Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen – Cymeradwywyd 7 Gorffennaf 2026
Lleoliad ac ardal
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri yn cwmpasu tua 765 hectar ar draws un prif floc ym Mhen Arthur a sawl bloc llai o fewn Sir Gaerfyrddin. Mae dwy ardal newydd o goetir o fewn Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri. Coed Abermarlais, coetir coffa COVID-19 ac ardal o blannu newydd ger Pen Arthur fel plannu cydadferol.
- Pen Arthur
- Talyllychau
- Felindre
- Monument
- Llwynywermod
- Cilgwyn
- Coed Abermarlais
Crynodeb o'r amcanion
Ymarfer coedwigaeth cyffredinol
Cynhyrchu pren yn gynaliadwy
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren a gwneud y mwyaf o ardaloedd cynhyrchiol trwy ddewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwigoedd.
- Rheoli ceirw (rheoli bywyd gwyllt) – datblygu rhaglen fonitro i ddeall effeithiau posibl ar ailstocio gan lysysorion.
- Mae cydrannau o larwydd yn dal i fodoli mewn sawl un o Goetiroedd Llanymddyfri, a bydd rhaglen i gael gwared arnynt trwy lwyrgwympo lle bo’n briodol, neu fel arall, eu teneuo.
- Ymgorffori’r ardaloedd coetir newydd yng Nghoed Abermarlais a Phen Arthur yn y Cynllun Adnoddau Coedwig.
- Bydd yr holl goetiroedd yn cael eu hymgorffori yn y Goedwig Genedlaethol.
Coedwigoedd a newid hinsawdd
Rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol
- Parhau i wella gwydnwch coetir trwy amrywio’r rhywogaethau ailstocio mewn ardaloedd lle ceir amodau pridd addas er mwyn eu hamddiffyn rhag plâu a chlefydau, ac i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Coedwigoedd a dŵr
Diogelu dŵr
- Diogelu nodweddion ardaloedd cadwraeth arbennig - Ymestyn a datblygu rhwydwaith coetiroedd glannau afon er budd ansawdd a maint dŵr er mwyn sicrhau’r effaith leiaf posibl o weithrediadau coedwigaeth ar Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Tywi.
- Ystyriwch ble y mae angen rheoli rhywogaethau estron goresgynnol ger cyrsiau dŵr, gan flaenoriaethu coetir lled-naturiol hynafol, planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol (PAWS) a safleoedd dynodedig, e.e. ACA Afon Tywi, Coed Abermarlais.
- Rhaid i gynlluniau rheoli dŵr gweithredol o fewn Coetir Talyllychau ystyried diogelu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llynnoedd Talyllychau.
- Bydd Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir yn anelu at reoli’r coetir llydanddail ar hyd lednentydd afon Sawdde, o fewn Coedwig Pen Arthur, er budd ecoleg yr afon i gefnogi gwelliannau yn statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Coedwigoedd a phobl
Iechyd a llesiant
- Hyrwyddo mynediad a defnydd coedwig ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr er budd llesiant a iechyd meddyliol a chorfforol yn unol â’r cynlluniau gwella hawliau tramwy perthnasol.
- Cynnal y ddarpariaeth bresennol ar gyfer diddordebau cerdded, marchogaeth, beicio mynydd a chrwydro.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a pherchnogion tir lle bo’n briodol i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.
Coedwigoedd a bioamrywiaeth
Adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol
- Parhau â’n cynllun i adfer planhigfeydd ar safleoedd coetiroedd hynafol i gyflwr coetir lled-naturiol trwy ddefnyddio dulliau adfywio a phlannu rhywogaethau llydanddail a systemau coedamaeth bach eu heffaith, gan gefnogi’r broses o arallgyfeirio dosbarth oedran a strwythur y goedwig.
- Parhau i gynnal ein coed llydanddail hynafol ac aeddfed, gan gynnwys yr ynn, sy’n gartref i bryoffytau ac ystlumod prin – yn enwedig o amgylch Ceunant Sawdde ger Pontarllechau.
- Mae angen rheoli rhywogaethau estron goresgynnol i warchod y coetir hynafol a chefnogi adferiad effeithiol ar blanhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol.
Cysylltedd cynefinoedd
- Datblygu rhwydweithiau ardaloedd cadwraeth a hyrwyddo rhwydwaith ecolegol gwydn ehangach i helpu i gyflawni ein huchelgais i gynyddu gwydnwch ecosystemau.
- Llwynywermod – mae angen cael gwared ar y cellïoedd conwydd sy’n bodoli eisoes ac, ar ôl hynny, ein huchelgais yw gwella rhwydweithiau natur a chynnal gweithrediadau coetir gyda chadwraeth fel y prif amcan yma.
- Parhau i gefnogi’r gwaith o gysylltu cynefinoedd a chysylltedd mewn ardaloedd addas ochr yn ochr â pharthau glannau afon, ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol.
Rhywogaethau
- Mae pathewod a dyfrgwn yn bresennol o fewn nifer o goetiroedd Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri. Cynnal, a phan fo modd, chwilio am gyfleoedd i wella cynefinoedd ar gyfer y rhywogaethau hyn o ystyried ein gwaith mapio Cymunedau a Natur.
Coedwigoedd a’r amgylchedd hanesyddol
Nodweddion treftadaeth
- Parhau i ddiogelu asedau treftadaeth yn ystod gweithrediadau, gan osgoi difrod a nodi nodweddion newydd.
- Cysylltu â Cadw ar unrhyw waith sy’n rhyngweithio â pharc a gardd gofrestredig Llwynywermod.
Coedwigoedd a phridd
Rheoli priddoedd
- Parhau i ddilyn arferion da i atal effeithiau negyddol ar briddoedd yn ystod pob gweithrediad coedwigaeth.
Coedwigoedd a thirwedd
Estheteg a thirwedd
- Cadw cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd gyfagos ac ystyried y canfyddiad gweledol er budd ymwelwyr a’r trigolion. Gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mapiau
- Map lleoliad
- Map Gweledigaeth Hirdymor - Felindre & Coed Abermarlais
- Map Gweledigaeth Hirdymor - Pen Arthur
- Map Gweledigaeth Hirdymor - Cilgwyn
- Map Gweledigaeth Hirdymor - Talley
- Map Gweledigaeth Hirdymor - Monument & Llwynywormwood
- Map Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed - Pen Arthur
- Map Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed - Talley
- Map Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed - Felindre & Coed Abermarlais
- Map Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed - Cilgwyn
- Map Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed - Monument & Llwynwormwood
- Map Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu - Pen Arthur
- Map Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu - Felindre & Coed Abermarlais
- Map Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu - Talley
- Map Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu - Cilgwyn
- Map Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu - Monument & Llwynywormwood
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Diweddarwyd ddiwethaf