Chwiliwch am graciau ac arwyddion o ddifrod

Pan fydd argae arglawdd pridd yn sychu, mae'n crebachu - a phan fydd yn wlyb, mae'n chwyddo. Efallai y byddwch chi'n gweld craciau'n ymddangos wrth i'r argae grebachu ac yna'n diflannu wrth iddyn nhw gau oherwydd lleithder. Gall cracio ddigwydd yn gyflymach os yw’r uwchbridd yn fas.


Ffigur 1. Chwiliwch am graciau yn ymddangos a chadwch gofnodion dros amser yn dangos sut maen nhw'n newid.

Gall craciau agor a chau dros gyfnod sych. Dylech eu monitro a sicrhau eu bod yn cau ac yn gwella ar eu pen eu hunain pan fydd tywydd gwlypach yn dychwelyd.

Mae angen i chi fonitro a chofnodi lleoliad, maint, dyfnder a chyfeiriadedd craciau neu ddifrod arall. Tynnwch luniau os yn bosib. Rhannwch y wybodaeth gyda'ch Peiriannydd Goruchwylio a chadarnhewch fod yr hyn a welwch o fewn yr hyn sy’n ddisgwyliedig.

Os yw'r craciau'n parhau am gyfnod hir, dylech ddisgwyl erydu pellach ar yr argae oherwydd glaw, draenio gwael, neu dywydd o rewi ac yna dadmer. Dylech chi gael cyngor gan eich Peiriannydd Goruchwylio - a hynny’n gynnar - er mwyn cywiro'r broblem. 


Ffigur 2. Mesurwch a chofnodwch hyd, lled a dyfnder y craciau. Rhannwch y wybodaeth gyda'ch Peiriannydd Goruchwylio.

Gall cyfnodau hir o dywydd sych achosi mwy o broblemau. Os bydd yr arglawdd cyfan yn sychu gormod, gall y craidd anhydraidd mewnol gracio a ffurfio llwybr drwy'r argae y gall dŵr ollwng drwyddo. Gallai argae sy’n gollwng ychydig o ddŵr arwain at  fethiant llwyr cyflym a thrychinebus - neu gall y gwendid ddatblygu dros gyfnod hirach gan arwain at fethiant yr argae yn y pen draw.

Pan fydd y glaw yn dychwelyd

Dylai craciau tywydd sych wella o’u hunain pan fydd digon o dywydd gwlyb neu leithder yn dychwelyd. Ond ewch i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny.

Mae craciau sy'n mynd yn fwy yn ystod tywydd gwlyb yn wendid - dylai hynny beri pryder i chi. Cysylltwch â'ch Peiriannydd Goruchwylio ar unwaith i gael cyngor.

Os bydd glaw trwm neu barhaus yn dychwelyd yn sydyn:

  • efallai na fydd gwreiddiau llystyfiant gwan yn darparu arwyneb cadarn, ac o’r herwydd gallai erydu ddigwydd
  • gall dŵr wyneb ffo fynd i mewn i'r craciau gan eu gwneud yn fwy, neu greu llwybrau llif o dan yr wyneb
  • gall dŵr sy'n mynd i mewn i graciau dyfnach iro'r uniad rhwng y pridd uchaf a'r isbridd ac achosi i'r wyneb lithro

Y peth cyntaf y gallech sylwi arno yw cracio llorweddol gyda chribau'n ffurfio ymhellach i lawr y llethr.

Trawsdoriad argae arglawdd pridd
Ffigur 3. Gall craciau dwfn ganiatáu i ddŵr dreiddio ac achosi i'r wyneb lithro. Chwiliwch am lympiau a bympiau i lawr y bryn o’r craciau neu ddifrod arall

Nid yw cwympiadau a llithriadau yn gwella ar eu pen eu hunain a dylech gysylltu â'ch Peiriannydd Goruchwylio ar unwaith i gael cyngor.

Archwiliwch ochr yr argae sy’n wynebu i fyny’r afon

Os yw lefel y dŵr yn isel, mae'n amser delfrydol i archwilio ochr yr argae sy’n wynebu i fyny’r afon - gan wirio’r wyneb a gwneud unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen. Efallai yr hoffai eich Peiriannydd Goruchwylio wneud hyn pan fydd lefel y dŵr yn isel - felly rhowch wybod iddo/iddi am yr amodau a’r sefyllfa.


Ffigur 4. Manteisiwch ar lefelau dŵr isel i archwilio a chynnal a chadw ochr yr argae sy’n wynebu i fyny'r afon.

Cynnal gorchudd da o laswellt

Mae'r glaswellt a'r pridd uchaf yn flanced amddiffynnol i is-strwythur yr arglawdd ac yn helpu i ddraenio dŵr wyneb yn ystod tywydd gwlyb.

Gall tywydd sych hirfaith leihau effeithiolrwydd y gorchudd o laswellt wrth iddo sychu. Mae arwyneb llychlyd neu dywodlyd yn erydu'n hawdd. Gall tywydd sych gyd-daro â stormydd mellt a tharanau sy'n achosi llifogydd sydyn.

Mae angen i chi gadw'r arwyneb hwn mewn cyflwr da bob amser.


Ffigur 5. Glaswellt wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ar arglawdd pridd.


Ffigur 6. Mae arwyneb glaswellt a phridd sydd wedi'i gynnal a'i gadw'n dda yn caniatáu i ddŵr glaw ddraenio i ffwrdd heb niweidio'r arglawdd.

Effeithiau newid hinsawdd

Mae tywydd sych hirfaith wedi dod yn gymharol gyffredin yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r hyn a ragwelir o ran y newid yn yr hinsawdd yn awgrymu y byddwn yn profi sychder yn amlach - a phan fydd hi'n bwrw glaw, rhagwelir y bydd yn drymach ac yn ddwysach.

Mae'r tywydd eithafol yma yn rhoi straen ar arglawdd pridd. Mae angen i chi gynnal a chadw eich cronfa ddŵr bob amser i leihau effeithiau tywydd eithafol.

Gweler rhagor o wybodaeth am gynllunio a rheoli mewn perthynas â sychder ar ein tudalen Sychder

Dylech gynllunio a rhoi camau gweithredu ar waith i reoli’r gwaith o storio a defnyddio dŵr cronfeydd  yn ystod tywydd sych hirfaith.

Rhowch wybod am ddigwyddiad

Os yw craciau neu ddifrod i'r arglawdd pridd yn ddigon i'ch annog i ostwng lefel y dŵr yn y gronfa, neu os yw'ch peiriannydd yn argymell eich bod yn gweithredu’n rhagofalus i dynnu dŵr i ostwng y lefel, rhaid i chi roi gwybod i ni ar 03000 65 3000 neu gyflwyno adroddiad ar-lein.

Cyngor pellach

Os nad oes gennych Beiriannydd Goruchwylio, dylech gysylltu â pheiriannydd sifil cymwys o un o’r paneli cronfeydd dŵr i gael cyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf