Gwerthiant pren tymor byr
Manylion e-Werthiant Coed
- Rhennir y cyfaint cyfan yn lotiau ledled Cymru. Bydd pob lot yn cael ei diffinio yn ôl yr ardal o goedwig
- Cyflwynir cynigion, wedi'u mynegi mewn pris fesul tunnell, ar yr holl gyfaint o fewn y lot.
- Byddwn yn dyfarnu contractau a fydd yn rhoi’r elw cyffredinol gorau.
- Ni fydd y contractau hyn yn para am fwy na 12 mis fel arfer. Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod gofyn ymestyn oes contract am flwyddyn yn olynol. Gallai hyn fod oherwydd bod maint y contract neu gyfyngiadau safle-benodol yn effeithio ar amseru gweithrediadau/cynhyrchu pren. Byddai estyniad i gontract trwy gytundeb y ddau barti.
Pren caled
Bydd unrhyw gontractau gwerthiannau pren caled sy’n sefyll a chontractau gwerthiannau pren caled wrth ymyl ffordd yn debygol o gael eu cynnig trwy e-Werthiant Coed.
Pren crwn bach
Ar gyfer tendr, diffinnir pren crwn bach fel un sydd ag isafswm diamedr uchaf o tua 5cm o dan risgl.
Fe'i defnyddir ar gyfer mwydion papur, pren sglodion, cynhyrchu ynni biomas gan gynnwys coed tân, ffensio ac ati. Bydd unrhyw ddeunydd posibl sy’n addas ar gyfer ffensio wedi'i dynnu i ffwrdd eisoes a'i werthu ar wahân.
Tanwydd coed
Rydym yn derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn â chyrchu pren ar gyfer tanwydd coed, yn arbennig o Ystad Goed Llywodraeth Cymru.
Sylwer: o 31 Hydref 2019 ymlaen, gellir prynu tanwydd coed mewn lotiau a gynigir yn ystod digwyddiadau e-Werthiant Coed yn unig. Ceir manylion y digwyddiadau hyn ar y gwe-dudalennau e-Werthiant Coed.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ddesg gymorth e-Werthiant Coed