Cynlluniau Adnoddau Coedwig: beth yw eu pwrpas a sut allwch chi gymryd rhan
Wrthi’n cael ei ddatblygu
Cynllun Adnoddau Coedwig Gwydyr – De a Gogledd – Ardystiad yn dod i ben 30/09/25
Cynllun Adnoddau Coedwig Coed-y-Brenin - Ardystiad yn dod i ben 31/03/26
Cynllun Adnoddau Coedwig Ranges and Bryn Llin – Ardystiad yn dod i ben 31/12/27
Cynllun Adnoddau Coedwig Caio – Ardystiad yn dod i ben 31/07/25
Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri – Ardystiad yn dod i ben 31/07/25
Cynllun Adnoddau Coedwig Afan – Ardystiad yn dod i ben 27/04/26
Cynllun Adnoddau Coedwig Ceri – Ardystiad yn dod i ben 31/12/2025
Cynllun Adnoddau Coedwig Mynyddoedd Cambria – Ardystiad yn dod i ben 31/12/2025
Cynllun Adnoddau Coedwig Myherin a Tharenig – Ardystiad yn dod i ben 31/08/2025
Mae’r cynllun adnoddau coedwig yn ddogfen reoli graidd a ddefnyddir ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae’n amlinellu cynigion ar gyfer rheoli coetir yn y dyfodol yn unol â pholisïau ac arferion cyfredol.
Mae’r cynlluniau hyn yn bellgyrhaeddol, gyda phwyslais cryf ar sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymgorffori’r dull ecosystem ar gyfer rheoli tir.
Hyd cynlluniau
Caiff y cynlluniau eu cymeradwyo am gyfnod cychwynnol o ddeng mlynedd, gyda’r cyfnod wedi hynny (50+ mlynedd) yn cael ei gymeradwyo’n amlinellol. Mae hyn yn caniatáu adolygu’r ddogfen a’i diwygio os bydd angen.
Mae pob cynllun yn cynnwys gweledigaeth hirdymor ar gyfer y coetir ac yn ffurfio’r fframwaith ar gyfer datblygu rhaglenni gwaith manwl.
Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU
Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru wedi’i hardystio’n annibynnol fel un sy’n cael ei rheoli’n gynaliadwy o dan Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU. Mae sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y cynigion rheoli sy’n effeithio ar eu coetiroedd lleol yn rhan bwysig o gynnal yr ardystiad hwn.
Sut allwch chi roi adborth i ni
Rydym yn casglu barn amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol yn ystod y gwaith o ddatblygu cynllun adnoddau coedwig. Mae hyn yn helpu i ddatblygu’r cynllun a chydbwyso a blaenoriaethu’r amcanion sydd weithiau’n cystadlu â’i gilydd.