Datganiad: Diweddariad pryfed Llanelli

Llanelli pryfed pla

Mae ymchwiliadau i'r cynnydd diweddar mewn pryfed yn ward Glanymor yn Llanelli wedi cadarnhau mai un ffynhonnell yw AMG Resources Limited, sef safle sy’n cael ei drwyddedu a’i reoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Gan weithio'n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin, rydym wedi cynnal ymchwiliadau helaeth ac wedi casglu tystiolaeth i ddarganfod mai dyma ffynhonnell y cynnydd mewn pryfed ac rydym yn cyfarwyddo’r camau sy'n cael eu cymryd.

Rydym wedi cyhoeddi hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd camau i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rheoli gwastraff ar y safle a sicrhau bod gweithrediadau yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded unwaith eto.

Mae'r gweithredwr wedi cael 21 diwrnod i roi’r mesurau angenrheidiol ar waith a rheoli’r broblem.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae'r broblem hon yn ei chael ar drigolion a'r gymuned ehangach. Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n agos, a byddwn yn parhau i ysgogi ymdrechion i sicrhau ateb cyflym a pharhaol i drigolion lleol.

Mae cyngor i drigolion a busnesau ar sut i reoli'r sefyllfa ar gael gan Gyngor Sir Caerfyrddin: https://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2026/7/gwybodaeth-ychwanegol-am-niwsans-cler/

(Llun o ymweliad diweddar â'r safle)

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru