Rhyddhau cyfrwng rheoli biolegol estron
Yng Nghymru a Lloegr, o dan Adran 14 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae'n drosedd rhyddhau neu ganiatáu i rai anifeiliaid estron ddianc i'r gwyllt (mae hyn yn cynnwys rhyddhau i dai gwydr a thwneli polythen).
Mae opsiwn yn bodoli o dan yr un ddeddf i roi trwyddedau ar gyfer rhyddhau rhywogaethau sydd wedi eu gwahardd am resymau eraill fel dirymiad i'r drosedd hon. Mae hyn yn cynnwys rhoi trwyddedau ar gyfer cyfryngau rheoli biolegol estron i reoli plâu a chwyn planhigion ar yr amod nad yw eu rhyddhau yn cael ei asesu fel perygl sylweddol.
Mae tîm trwyddedu rhywogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am lunio a rhoi trwyddedau ar gyfer cyfryngau rheoli biolegol yn briodol o dan rai amgylchiadau yn dilyn asesiad o'r risg o ryddhau'r cyfryngau rheoli biolegol hyn a'r manteision o’u defnyddio.
Mathau o gyfryngau rheoli biolegol
Ceir cyfryngau rheoli biolegol anfertebrataidd (IBCAs) a hefyd cyfryngau rheoli biolegol microbaidd (MBCAs) a chyfeirir atynt yn dorfol fel Cyfryngau Rheoli Biolegol (BCA).
Mae rhywogaethau a ddefnyddir fel BCA yn cael eu rheoleiddio'n wahanol:
Cyfryngau rheoli biolegol anfertebrataidd (IBCAs)
Mae’r holl IBCAs estron yn cael eu cwmpasu o dan y system reoleiddio cyfryngau rheoli biolegol estron (NNBCA) ac mae eu rhyddhau yn cael ei reoleiddio gan CNC yng Nghymru.
Cyfryngau rheoli biolegol microbaidd (MBCAs)
Mae MBCAs estron hefyd yn cael eu cwmpasu o dan system reoleiddio NNBCA os ydynt yn bla iechyd planhigion sy'n cael ei gadw o dan amodau cwarantîn.
Prif gyfrifoldeb Tîm Trwyddedu Rhywogaethau CNC yw MBCAs nad ydynt yn cael eu rhyddhau fel rhan o gynnyrch wedi'i fformiwleiddio.
Prif gyfrifoldeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw MBCAs sy’n cael eu rhyddhau fel rhan o gynnyrch wedi'i fformiwleiddio a dylai CNC ddal i gael eu hysbysu yn yr achosion hyn.
Rhennir Cyfryngau Rheoli Biolegol (BCAs) yn ddau brif fath:
- Diffinnir BCAs clasurol fel gelynion naturiol sy'n hunan-luosogi ac sy’n ymsefydlu yn yr amgylchedd lle cawsant eu cyflwyno i atal poblogaethau o blâu. Gall BCAs clasurol oroesi a gaeafu ac unwaith y byddant yn cael eu rhyddhau byddent yn anodd/amhosibl i’w rheoli gan y byddent yn gallu ymsefydlu a lledaenu.
- Ar y llaw arall, ni ddisgwylir i BCAs mwyhaol ymsefydlu ac fe'u diffinnir fel gelynion naturiol masgynyrchedig sy'n cael eu cyflwyno yn achlysurol i amgylchedd penodol i atal poblogaethau plâu. Fel arfer, nid yw'r rhywogaethau hyn yn gallu ymsefydlu oherwydd cyfyngiadau (er enghraifft: byddai hinsawdd Cymru yn golygu na allant dros y gaeaf y tu allan i dai gwydr neu dwneli polythen).
Pryd y bydd angen trwydded
Mae angen trwydded ar gyfryngau rheoli biolegol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y gwyllt yn y DU ac nad ydynt yn ymwelwyr rheolaidd â'r DU.
Mae angen trwyddedau ar gyfer cyfryngau y bwriedir iddynt reoli:
- Plâu iechyd anifeiliaid
- Plâu iechyd planhigion
- Plâu iechyd y cyhoedd
- Plâu estron goresgynnol
- Chwyn
Gwneud cais am drwydded i ryddhau cyfrwng rheoli biolegol estron yng Nghymru
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded bydd angen i chi lenwi ffurflen gais i ryddhau BCA Cymru. Os ydych wedi gwneud cais am drwydded yn Lloegr ac wedi cael trwydded, cofiwch gynnwys manylion gyda'ch cais.
Yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich cais
Mae gwybodaeth am yr hyn i'w gynnwys yn y ffurflen, mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Gwybodaeth am yr ymgeisydd a’r cynnyrch
- Gwybodaeth gefndirol am y BCA
- Hunaniaeth
- Dosbarthiad
- Bioleg
- Sbesimen dilysu (‘voucher specimen’/cadarnhau rhywogaeth
- Dylid rhoi hwn mewn casgliad cyfeirio cydnabyddedig neu dylid cadarnhau rhywogaeth y cyfrwng i brofi beth yw’r BCA.
- Asesiad risg ar gyfer y BCA
- Sefydlu
- Amrediad organeb letyol
- Gwasgariad
- Effeithiau uniongyrchol/anuniongyrchol
- Manteision posibl
- Ansicrwydd
- Casgliad yr asesiad risg
- Mesurau monitro a rheoli ar ôl rhyddhau
Proses adolygu
Unwaith y bydd eich cais wedi'i gyflwyno, bydd yn mynd trwy broses adolygu. Bydd tîm trwyddedu rhywogaethau CNC yn ymgynghori â chydweithwyr mewnol sy'n rhoi cyngor arbenigol mewn perthynas â'r cais. Weithiau byddwn yn ymgynghori â chyrff eraill (er enghraifft Defra). Byddwn yn anelu at brosesu trwydded o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen i asesu eich cais.
Rhoi trwyddedau
Unwaith y byddant yn cael eu cymeradwyo, bydd tîm trwyddedu rhywogaethau CNC yn rhoi'r trwyddedau sydd eu hangen ar gyfer y rhyddhau. Mae trwyddedau yn gwahaniaethu yn seiliedig ar y math o gyfrwng rheoli biolegol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd trwyddedau newydd yn parhau i fod yn ddilys am ddwy flynedd ond ar ôl cael eu hadnewyddu byddant yn parhau i fod yn ddilys am bum mlynedd wedi hynny.
Mathau o drwyddedau a roddir gan CNC yng Nghymru
Trwydded rhyddhawr: mae hon yn rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ryddhau'r cyfrwng yng Nghymru ac yn nodi'r amodau ar gyfer rhyddhau, gan gynnwys y meini prawf ar gyfer dewis safleoedd rhyddhau. Dim ond ar gyfer BCAs clasurol y rhoddir y math hwn o drwydded.
Rhoddir Trwyddedau Cyflenwyr, Dosbarthwyr a Thyfwyr i'r cyflenwr sy'n gyfrifol am ddosbarthu'r trwyddedau i'r partïon priodol. Dim ond ar gyfer BCA mwyhaol y rhoddir y trwyddedau hyn.
Trwydded cyflenwr: mae hon yn rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ryddhau'r cyfrwng yng Nghymru ar gyfer ymchwil a datblygu ac i gyflenwi'r cyfrwng at ddibenion rheoli pla/plâu. Mae'r drwydded hefyd yn rhestru'r amodau ar gyfer rhyddhau.
Trwydded dosbarthwr: mae hon yn rhoi caniatâd i'r dosbarthwr gyflenwi'r cyfrwng at ddibenion rheoli pla/plâu. Mae'r drwydded hefyd yn rhoi'r amodau ar gyfer rhyddhau.
Trwydded y tyfwr: mae hon yn rhoi caniatâd i'r defnyddiwr terfynol ryddhau'r cyfrwng. Mae'r drwydded hefyd yn nodi'r amodau ar gyfer rhyddhau.
Adnewyddu trwydded sy’n bodoli
Pan ofynnir am adnewyddu trwydded a roddwyd yn flaenorol, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais i ryddhau BCA.
Ar gyfer adnewyddu trwydded bydd angen cadarnhau’r canlynol:
- nad oes dim wedi newid yn y cais sy'n newid risg y cyfrwng ers i'r drwydded ddiwethaf gael ei chyhoeddi
- a oes mân newidiadau sy'n newid risg y cyfrwng
- a oes newidiadau sylweddol sy'n newid risg y cyfrwng
Os nad oes dim wedi newid (a) neu os cafwyd mân newidiadau (b) llenwch yr adrannau canlynol o'r ffurflen gais a darparu unrhyw wybodaeth ategol gyda'r cais yn ôl yr angen: 1.1, 1.2, 1.3, 2.1, 3.1, 3.2, Rhan E, Adran 8, Adran 10.
Os bu newidiadau sylweddol (c) sy'n newid risg y cyfrwng yna byddai angen i chi ddilyn y broses fel petai ar gyfer cais newydd (hynny yw, llenwch y ffurflen gyfan ond nodwch ei bod yn gais adnewyddu yn adran 2.1).
Bydd angen sbesimenau cyfeiriol neu gadarnhad o rywogaeth ar gyfer pob adnewyddiad trwydded.
Cyfryngau nad oes angen trwyddedau ar eu cyfer yng Nghymru:
| Rhywogaethau | Teulu | Math o organeb | Grŵp/grwpiau plâu targed |
|---|---|---|---|
| Adalia bipunctata | Coccinellidae | Chwilen ysglyfaethus | Llyslau |
| Aleochara bilineata | Staphylinidae | Chwilen ysglyfaethus | Pryfed |
| Anagyrus pesudococci | Encyrtidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Pryf blodiog |
| Anthocoris nemoralis | Anthocoridae | Pryf ysglyfaethus | Psyllids |
| Anthocoris nemorum | Anthocoridae | Pryf ysglyfaethus | Thrips a psyllids |
| Aphelinus abdominalis | Aphelinidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Llyslau |
| Aphelinus asychis | Aphelinidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Llyslau |
| Aphidius ervi | Braconidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Llyslau |
| Aphidius matricariae | Braconidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Llyslau |
| Aphidoletes aphidimyza | Cecidomyiidae | Gwybedyn ysglyfaethus | Llyslau |
| Bracon hebetor | Braconidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Gwyfynod |
| Chrysoperla carnea | Chrysopidae | Adain siderog ysglyfaethus | Llyslau |
| Chrysoperla lucasina | Chrysopidae | Adain siderog ysglyfaethus | Llyslau |
| Cryptolaemus montrouzieri | Coccinellidae | Chwilen ysglyfaethus | Pryf blodiog |
| Dacnusa sibirica | Braconidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Pryfed turio dail |
| Dalotia (Atheta) coriaria | Staphylinidae | Chwilen ysglyfaethus | Pryfed y lan a gwybed ffwng |
| Dicyphus errans | Miridae | Pryf ysglyfaethus | Pryfed gwyn, gwiddon corryn a thripsod |
| Diglyphus isaea | Eulophidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Pryfed turio dail |
| Encarsia citrina | Aphelinidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Pryfed cennog |
| Ephedrus cerasicola | Braconidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Llyslau |
| Episyrphus balteatus | Syrphidae | Pryf hofran llyslau | Aphididae |
| Eupeodes corollae | Syrphidae | Pryf hofran ysglyfaethus | Llyslau |
| Feltiella acarisuga | Cecidomyiidae | Gwybedyn ysglyfaethus | Gwiddon corryn |
| Leptomastix epona | Encyrtidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Pryf blodiog |
| Macrolophus pygmaeus | Miridae | Pryf ysglyfaethus | Pryfed gwyn |
| Micromus angulatus | Hemerobiidae | Adain siderog ysglyfaethus | Llyslau |
| Orius laevigatus | Anthocoridae | Pryf ysglyfaethus | Thripsod |
| Orius majusculus | Anthocoridae | Pryf ysglyfaethus | Thripsod |
| Pachycrepoideus vindemiae | Ptermomalidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Pryfed ffrwythau Drosophilid |
| Praon volucre | Braconidae | Gwenynen feirch barasitaidd | Llyslau |
| Propylea quatuordecimpunctata | Coccinellidae | Chwilen ysglyfaethus | Llyslau |
| Rhizobius lophantae | Coccinellidae | Chwilen ysglyfaethus | Pryfed cennog |
| Rhizophagus grandis | Rhizophagidae | Chwilen ysglyfaethus | Dendroctonus micans |
| Sphaerophoria ruepellii | Syrphidae | Pryf hofran ysglyfaethus | Llyslau |
| Stainernema feltiae | Steinernematidae | Nematod pathogenig | Chwilod sgarab a gwybed ffwng |
| Trichogramma evanescens | Trichogrammatidae | Pryf wyau parasitaidd | Gwyfynod (gan gynnwys ar gynhyrchion wedi'u storio) |
Manylion cysylltu
Os dymunwch wneud cais am drwydded yng Nghymru cysylltwch â ni er mwyn cael cyngor pellach neu ffurflen gais: specieslicence@naturalresourceswales.gov.uk
neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000.
Dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau drwy e-bost neu i:
Trwyddedu Rhywogaethau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
LL57 2DW
Os hoffech wneud cais am drwydded yn Lloegr anfonwch e-bost at: non-nativebiocontrol.licensing@defra.gov.uk
Os hoffech wneud cais am drwydded yn yr Alban anfonwch e-bost at: licensing@nature.scot
Os hoffech wneud cais am drwydded yng Ngogledd Iwerddon e-bostiwch: elmswildlife@daera-ni.gov.uk