Sut i osgoi a lleihau effeithiau ar y dirwedd ac effeithiau gweledol o ddatblygiadau
Dewis safle
Mae dewis safle yn hanfodol i osgoi a lleihau effeithiau gweledol ar dirweddau o ganlyniad i ddatblygiadau.
Gellir osgoi niwed i dirweddau drwy ddewis safle priodol o’r cychwyn cyntaf.
Ni ddylid cynnal Asesiadau o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol i gyfiawnhau lleoli datblygiad mewn safle anaddas.
Dylid cyflogi gweithiwr proffesiynol cymwys ym maes tirwedd yn ystod y cam dewis safle, cyn cynllunio, i roi arweiniad ar sut y gellir lleihau neu osgoi effeithiau andwyol posibl ar y dirwedd ac effeithiau gweledol.
Gall dewis y safle anghywir arwain at niwed na ellir ei liniaru. Mae gwneud newidiadau i brosiect ar raddfa fawr i osgoi a lleihau niwed yn anodd iawn pan fydd lleoliad amhriodol wedi’i ddewis.
Datblygiadau mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol
Mae parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn cael eu hadnabod gyda’i gilydd yng Nghymru fel tirweddau dynodedig yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru. Rhaid i gynigion yn yr ardaloedd hyn warchod a gwella harddwch naturiol yr ardal.
Mae gwarchod a gwella harddwch naturiol yn golygu mynd y tu hwnt i osgoi effeithiau andwyol.
Dylai pob cynnig o fewn tirwedd ddynodedig a’u lleoliadau gweladwy warchod a gwella harddwch naturiol a rhinweddau arbennig yr ardal ddynodedig.
Mae rhinweddau arbennig pob parc cenedlaethol ac ardal o harddwch naturiol eithriadol wedi’u nodi yn eu cynlluniau rheoli.
Dylai datblygwyr hefyd ystyried asesiadau cymeriad tirwedd pob un o’r parciau cenedlaethol a’r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
Gellir dod o hyd i gynlluniau rheoli ac asesiadau cymeriad y tirwedd ar wefannau priodol y tirweddau dynodedig.
Dylai datblygwyr osgoi niwed i’r nodweddion a’r priodoleddau sy’n cyfrannu at harddwch naturiol a rhinweddau arbennig yr ardal.
Dylai datblygwyr ystyried tystiolaeth fanwl o’r dirwedd a ddarperir yn LANDMAP, ein hadnodd tirwedd Cymru gyfan, i lywio eu cynigion ac osgoi niwed i dirweddau dynodedig.
Mynediad i LANDMAP ar ein gwefan
Dysgwch am y cyngor cynllunio rydyn ni’n ei gynnig i ddatblygwyr.
Cynigion o fewn lleoliadau gweladwy parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol
Gall datblygiadau y tu allan i’r parciau cenedlaethol a’r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ond o fewn y lleoliad gweladwy, effeithio ar harddwch naturiol a rhinweddau arbennig y dirwedd ddynodedig.
Ein map o leoliadau gweladwy tirweddau dynodedig.
Mae’r data lleoliadau gweladwy, gan gynnwys yr ‘uchder y mae gwrthrych yn dod yn weladwy’ yn rhoi dealltwriaeth o a yw cynigion datblygu ar y tir mewn lleoliad gweladwy o fewn tirwedd ddynodedig.
Ar gyfer datblygiadau ar y môr, gellir osgoi neu leihau niwed i dirweddau dynodedig drwy leoli datblygiad ar bellter digonol oddi ar y lan.
Bydd y pellter priodol yn dibynnu ar raddfa arfaethedig y datblygiad. Dylid ystyried y tri adroddiad canlynol wrth ddewis safle ar gyfer fferm wynt ar y môr:
Darllenwch ein hadroddiad Cam 1 i ddeall y berthynas rhwng y pellter oddi ar yr arfordir a graddfa’r effaith weledol
Datblygiadau sy’n debygol o fod angen eu hasesu
Mae’n debygol y bydd angen Asesiadau o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol /Asesiadau o’r Effaith ar y Morlun a’r Effaith Weledol fel rhan o Asesiad o’r Efaith Amgylcheddol ar gyfer datblygiadau ar raddfa fawr sydd ag effeithiau eang ar gymeriad tirwedd, cymeriad morlun ac amwynder gweledol. Gall effeithiau gynnwys effeithiau ar awyr dywyll neu dawelwch o fewn tirwedd ddynodedig neu yn yr ardal gyfagos.
Mae’n debygol y bydd angen arfarniad gweledol o’r dirwedd ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach mewn lleoliadau arbennig o sensitif o fewn parc cenedlaethol neu ardal o harddwch naturiol eithriadol (er enghraifft, datblygiadau sy’n effeithio ar ardal o ansawdd golygfaol nodedig, cymeriad, cyfanrwydd, prin neu bwysigrwydd nodedig).
Mae’n debygol y bydd angen asesiadau o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol /asesiad o’r effaith ar y morlun a’r effaith weledol neu arfarniad gweledol o’r dirwedd ar ddatblygiadau sy’n newydd o ran cymeriad ac yn gwrthdaro â chymeriad ardal, yn dibynnu ar y raddfa.
Mae’n debygol y bydd angen asesiad o’r effaith gronnol ar y dirwedd a’r effaith weledol gronnol /asesiad o’r effaith gronnol ar y morlun a’r effaith weledol gronnol ar ddatblygiadau sydd ag effaith gyfunol â datblygiadau tebyg eraill (effeithiau cronnus).
Sut gall datblygiadau effeithio ar harddwch naturiol a rhinweddau arbennig
Mae datblygiad yn debygol o effeithio ar harddwch naturiol a rhinweddau arbennig yn y datblygiadau canlynol
- Mae ffurf, graddfa a chymeriad y datblygiad yn gwrthdaro â rhinweddau golygfaol y dirwedd a’r amgylchedd adeiledig presennol a/neu’n ymwthiol yn weledol.
- Mae gan ddatblygiadau nodweddion symudiad, sŵn a goleuadau a all erydu rhinweddau canfyddiadol fel tawelwch (gweledol a sain), natur wyllt neu awyr dywyll.
- Mae datblygiadau mewn lleoliadau gweledol sensitif, er enghraifft, ar orwelion, copaon clogwyni a bryniau, cribau, llethrau uchel, mae tir uwch yn edrych drostynt, ac mewn tirwedd agored.
- Datblygiadau mewn lleoliadau naturiol sensitif, er enghraifft, coetir llydanddail, corsydd, traethau, clogwyni arfordirol, rhostir agored, copaon mynyddoedd, afonydd, dyfroedd arfordirol.
- Mae datblygiadau ar nodweddion pwysig diwylliannol neu’n agos atynt. Er enghraifft, rhaeadrau, brigiadau creigiog, ogofâu, adeiladau a strwythurau hanesyddol, parciau a gerddi hanesyddol, coed hynafol, gwrychoedd, neu’n effeithio ar olygfeydd pwysig.
Asesu effeithiau morlun, tirwedd ac effeithiau gweledol
Ni ddylid cynnal asesiad tirwedd i gyfiawnhau lleoli datblygiad mewn safle anaddas. Dylid cyfeirio at bolisi a chanllawiau perthnasol y DU, cenedlaethol a lleol ac ystyried pwyntiau perthnasol mewn perthynas â’r cynnig.
Ar ôl i safle gael ei ddewis, mae angen asesiadau o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol ar gyfer datblygiadau sydd angen asesiad o’r effaith amgylcheddol, lle mae effeithiau tirwedd a gweledol sylweddol yn debygol.
Dylai asesiadau o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol, asesiadau o’r effaith ar y morlun a’r effaith weledol ac asesiadau gweledol o’r dirwedd wneud y canlynol:
- dangos yn benodol sut y mae effeithiau ar rinweddau arbennig unrhyw dirwedd ddynodedig wedi’u hasesu.
- asesu’r effeithiau ar harddwch naturiol yn yr ardal leol.
- cynnwys gwybodaeth am leoliad, dyluniad, deunyddiau, lliw a goleuadau, lle bo’n briodol a manylion am integreiddio datblygiad mewn ymateb i gymeriad a golygfeydd y dirwedd.
Argymhellir bod asesiadau o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol yn dilyn Canllawiau’r Sefydliad Tirwedd a’r Sefydliad Asesu Amgylcheddol ar gyfer Asesu’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol.
Lle bo’n berthnasol, disgwylir y bydd Asesiadau o’r Effaith ar y Morlun a’r Effaith Weledol ac asesiad cronnus yn cael eu cynnwys.
Ar gyfer cynlluniau llai, lle nad yw asesiad o’r effaith amgylcheddol yn berthnasol, mae asesiad gweledol o’r dirwedd, gan ddefnyddio’r un egwyddorion ag asesiad o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol, yn ddigonol.
Disgwylir y bydd asesiadau cymeriad tirwedd a morlun lleol yn cael eu defnyddio i lywio asesiadau.
Darllenwch ein canllawiau ar ddefnyddio LANDMAP mewn Asesiadau o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol Nodyn Cyfarwyddyd 046, sy’n darparu pellteroedd awgrymedig ar gyfer ardaloedd chwilio ac astudio y mae angen ei chwmpasu wrth asesu’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol ar gyfer cynigion sy’n cynnwys tyrbinau gwynt ar y tir a strwythurau fertigol.
Ar gyfer datblygiadau y tu allan i barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol:
Tirweddau ac ynni adnewyddadwy
Ni chaniateir datblygiadau gwynt a solar ar raddfa fawr mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
Darperir rhagor o wybodaeth am ble y gellir a ble na ellir caniatáu datblygiadau gwynt a solar ar raddfa fawr ym mholisïau 17 a 18 o Dyfodol Cymru 2040.
Gellir dod o hyd i ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw lle mae datblygiad ynni gwynt ar raddfa fawr yn dderbyniol mewn egwyddor ar dudalen 94.
Lawrlwythwch ‘Dyfodol Cymru Y Cynllun Cenedlaethol’ o llyw.cymru
Mae angen asesiad tirwedd ac asesiad gweledol manwl o hyd ar gynigion o fewn ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw.
Ni ddylai datblygiadau ynni gwynt arfaethedig y tu allan i’r ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw a nodwyd yn Cymru’r Dyfodol, a chynigion sy’n cynnwys pob technoleg ynni adnewyddadwy arall ar raddfa fawr, gael effaith andwyol annerbyniol ar y dirwedd gyfagos, yn enwedig ar leoliad parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
Am ganllawiau ar ddylunio datblygiadau ynni adnewyddadwy darllenwch:
Am leoli a dylunio manwl ffermydd gwynt darllenwch:
‘Lleoli a dylunio ffermydd gwynt yn y dirwedd - fersiwn 3a’ gan NatureScot.
Dylai datblygwyr wirio ‘Cynllun Datblygu’ yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol am dystiolaeth ategol ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy, megis asesiadau sensitifrwydd, asesiadau tirwedd a morlun, ardaloedd tirwedd arbennig.
Egwyddorion cynllunio
Dylid ystyried dyluniad datblygiadau o’r cychwyn cyntaf a dylai gael ei lywio gan unrhyw ganllawiau dylunio a briffiau datblygu/dylunio lleol sy’n bodoli eisoes.
Dylid defnyddio asesiadau o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol i lywio’r egwyddorion dylunio.
Dylid caniatáu digon o le ar gyfer lliniaru a seilwaith gwyrdd ar y dechrau er mwyn osgoi galwadau sy’n cystadlu am le o fewn y safle.
Darllenwch ein ‘Canllawiau ar seilwaith gwyrdd’’
Dylid nodi’r gofynion rheoli hirdymor ar gyfer cynlluniau tirwedd, a chynigion rheoli mewn cynllun tirwedd neu gynllun rheoli tirwedd ac ecoleg.
Dylid darparu cynlluniau adfer, er enghraifft ar gyfer datblygiadau mwynau neu gynlluniau datgomisiynu lle bo angen.
Ystyriwch yn ofalus y defnydd o liw neu fathau o ddeunyddiau a gorffeniadau i adlewyrchu cymeriad y dirwedd yn effeithiol a/neu liniaru effeithiau adeiladau a strwythurau yn y dirwedd.
Ystyriwch effeithiau llygredd golau ar y dirwedd, yn enwedig lle mae’r datblygiad o fewn Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a lle mae awyr dywyll yn nodwedd arbennig o dirwedd ddynodedig.
Gweler ein mapio o awyr dywyll
a
Gweler canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru ar Awyr Dywyll ar LLYW.CYMRU
Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol’ Llywodraeth Cymru (TAN12: Dylunio)’ yn darparu canllawiau defnyddiol ar ddylunio
Lawrlwythwch ‘Nodyn Cyngor Technegol 12’: Dylunio’ gan llyw.cymru
Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn darparu sawl dogfen ddefnyddiol gan gynnwys ‘Canllaw Creu Lleoedd’, ‘Lleoedd am Oes 2’ a ‘Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru: Pam, Beth a Sut.’
Ewch i wefan Comisiwn Dylunio Cymru
Rydym yn darparu canllawiau penodol ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau
Darllenwch ein canllawiau ar leoli a dylunio mastiau telathrebu
Darllenwch ein canllawiau ar gynllunio seilwaith grid trydan
Cyngor pellach gennym ni:
Dysgwch am y cyngor cynllunio rydyn ni’n ei gynnig i ddatblygwyr.