eWerthiannau - 2024 i 2026
Sylwer nad yw’r rhestr ganlynol yn rhestr ddiffiniol o ddyddiadau gwerthiannau, a gallai newidiadau gael eu gwneud oherwydd gofynion gweithredol. Y diben yw rhoi amlinelliad o’r rhaglen arfaethedig i gwsmeriaid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu diweddaru yma cyn gynted ag y bo modd.
Bydd manylion llawn y gwerthiannau unigol sydd ar gael yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon pan fo’n briodol fel rhan o’r amserlen werthu arferol.
2026
27 Ionawr 2026
28 Ebrill 2026
28 Gorffennaf 2026
27 Hydref 2026
2027
26 Ionawr 2027
27 Ebrill 2027
eWerthiannau 'Agored'
Lotiau gwerthu coed sy’n sefyll a phren ymyl y ffordd yw’r rhain, lle:
Byddwn yn darparu atebion peirianneg sifil o ran y llannerch, a hynny fel arfer cyn y pwynt gwerthu, cyn i’r contract gychwyn.
Bydd llennyrch yn cael eu prisio, a’r cronfeydd wrth gefn yn cael eu pennu gan ddefnyddio gwerthoedd y pren yn unig.