Dŵr Cymru Cyfyngedig - Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Tremeirchion, Tremeirchion, Sir Ddinbych, Ll17 0AY
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Dŵr Cymru Cyfyngedig
Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-030206
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG)
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Tremeirchion, Tremeirchion, Sir Ddinbych, Ll17 0AY
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SJ 06780 72604
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Nant Pen-Isa’r-Waen
Math o elifiant: Elifion triniaeth eilaidd
Cyfaint: 57 metr ciwbig y dydd
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 11 Mai 2026
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.