Shotton Mill Limited - Meln Bapur Shotton, Weighbridge Road, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2LL
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Shotton Mill Limited
Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-029803
Math o gyfleuster rheoledig: Prif Weithgaredd: Gosod - Gweithgaredd Atodlen 1, Adran 6.1, Rhan A (1) (b) — cynhyrchu mewn ffatri ddiwydiannol, bapur a bwrdd lle mae gan y gwaith gapasiti cynhyrchu o fwy nag 20 tunnell y dydd.
Gweithgareddau Gosod Atodlen 1 Eraill;
• Adran 1.1, Rhan A (1) (a) — llosgi unrhyw danwydd mewn peiriant sydd â mewnbwn thermol â sgôr o 50MW neu fwy.
• Adran 5.1, Rhan A (1) (b) — llosgi gwastraff nad yw'n beryglus mewn gwaith llosgi neu gyd-losgi mewn cyfleuster sydd â chapasiti sy'n fwy na 3 tunnell yr awr.
• Adran 5.4, Rhan A (1) (a) (i) — gwaredu gwastraff nad yw'n beryglus mewn cyfleuster ar gyfradd o fwy na 50 tunnell y dydd drwy driniaeth fiolegol.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Melin Bapur Shotton, Weighbridge Road, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2LL
Mae Shotton Mill Limited wedi gwneud cais i amrywio eu trwydded amgylcheddol ar gyfer Melin Bapur Shotton (EPR/BT4885IT) i adlewyrchu’r ffaith fod y safle yn newid o gynhyrchu papur papur newydd i gynhyrchu bwrdd cynwysyddion o ffibr wedi'i ailgylchu (750,000 tunnell y flwyddyn) a phapur meddal (tissue) o gymysgedd ffibr wedi'i ailgylchu a ffibr crai (70,000 tunnell y flwyddyn).
Bydd hyn yn arwain at y newidiadau canlynol i'r safle;
- Ychwanegu peiriant bwrdd cynwysyddion newydd a chynhyrchu papur meddal, gyda chyfleusterau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys allyriadau tarddle penodol newydd i aer o'r peiriannau a'r sychwyr.
- Cymhwyso'r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer y gweithgareddau a gynhelir ar y safle.
- Gwaith gwres a phŵer cyfunol newydd a fydd i ddechrau yn cynnwys dau dyrbin nwy 23 MWth sy'n cael eu pweru ar nwy naturiol, pob un â chorn 75 metr. Mae trydydd tyrbin nwy i'w osod yn ddiweddarach. Bydd y gwaith gwres a phŵer cyfunol hefyd yn cynnwys dau foeler wrth gefn 34 MWth gyda chorn 30 metr.
- Addasiadau i'r gwaith trin elifiant a fydd yn cynnwys ychwanegu gwaith treulio anaerobig newydd, lle storio bionwy a pheiriannau sy’n rhedeg ar fionwy (y ddau yn 5.8MWth, gyda chorn 24 metr yr un). Bydd system atal newydd wedi'i gosod yn y gwaith trin elifiant hefyd. Ni fydd y newidiadau yn y gwaith trin elifiant yn arwain at unrhyw allyriadau newydd na chynnydd o ran terfynau a chyfeintiau allyriadau i ddŵr dros yr hyn a ganiateir ar hyn o bryd.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein . Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 25/03/2026.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.