Barn ragarweiniol

Rydym yn cynnig barn ragarweiniol yn rhad ac am ddim ar gyfer pob cais datblygu sy’n bodloni o leiaf un o’r meini prawf ar ein rhestr wirio ymgysylltu. Byddwn yn darparu:

  • Barn yn mynegi pa faterion amgylcheddol ar ein rhestr wirio sydd angen eu hystyried fel rhan o’ch cais
  • Braslun o’r asesiadau a allai fod yn ofynnol i ategu’ch cais.

Dim ond unwaith y gallwch ofyn am farn ragarweiniol ar gyfer pob datblygiad yr ydych yn ymgymryd ag ef.

Gwnewch gais am farn ragarweiniol ar eich datblygiad.

Gofynnwn ichi ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’ch datblygiad arfaethedig, gan gynnwys y math o ddatblygiad, lleoliad y safle a sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael ag unrhyw effeithiau amgylcheddol a nodwyd.

Anelwn at ddarparu barn ragarweiniol o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl derbyn y ffurflen a’r wybodaeth gysylltiedig.

Gwasanaeth rhagarweiniol statudol ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol

Ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol, rydym yn cynnig gwasanaeth rhagarweiniol statudol y codir tâl amdano yn unol ag adran 27 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025. Fel rhan o'r gwasanaeth hwn, byddwn yn darparu’r canlynol i chi:

  • datganiad o ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig
  • datganiad o asesiadau amgylcheddol a allai fod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig
  • cyngor ar unrhyw ddatganiad posibl o dir cyffredin
  • cyngor ynghylch unrhyw ymgynghori cyn ymgeisio pellach yr ydym yn argymell eich bod yn ymgymryd ag ef

Darllenwch fwy am sut i wneud cais am y gwasanaeth rhagarweiniol statudol a'n cyngor arall i ddatblygwyr sy'n cynnig prosiectau seilwaith arwyddocaol.

Cyngor statudol

Yn achos datblygiadau mawr a rhai o bwys cenedlaethol, mae gennych ddyletswydd i ymgynghori â ni cyn cyflwyno’ch cais i’r awdurdod cynllunio neu’r awdurdod cydsynio perthnasol, os yw’ch cynnig yn bodloni un neu fwy o’r meini prawf a bennir yn y ddeddfwriaeth. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn darparu ymateb cadarn a fydd yn nodi ein bod:

  • â dim sylw
  • â dim gwrthwynebiad
  • wedi nodi pryderon a dulliau o fynd i’r afael â hwy
  • wedi nodi pryderon ac y byddem felly’n gwrthwynebu unrhyw gais cynllunio.

Cyngor cynllunio dewisol

Gallwch ofyn am fwy o gyngor ynglŷn ag amrywiaeth o bynciau a mathau o ddatblygiad.

  • Tir halogedig
  • Diogelu dŵr daear
  • Asesu canlyniadau llifogydd
  • Cyngor ynghylch Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
  • Prosiectau seilwaith arwyddocaol
  • Cyngor ynghylch Datblygiadau o Bwys Cenedlaethol
  • Cyngor ynghylch datblygiadau morol.

Darperir cyngor cynllunio dewisol am bris o £125 yr awr a TAW ar ben hynny (sy’n seiliedig ar adfer ein holl gostau).

Byddwn yn rhoi amcanbris am y gwaith a’r costau cyn ichi benderfynu a ydych am fwrw ymlaen.

Os hoffech ofyn am gyngor dewisol mewn perthynas â datblygiadau morol yn bennaf, cysylltwch â marine.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk yn y lle cyntaf.

Neilltuwch o leiaf 30 diwrnod rhwng dyddiad dychwelyd y ffurflen a dyddiad dechrau’r gwaith.

Gwnewch gais am gyngor cynllunio dewisol.

Er ein bod yn anelu at fodloni'r galw am y gwasanaeth hwn, ar brydau hwyrach bydd ein gallu i wneud hynny wedi'i gyfyngu. O dan yr amgylchiadau hyn, rydym yn cadw'r hawl i beidio â chynnig y gwasanaeth.

Darllenwch ein canllaw i'n gwasanaeth cyngor dewisol (Saesneg yn unig).

Diweddarwyd ddiwethaf