Gwiriwch a yw eich gwaith ar SoDdGA yn dod o dan gwmpas Datganiad Rheoleiddio
Os ydych yn berchen ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), neu’n meddiannu safle o’r fath, fel arfer bydd arnoch angen caniatâd SoDdGA gennym ni cyn ymgymryd â gweithgareddau sy’n debygol o niweidio diddordeb arbennig y safle.
Nid yw’r Datganiadau Rheoleiddio yn newid y gofyniad cyfreithiol arnoch i gael caniatâd SoDdGA dilys, fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â’r angen am ganiatâd SoDdGA os byddwch yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Datganiad Rheoleiddio priodol ar gyfer eich amgylchiadau.
Rydym wedi cyhoeddi’r Datganiadau Rheoleiddio hyn yn sgil cwblhau cynllun Glastir ac er mwyn ymdrin â’r cyfnod pontio wrth gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), er mwyn lleihau’r baich rheoleiddio ar dirfeddianwyr a sicrhau bod tir yn parhau i gael ei reoli’n briodol.
Datganiad rheoleiddio ar gyfer 2026
Ar gyfer 2026, rydym wedi cyhoeddi dau ddatganiad rheoleiddio a allai fod yn berthnasol i’ch sefyllfa chi os oeddech mewn contract Glastir Uwch neu gontract Tir Comin Glastir o’r blaen. Mae’r ddau yn ddilys tan 1 Ionawr 2027.
Gall CNC dynnu’r naill ddatganiad rheoleiddio neu’r llall yn ôl, neu eu diwygio, cyn dyddiad yr adolygiad os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r datganiadau rheoleiddio hyn wedi newid.
Darllenwch gynnwys pob datganiad rheoleiddio yn ofalus i benderfynu a fyddai eich gwaith yn dod o fewn cwmpas un o’r datganiadau rheoleiddio hyn, ac i wneud yn siŵr y gallwch gydymffurfio â’r telerau ac amodau. Os na, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd SoDdGA, yn ôl yr arfer.
Os ymunoch â Chynllun Cynefin Cymru yn 2024 a 2025 ac os ydych wedi ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer 2026
Os oedd gennych gontract Glastir Uwch yn 2023 ac os ymunoch â Chynllun Cynefin Cymru yn 2024 a 2025 – ac os ydych wedi ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer 2026 – gwiriwch a yw eich gwaith yn dod o dan Datganiad Rheoleiddio: Rheoli SoDdGA o Glastir i Gynllun Cynefin Cymru yn 2024 a 2025 i Gynllun Ffermio Cynaliadwy 2026.
Os oeddech yn rheoli tir o dan gontract Tir Comin Glastir ac os ydych wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru (Tir Comin) ar gyfer 2026
Os oeddech yn rheoli tir o dan gontract Tir Comin Glastir ac os ydych wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru (Tir Comin) ar gyfer 2026, gwiriwch a yw eich gwaith yn dod o dan: Datganiad Rheoleiddio: Rheoli SoDdGA o Dir Comin Glastir i Gynllun Cynefin Cymru 2024 i Gynllun Cynefin Cymru 2025 i Gynllun Cynefin Cymru (Tiroedd Comin) 2026.