Fel arfer, byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn pedwar mis ar ôl derbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.

Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw'n gyflawn. Os yw'n gyflawn byddwn yn galw hyn yn 'wedi'i wneud yn briodol'. Os nad yw'n gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw'r amserlen o bedwar mis yn dechrau nes i ni ystyried y cais a wnaed yn briodol. 

Diweddarwyd ddiwethaf