Gyrfaoedd cynnar: Lleoliadau, prentisiaethau a rolau i raddedigion

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i feithrin y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa - gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylchedd Cymru. Gan fod rolau ar gael ledled Cymru, byddwch yn cael eich lleoli yn eich swyddfa agosaf ac efallai y bydd gennych yr hyblygrwydd i weithio mewn ffordd hybrid, o’ch cartref, neu allan yn y maes, yn dibynnu ar eich rôl.

Ymunwch â ni ar leoliad a dechrau gwneud gwahaniaeth o'r diwrnod cyntaf. Yn gyfnewid am hynny, byddwch yn elwa o becyn hael, gan gynnwys awr les wythnosol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol (a gwyliau’r banc!) a chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys prentisiaethau, lleoliadau myfyrwyr, interniaethau â thâl a rolau i raddedigion.

Prentisiaethau

Mae ein rolau prentisiaeth yn addas i’r rhai sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg, neu'r rhai sydd yn dymuno ailhyfforddi ac sy'n 16 oed neu’n hŷn.

Bydd ein cyfleoedd prentisiaeth yn cael eu hysbysebu ar ein prif dudalen swyddi. Byddwn yn cynnig prentisiaethau ym maes cadwraeth, i dechnegwyr labordy, yn adrannau’r fflyd, cyfleusterau a gweinyddiaeth busnes.

Lleoliadau i fyfyrwyr (blwyddyn ryngosod/lleoliadau diwydiant)

Caiff y lleoliadau hyn eu hanelu at fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd (israddedig neu ôl-raddedig), fel arfer fel blwyddyn ryngosod sy'n gofyn am dreulio blwyddyn mewn diwydiant. 

Bydd y rolau hyn yn cael eu hysbysebu ar ein tudalen swyddi, fel arfer rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr.

Lleoliadau i raddedigion

Bydd ein lleoliadau i raddedigion ar gyfer pobl sydd wedi gwneud gradd israddedig neu ôl-raddedig, a byddant fel arfer yn para 12 mis. Byddwn yn hysbysebu'r rolau hyn ar ein tudalen swyddi gyda graddedigion ar gyfer carfan y flwyddyn gyfredol yn ymuno â ni ym mis Medi. Bydd amrywiaeth o rolau i raddedigion ym meysydd rheoleiddio a thrwyddedu, rheoli perygl llifogydd, ein timau gweithrediadau pobl a lleoedd, a chyllid.

Darganfyddwch beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein lleoliadau cyfredol – gwyliwch fideo o leoliad coedwigaeth Andrew (Saesneg yn unig).

Cyfleoedd gwirfoddoli

Er mwyn gweld ein cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol, ewch i'n tudalen swyddi. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru – ewch i’w gwefan i weld y cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol.

Diweddarwyd ddiwethaf