Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen – Cymeradwywyd 7 Gorffennaf 2026

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin ac Ynysowen yn cwmpasu ychydig dros 1,365 ha ac mae’n cynnwys tua phum coetir. Mae lleoliad y coetiroedd yn gymoedd serth ger cymunedau Merthyr Tudful i’r gogledd, trwy Aberfan, Aberpennar a Throed-y-rhiw, ac i lawr i Dreharris ac Abercynon yn y de.

Mae mwyafrif y cynllun adnoddau coedwig yn ymestyn rhwng afon Taf i’r dwyrain ac afon Cynon i’r gorllewin ac yn eistedd o fewn dalgylch ehangach afon Taf.

Mae’r cynllun adnoddau coedwig yn darparu nifer o fanteision, gyda rhai ardaloedd yn darparu adnodd pren gwerthfawr, eraill yn canolbwyntio ar hamdden (h.y. BikePark Wales) ac adfer cynefinoedd (adfer coetiroedd hynafol, cynefin y fadfall ddŵr gribog, cynefin glaswelltir).

Crynodeb o'r amcanion

Ymarfer coedwigaeth cyffredinol

Rheoli Cynaliadwy Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru - Cynhyrchu pren

  • Mae cynnal cynhyrchu pren lle bo’n briodol yn y coedwigoedd (prif floc Gethin ac Ystad Allen yn benodol gan fod gan y rhain fynediad da yn gyffredinol).
  • Os yw amodau’r safle a nodweddion y cnydau yn caniatáu, y nod yw defnyddio systemau gorchudd parhaus er mwyn darparu cyfleoedd i amrywio rhywogaethau ac adeiledd y coetiroedd, a fydd yn gwella cynaliadwyedd a gwydnwch y coedwigoedd, yn ogystal â darparu manteision economaidd. Mae rhai ardaloedd conwydd wedi’u teneuo’n dda, yn enwedig ym mhrif floc Gethin ac Ystad Allen, a dylid cynnal y rhain ar gyfer rheoli trwy System Goedamaeth Fach ei Heffaith.

Seilwaith coedwigaeth

  • Mae’r cynllun adnoddau coedwig yn ei gwneud yn ofynnol i fuddsoddi mewn seilwaith a chyfleusterau coedwig er mwyn caniatáu mynediad ar gyfer torri coed yn y tymor byr er diogelwch ac er mwyn gwneud gwaith ar linellau pŵer ac ar gyfer rheolaeth bosibl tymor hwy yn y dyfodol.
  • Mae angen mynediad i gyrraedd rhai o’r clystyrau llarwydd olaf sy’n weddill lle mae pren yn dal i fod yn hyfyw (e.e. prif floc Gethin). Bydd hyn yn galluogi presgripsiynau rheoli mwy amrywiol ac yn cynyddu ein gallu i deneuo’n rheolaidd a rheoli ar sail System Coedamaeth Fach ei Heffaith yn yr ardaloedd hyn. Os yw coed llarwydd yn rhan o’r cymysgeddau rhywogaethau, gellir parhau i’w teneuo lle bo modd.
  • Ystyrir ardaloedd lle mae mynediad i gynaeafu coed ar raddfa fawr yn anodd ac ymchwilir i’r potensial ar gyfer marchnadoedd coed tanwydd lleol ar raddfa lai yn y dyfodol (e.e. Aberfan, Treharris)

Coedwigoedd a newid hinsawdd

Gwydnwch coedwigoedd

  • Parhau i amrywio rhywogaethau, oedran a chyfansoddiad adeileddol y goedwig er mwyn cynyddu gwydnwch yn erbyn plâu a chlefydau, ac effeithiau newid hinsawdd (e.e. difrod gan wynt a thanau gwyllt)
  • Tynnu’r clystyrau llarwydd sy’n weddill lle bo’n briodol a defnyddio’r cyfle hwn i amrywio rhywogaethau / adfer coetir hynafol

Tanau gwyllt

  • Mae risg uchel o danau gwyllt mewn llawer o ardaloedd o fewn y cynllun adnoddau coedwig hwn. Mae gwydnwch yn erbyn tanau gwyllt yn faes gwaith allweddol i dimau lleol ac mae’n gwneud cynnydd da o fewn prif floc Gethin. Mae hyn yn bwysig er mwyn amddiffyn yr adnoddau pren a BikePark Wales a bydd yn parhau.
  • Parhau i weithio gyda thirfeddianwyr cyfagos, partneriaid, Gwasanaeth Tân De Cymru a’r gymuned er mwyn codi ymwybyddiaeth a lleihau’r risg o danau gwyllt drwy addysg a dylunio coedwigoedd – gan gynllunio a chyflawni mesurau rheoli tân priodol yn ystod ac ar ôl gweithrediadau, megis creu a rheoli breciau rhag tân o amgylch ardaloedd ailstocio, a rheoli ein cynefin agored sy’n weddill drwy gyfundrefn torri/pori lle bo’n briodol er mwyn lleihau’r llwyth tanwydd.
  • Mae angen rhywfaint o fuddsoddiad mewn cynllunio a rheolaethau tân mewn blociau eraill a fydd yn cael sylw drwy gynlluniau gweithredol yn unol â dogfennau Strategaeth Tanau Gwyllt Canol De Cymru Doeth am Dân Cymru: Wildfire Prevention & Mitigation Strategy a Doeth am Dân Cymru: A Land Management Guide.

Coedwigoedd a bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth a chysylltedd

Gweithio gyda phartneriaid a thimau eraill o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn nodi a darparu cyfleoedd i gysylltu a gwella rhywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth (e.e. rhostir, glaswelltir sur, coetir llydanddail) a safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig (e.e. y fadfall ddŵr gribog a gwalch Marthin o fewn prif floc Gethin) o fewn ac yn gyfagos i’r coetiroedd hyn, er mwyn gwella gwydnwch a chysylltedd trwy greu rhwydweithiau natur / rhwydweithiau ardaloedd cadwraeth ac atal effeithiau negyddol o weithgareddau rheoli.

  • Mae’r fadfall ddŵr gribog yn rhywogaeth bwysig sy’n defnyddio prif floc Gethin, a dylai gwaith barhau i amddiffyn a gwella’r rhywogaeth warchodedig a’i chynefin a dylid edrych ar gyfleoedd i gynyddu argaeledd cynefin mewn ardaloedd gwlyb, glaswelltir garw a phrysgwydd.
  • Parhau i gysylltu ac adfer coetiroedd hynafol a brodorol yn unol â Strategaeth Goetiroedd Llywodraeth Cymru. Mae pocedi o goed dail llydan sy’n weddill a chlystyrau o goed dail llydan aeddfed mwy ledled yr holl flociau a fydd yn cael eu cynnal lle bo modd.
  • Gwaith ar gysylltu cynefinoedd agored, rhodfeydd, ymylon ffyrdd ac ymyl y goedwig lle mae’n cysylltu â chynefin di-goed y tu allan i ardal y cynllun adnoddau coedwig er budd ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys brith y gors a thegeirianau
  • Gwella cysylltedd cynefinoedd glannau afonydd drwy gyflwyno clustogfeydd priodol o goetir torlannol wrth ailstocio (ac wrth deneuo’n gyntaf lle mae angen gwelliannau)
  • Sicrhau ystyriaeth o gynefin blaenoriaeth o fewn ac yn gyfagos i ardal y cynllun adnoddau coedwig ar gyfer amddiffyn, estyniad a chysylltedd. Archwilio cyfleoedd rheoli effeithiol ar dir agored, e.e. pori, cyfundrefnau torri blynyddol
  • Chwilio am gyfleoedd i gysylltu â gwaith sy’n mynd rhagddo ar fapio a chyflawni rhwydweithiau ecolegol gwydn, gan weithio gyda thimau lleol a phartneriaid allanol (e.e. partneriaethau natur lleol).

Coedwigoedd a’r amgylchedd hanesyddol

Diogelu’r amgylchedd hanesyddol

  • Parhau i nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth ac archaeolegol pwysig (gan gynnwys nodweddion archaeolegol nad ydynt wedi’u rhestru), gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol a chan ystyried mannau problemus Heneb sydd wedi’u diweddaru.
  • Mae wyth heneb gofrestredig o fewn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin ac Ynysowen a fydd yn cael eu gwarchod rhag gweithrediadau coedwig ac a ystyriwyd yn nyluniad y goedwig, gyda lle agored priodol ar gyfer eu lleoliadau, a bydd y rhain yn parhau i gael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd yn unol â chynlluniau rheoli Cadw.
  • Mae yna ychydig o goed hynod o fewn prif floc Gethin a mwy o fewn Ystad Allen, Treharris, Ynysowen ac Aberfan. Mae angen cadw a diogelu’r rhain rhag gweithrediadau gerllaw, gan ystyried faint maen nhw’n agored i niwed.

Coedwigoedd a thirwedd

  • Mae’r ardal goedwig hon yn weladwy iawn o nifer o gymunedau a phriffyrdd prysur, felly bydd y cynllun yn gwella amrywiaeth weledol y goedwig trwy gynyddu’r amrywiaeth adeileddol ac amrywiaeth rhywogaethau o fewn a rhwng celli a chynyddu coetir torlannol a brodorol.
  • Yn raddol, bydd mwy o’r gwaith o reoli’r goedwig yn cael ei wneud trwy System Goedamaeth Fach ei Heffaith a choedwigaeth gorchudd di-dor, gan leihau effeithiau ar y dirwedd a chynyddu amrywiaeth adeileddol. Lle mai llwyrgwympo coed yw’r system goedamaeth briodol, byddwn yn cynllunio llennyrch torri coed llai lle bo modd er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar dirwedd y goedwig.
  • Parhau i wella amwynder y dirwedd, gan ddefnyddio dewis o system goedamaeth ac arallgyfeirio fel uchod a chymysgeddau rhywogaethau, ac yn ogystal lleihau unrhyw linellau caled a breciau artiffisial trwy feddalu ymylon gyda choetiroedd olynol a chymysg.

Coedwigoedd a phobl

Hamdden a llesiant

  • Cefnogi BikePark Wales ym mhrif floc Coedwig Gethin. Rhaid cyflawni rheoli coedwigoedd yn unol â Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol ar gyfer y safle hwnnw.
  • Parhau i gynnal ardaloedd eraill o’r cynllun adnoddau coedwig ar gyfer gweithgareddau hamdden tawel, e.e. cerdded, beicio, marchogaeth
  • Lle bo’n briodol, gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau er mwyn nodi sut a ble y gall Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ddarparu atebion ar sail natur ar gyfer iechyd a lles a darparu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â natur.
  • Gweithio gyda phartneriaid (yr heddlu, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, awdurdodau lleol) er atal gyrru ar y ffordd yn anghyfreithlon ynghyd â thipio anghyfreithlon, ac addysgu’r cyhoedd am y problemau y gall yr ymddygiadau gwrthgymdeithasol hyn eu hachosi
  • Bydd y goedwig yn cael ei hymgorffori yn rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf

Bod yn gymdogion da

  • Parhau i ymgynghori ac ymgysylltu â’n partneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ynghylch gweithrediadau a mesurau rheoli’r goedwig sydd ar ddod er mwyn meithrin perthnasoedd gwaith da, gwella addysg a gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, a lleihau gwrthdaro, e.e. bod yn glir ynghylch mynediad yn ystod gweithrediadau a gosod arwyddion ar gyfer dewisiadau eraill a sicrhau diogelwch ein hymwelwyr

Coedwigoedd a phridd

Rheoli pridd

  • Parhau i ddilyn arfer da i gyfyngu ar ddifrod i briddoedd yn ystod cynaeafu ac wrth baratoi’r safle, gan ystyried a ellir lleihau aflonyddwch pridd trwy ddewis y dull tyfu
  • Ystyried meysydd lle gallwn leihau dibyniaeth ar beiriannau trwm a defnyddio opsiynau effaith is, e.e. torri coed â cheffylau er mwyn cyfyngu ar gywasgu pridd, rhigoli ac erydiad

Coedwigoedd a dŵr

Rheoli dŵr - Perygl llifogydd

  • Ni fydd rheoli coedwigoedd yn cyfrannu at berygl llifogydd o fewn y coetiroedd nac oddi ar y safle. Dylid ceisio cyfleoedd a’u gweithredu i leihau unrhyw risg bosibl o lifogydd. Cyflawnir hyn drwy arfer coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU, gan ddilyn canllawiau coedwigaeth perthnasol ac arferion coedwriaethol sy’n helpu i liniaru dŵr ffo wyneb a chan roi sylw dyledus i’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru: 40997 Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru
  • Byddwn yn ymgysylltu â’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol wrth gynllunio gweithrediadau torri coed
  • Dylai ystyriaeth fanwl o fesurau i leihau cyfaint y llif sy’n gadael blociau coedwig gynnwys Rheoli Llifogydd yn Naturiol lle bo hyn yn briodol
  • Symud ymlaen â gwaith ar wella’r rhwydwaith draenio drwy ddatgysylltu draeniau o gyrsiau dŵr
  • Edrych ar gyfleoedd i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru o fewn y cynllun hwn i gefnogi a chyd-fynd ag Uwchgynllun Dalgylch Strategaeth Taf ac archwilio opsiynau ar gyfer ffyrdd mwy arloesol o weithio

Ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr

  • Ni ddylai rheoli coedwigoedd achosi gostyngiad yn ansawdd dŵr o fewn nodweddion dŵr ar y safle a chyrsiau dŵr sy’n draenio oddi ar y safle – cyflawnir hyn trwy arfer coedwigaeth da yn unol â chanllawiau diweddaraf Safon Coedwigaeth y DU a thrwy gynyddu ein coetir clustogi torlannol, lle byddwn yn anelu at gymysgedd o gynefinoedd â chysgod a chysgod ysgafn wedi’u harwain gan amcanion lleol
  • Parhau i ehangu a gwella cynefin coetir torlannol er mwyn creu coridor torlannol mwy naturiol ar gyfer cysylltedd ecolegol
  • Symud ymlaen â gwaith ar drwsio cwlfertau sydd wedi blocio/cwympo a chael gwared ar rwystrau i fywyd gwyllt (e.e. ystyried ble mae cwlfertau’n creu rhwystr ac mae angen eu diweddaru neu eu gwaredu)

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf