Setiau data ecoleg forol ar gyfer datblygiadau morol
Os oes angen data ecoleg morol cyfredol arnoch er mwyn cyflwyno cais am ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig, rydym yn argymell eich bod yn cychwyn gyda'r data hwn.
Mae'r data'n debygol o fod fwyaf defnyddiol yn ystod cyfnod cwmpasu unrhyw broses asesu ecolegol y mae angen i chi ei chynnal. Gall eich helpu i wneud y canlynol:
- deall pa ddata ecolegol sydd ar gael ar gyfer yr ardal ddaearyddol sy’n berthnasol i'ch cynnig
- deall pa gynefinoedd a rhywogaethau morol sy'n bresennol a'r derbynyddion a chyfyngiadau amgylcheddol posib i'ch datblygiad neu weithgaredd arfaethedig
- cynllunio unrhyw arolygon ecolegol y mae'n rhaid i chi ymgymryd â hwy
- dylunio rhaglen fonitro ar gyfer eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig
Sut i wirio perthnasedd y data
Bydd perthnasedd y data hwn yn dibynnu ar raddfa, natur a lleoliad eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig, yn ogystal â'r pwysau sy'n codi o'i herwydd a'r effaith debygol ar dderbynyddion ecolegol.
Mae'r holl ddata wedi cael ei gasglu dros amrywiaeth o amserlenni ac fel rhan o raglenni caffael data amrywiol. Mae peth o'r data a'r setiau data yn dod o arolygon neu gofnodion sy'n gyfyngedig o ran amser neu'n rai untro, ac mae eraill yn gydrannau rhaglenni goruchwylio a monitro parhaus.
Bydd y metadata ac unrhyw wybodaeth ategol sy'n gysylltiedig â phob un o'r setiau data yn helpu i esbonio pam a sut cafodd y data ei gasglu, pryd cafodd ei gasglu, a'r hyn mae'n ymdrin ag ef. Dylech wirio hyn er mwyn helpu i ddeall perthnasedd a defnyddioldeb y setiau data a nodir ar gyfer eich gofynion penodol.
Setiau data ecoleg forol allanol allweddol
Dyma'r setiau data ecoleg forol allanol allweddol:
- NBN Atlas Cymru
- Rhwydwaith Gwybodaeth a Data Amgylcheddol Morol – porth MEDIN
- Porth data Llywodraeth Cymru MapDataCymru
- Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru
- Cofnodwr Morol Ar-lein
- EMODnet – Map Cynefinoedd Gwely'r Môr a thudalen lawrlwytho
Data benthig
Data sylfaenol a nodweddu gwely'r môr
Data tarddle penodol yn bennaf yw’r data hwn o samplau cipolwg, creiddiau, arolygon deifio, fideos gostwng a sefydlog, ac arolygon rhynglanwol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn casglu ac yn defnyddio ffurfiau eraill ar ddata, gan gynnwys data mapio acwstig fel sonar sganio o’r ochr ac aml-belydr.
Gall y data tarddle penodol gynnwys y canlynol:
- cofnodion rhywogaethau
- helaethrwydd rhywogaethau
- data cynefinoedd ffisegol, gan gynnwys data maint gronynnau ar gyfer samplau gwaddodion
- disgrifiadau o gynefinoedd
- cofnodion biotop (sy'n deillio o'r data ar rywogaethau a chynefinoedd ffisegol ar gyfer man samplu)
Gweler data arolygon tarddle penodol o wely'r môr yng nghronfa ddata'r Cofnodwr Morol. Gallwch hefyd weld data tarddle penodol ar NBN Atlas Cymru, ond gall hwn fod ar gydraniad mwy bras. Os oes angen data sensitif ar gydraniad gofodol manylach, bydd angen i chi ofyn amdano gan ddeiliad y data.
Map arolwg o gynefinoedd rhynglanwol
Gweler y set ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer map cyflawn o gynefinoedd rhynglanwol yng Nghymru. Mae peth o’r data wedi cael ei dynnu o'r set ddata yn unol â'n canllawiau gweithredol ar ddata ecolegol, sy'n rhoi cyfyngiad ar y cydraniad gofodol y gellir rhyddhau rhai data ar rywogaethau. Gallwch ofyn am y set ddata lawn o gynefinoedd rhynglanwol gennym ni.
Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am ragor o adroddiadau sy'n ymwneud â'r arolwg rhynglanwol.
Data morfeydd heli
Rydym yn casglu data monitro ar forfeydd heli i wneud y canlynol:
- asesu cyflwr nodweddion o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan ofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
- fel rhan o asesiadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer cyrff dŵr aberol ac arfordirol
Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am adroddiadau ar forfeydd heli.
Mae setiau data defnyddiol eraill sy'n ymwneud â morfeydd heli yn cynnwys y canlynol:
- Mapiau cynefinoedd llystyfiant cenedlaethol ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
- Mapiau dangosol ar gyfer cynefinoedd morfeydd heli Atodiad I sy'n nodweddion Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a ddynodwyd dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy wefan MapDataCymru
- Mapiau Erthygl 17 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, sy'n darparu'r casgliad diweddaraf o ddata gofodol ar gyfer cynefinoedd morfeydd heli Atodiad I
Monitro morfeydd heli dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Gall graddau morfeydd heli yn y data hwn amrywio. Gallai hyn fod oherwydd y canlynol:
- y diben y lluniwyd y map ar ei gyfer
- y dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu’r data a llunio’r map
- a yw'r mapiau'n cynnwys llystyfiant aberol fel glaswelltiroedd gorlif
- y dyddiad y casglwyd y set ddata ar gyfer y map – cynefin deinamig yw morfa heli ac mae disgwyl i’w maint a chymunedau newid dros amser
Chwiliwch am gofnodion o rywogaethau morfeydd heli gan ddefnyddio Online Atlas of the British and Irish Flora ac NBN Atlas Cymru.
Monitro o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
Rydym yn casglu data monitro ar gynefinoedd a rhywogaethau morol i asesu cyflwr safleoedd a nodweddion morol.
Dewch o hyd i wybodaeth am safleoedd monitro, cynefinoedd a rhywogaethau, lleoliadau arolygon sonar sganio o’r ochr, a metadata am y gwaith hwn ar borth MEDIN.
Porwch drwy gronfa ddata'r Cofnodwr Morol ar gyfer rhagor o ddata monitro benthig.
Monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae asesiadau ecolegol morol yn ffurfio rhan o’n rhaglen fonitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gweler mapiau sy'n dangos asesiadau statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr ar gyfer cyrff dwr yng Nghymru ar Arsylwi Dŵr Cymru. Gellir cael mynediad iddynt hefyd drwy borth data Llywodraeth Cymru MapDataCymru.
Mae elfennau morol ein rhaglen fonitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn canolbwyntio ar gyrff dŵr aberol ac arfordirol. Gofynnwch am setiau data unigol gan unrhyw waith monitro a gynhaliwyd gennym o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr ar ddyfroedd aberol ac arfordirol. Mae'r elfennau yr ymdrinnir â hwy gan ein gwaith monitro biolegol ar ddyfroedd aberol ac arfordirol yng Nghymru'n cynnwys y canlynol:
- Infertebratau benthig
- Macroalgâu
- Angiosbermau
- Angiosbermau – morfa heli
- Pysgod
- Ffytoplancton
Ceir monitro cadw gwyliadwriaeth o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr hefyd o achosion o imposex mewn gwichiaid moch. Mae lluniau o'r awyr ar gael ar gyfer monitro algâu manteisgar, morwellt a morfeydd heli.
Rydym yn casglu data biolegol, ffisio-gemegol, hydromorffoleg ac ar lygryddion yn unol â'r canllawiau Monitro dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gweler gwybodaeth dechnegol fanwl am safonau monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Mapiau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd o nodweddion cynefinoedd morol Atodiad I
Gweler mapiau nodweddion cynefinoedd morol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (fel y'u restrir dan Atodiad I o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE) yng Nghymru gan ddefnyddio Lle. Mae'r rhain yn darparu maint sylfaenol dangosol y nodweddion ar yr adeg dynodi ac maent ond yn cael eu diweddaru pan fydd data newydd y gellir rhoi hyder digonol ynddo ar gael.
Nid yw'r mapiau o nodweddion dangosol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr un peth â'r mapiau a ddefnyddir ar gyfer adrodd o dan Erthygl 17 (MapDataCymru). Dylech ddefnyddio'r mapiau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i asesu effaith bosibl eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig ar nodweddion cynefin Ardal Cadwraeth Arbennig. Er mwyn gwneud hyn, dylech gyfeirio hefyd at ein pecynnau cyngor cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol Cymru. Mae'r pecynnau cyngor cadwraeth hefyd yn cynnwys gwybodaeth am rywogaethau arferol sy'n gysylltiedig â chynefinoedd dynodedig.
Gweler ein cyngor ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol trawsffiniol (Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren).
Porwch drwy ein cynlluniau rheoli craidd a mapiau cryno o safleoedd ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eraill (nid ydynt i gyd yn forol) sy'n cynnwys nodweddion morfa helo Atodiad I (Ardal Cadwraeth Arbennig Morfa Heli Arfordir Ynys Môn ac Ardal Cadwraeth Arbennig Cynffig.
Mapiau o nodweddion cynefinoedd ar gyfer adrodd o dan Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd
Gwelwch a lawrlwythwch fapiau o nodweddion cynefinoedd MapDataCymru sy'n ymwneud ag Erthygl 17 o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE. Dyma giplun o'r data gofodol diweddaraf ar nodweddion ar adeg adrodd, y tu mewn a'r tu allan i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Cânt eu hadolygu a'u diweddaru fel rhan o gylchred adrodd bob chwe blynedd.
Porwch drwy adroddiadau a mapiau nodweddion ar lefel y DU y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Gall cynefinoedd a rhywogaethau morol rhynglanwol yng Nghymru gael eu diogelu fel nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Rhagor o wybodaeth am nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig unigol.
Parth Cadwraeth Morol Sgomer
Rydym yn casglu data monitro ar gyfer Parth Cadwraeth Morol Sgomer i ddarparu'r dystiolaeth y mae ei hangen i adrodd ar ei gyflwr. Mae hefyd yn cyfrannu at asesu cyflwr a statws cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, y mae'r Parth Cadwraeth Morol oddi fewn iddi. Gweler yr adroddiad statws prosiect diweddaraf ar gyfer Parth Cadwraeth Morol Sgomer.
Cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir dan ddeddfwriaeth arall
Rydym yn casglu ac yn cynnal data ar gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd wedi'u rhestru dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 neu sydd wedi'u dynodi fel rhai sydd dan fygythiad ac yn dirywio dan Gonfensiwn OSPAR.
Gan ddefnyddio DataMapWales, gwelwch ar haenau map rhyngweithiol rhai cynefinoedd a rhywogaethau Adran 7 ac OSPAR. Mae haenau data unigol mewn setiau data cynefinoedd a rhywogaethau'n dynodi a yw cynefin neu rywogaeth wedi'i chynnwys yn Adran 7 a/neu ar restr OSPAR o gynefinoedd neu rywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio. I rai cynefinoedd, mae yna haenau data polygon a phwynt.
Gweler mapiau cynefinoedd a rhywogaethau OSPAR EMODnet ar gyfer Ewrop yn ei chyfanrwydd.
Dewch o hyd i gofnodion rhywogaethau a chynefinoedd Cymru ar NBN Atlas Cymru NBN Atlas Cymru.
Rhywogaethau estron goresgynnol
Chwiliwch am gofnodion rhywogaethau estron goresgynnol y deuir o hyd iddynt ac yr adroddir amdanynt yn nyfroedd Cymru ar y porth rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'r porth yn ategu Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron Prydain Fawr.
Ffynonellau data ychwanegol
Gwelwch a lawrlwythwch fapiau cynefinoedd a goladwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae'r mapiau'n cael eu safoni drwy eu trosi i system dosbarthu cynefinoedd EUNIS a’u fformatio yn unol â Fformat Cyfnewid Data Cynefinoedd Trosiedig Cynefinoedd Gwely'r Môr y Rhwydwaith Arsylwi a Data Morol Ewropeaidd (EMODnet).
Map cyflawn a rhagfynegol o gynefinoedd gwely'r môr ar raddfa eang yn nyfroedd y DU yw UKSeaMap 2018, wedi'i lunio drwy gyfuno modelau lluosog o baramedrau ffisegol. Mae EUSeaMap 2016 yr un peth ond ar gyfer dyfroedd Ewrop.
Set ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol sy’n cwmpasu pob rhan o’r DU yw Map Cynefinoedd Gwely'r Môr Lefel 3 EUNIS ac mae'n darparu gwybodaeth gyflawn am gynefinoedd islanwol yn y DU. Mae'n integreiddio data o arolygon maes a model cynefinoedd rhagfynegol ar raddfa eang (UKSeaMap).
Gweler Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru a gweddill y DU ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae modd gweld enwau safleoedd unigol drwy glicio ar Ardal Forol Warchoedig ar haen y map rhyngweithiol. Gallwch hefyd weld rhai nodweddion dynodedig drwy ddewis yr haenau perthnasol.
Mamaliaid morol
Teulu'r morfil
Mapiau Dosbarthu - Cymru
Toreithrwydd a Dosbarthiadau wedi'u Modelu ar gyfer Morfilod ac Adar y Môr yng Nghymru a'r Dyfroedd Cyfagos (Evans a Waggitt 2023).
Mae’r adroddiad yn cyflwyno dosbarthiad a helaethrwydd rhywogaethau o forfilod ac adar môr sy’n gyffredin yn nyfroedd Cymru a’r moroedd cyfagos. Mae’n cynnwys mapiau o 12 rhywogaeth o forfilod a welwyd, ac yn canolbwyntio ar bum rhywogaeth (llamhidydd, dolffin trwyn potel, dolffin cyffredin, dolffin Risso a morfil pigfain) lle mae digon o ddata wedi galluogi cynhyrchu mapiau arwyneb dwysedd dangosol.
Mae’r adroddiad hwn yn ddiweddariad i Atlas Mamaliaid Morol Cymru 2012 (Baines ac Evans 2012), sy’n disgrifio cyfraddau cymharol gweld y rhywogaethau uchod a’r morlo llwyd. Dylid defnyddio’r adroddiad newydd (Evans a Waggitt 2023) yn lle Atlas 2012.
Mae manylion allbynnau data’r gwaith hwn wedi’u nodi yn atodiad archif data’r adroddiad, a gellir lawrlwytho data o MapDataCymru.
Teulu’r Morfil
Llamhidydd
Yn 2019, dynodwyd chwe Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer llamhidyddion yn nyfroedd y DU. Roedd y broses yn cynnwys adolygiadau cynhwysfawr o’r data a oedd ar gael ar y pryd. Mae’r adnoddau hynny ar gael ar bob tudalen ACA, er enghraifft yma: Ardal Forol Warchodedig Gorllewin Cymru | Cynghorydd i’r Llywodraeth ar Gadwraeth Natur | Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).
Mae data monitro dolffiniaid trwyn potel (gweler isod) hefyd yn cynnwys data achlysurol ar weld llamhidyddion.
Dolffin trwyn potel
Asesiadau Cyflwr ACA
Yn 2025, cwblhawyd asesiadau cyflwr nodweddion ACA ac roeddent yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o’r data a oedd ar gael. Gweler adroddiadau ar ddolffiniaid trwyn potel ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ac ACA Bae Ceredigion yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd Cymru (EMS).
Data monitro
Mae’r adroddiadau canlynol yn cynnwys data monitro dolffiniaid trwyn potel o Fae Ceredigion. Mae adroddiad 2020-24 ar y gweill ar hyn o bryd.
Monitro dolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion 2014- 2016 Adroddiad 191 (cyfoethnaturiol.cymru). Adroddiad Tystiolaeth CNC 191
Monitro’r dolffin trwyn potel a’r llamhidydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion a Phen Llŷn a’r Sarnau 2011 - 2013 Adroddiad Tystiolaeth CNC Rhif 4
Mae manylion allbynnau data’r gwaith hwn wedi’u nodi yn atodiadau archif data’r adroddiadau. Dim ond o dan drwydded y gallwn ryddhau’r data hyn a dylech ddilyn y gweithdrefnau ar dudalen Mynediad i’n Data ar ein gwefan os ydych chi am ofyn am y data.
Adroddiadau allweddol eraill:
- Abundance and life history parameters of bottlenose dolphin in Cardigan Bay: monitoring 2005-2007 (Pesante G, Evans PGH, Anderwald P, Powell D, McMath M (2008a) Connectivity of bottlenose dolphins in Wales: North Wales photo-monitoring. Adroddiad Monitro Morol Rhif 62 CCGC. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor)
- Connectivity of bottlenose dolphins in Wales: North Wales photo-monitoring (Pesante G, Evans PGH, Baines ME, McMath M (2008b) Abundance and Life History Parameters of Bottlenose Dolphin in Cardigan Bay: Monitoring 2005-2007. Adroddiad Monitro Morol Rhif 61 CCGC. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor)
Dolffin Risso
Eisfeld, S.M. a Lott, R. (2013). Risso’s dolphins in North Wales. Adroddiad Gwyddoniaeth Contract CCGC Rhif 1021, tt 26. (Cysylltwch â chanolfan cwsmeriaid CNC i gael mynediad)
Arolygon dolffiniaid Risso a gynhaliwyd rhwng 1997-2016 o amgylch Ynys Enlli a Phen Llŷn (Eisfeld-Pierantonio a James, 2018 (Adroddiad Tystiolaeth CNC Rhif 261)) Bydd angen caniatâd Whale and Dolphin Conservation arnoch i atgynhyrchu neu ddefnyddio’r data hyn.
Ffynonellau eraill
Mae data morfilod ar gyfer dyfroedd Cymru hefyd yn cael ei gasglu a’i gadw gan:
- Sefydliad Gwylio'r Môr
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (yn cynnwys Canolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion)
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Whale and Dolphin Conservation
- Ymddiriedolaeth Môr Cymru
Dylech ofyn am ragor o wybodaeth a data gan y grŵp neu’r sefydliad yn uniongyrchol.
Prosiectau Graddfa Fawr a Chydweithredol (pob rhywogaeth o deulu’r morfilod)
Mae Small cetaceans in European Atlantic waters and the North Sea (SCANS) yn gyfres o arolygon ar raddfa fawr o forfilod yn nyfroedd Iwerydd Ewrop, a ddechreuodd yn 1994. Yr arolwg SCANS diweddaraf oedd SCANS IV yn 2022. Cynhaliwyd arolwg blaenorol SCANS III yn 2016, SCANS II yn 2005/2007, a SCANS yn 1994.
Mae’r Rhaglen data Morfilod ar y cyd (JDCP) yn blatfform ac yn set o offer a ddatblygwyd i wella’r gwaith o gasglu a choladu data morfilod a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch. Mae’n cynnwys tair tudalen we gysylltiedig: Hwb Gwybodaeth JNCC, Porth Data JCDP (a gynhelir yng nghanolfan ddata Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr (ICES)); a Chatalog Metadata JCDP (a gynhelir ar GeoNetwork ICES). Mae’n rhoi’r gallu i gasglwyr data, ceidwaid a defnyddwyr i lanlwytho a chael mynediad at ddata arolwg morfilod a gwybodaeth gysylltiedig ynghylch sut a pham y casglwyd y data hyn, yn ogystal â gwybodaeth i gefnogi casglu a rheoli data arolwg morfilod sy’n cydymffurfio â JCDP mewn ffordd safonol.
Mae’r rhaglen arolwg ObSERVE yn darparu gwell gwybodaeth am rywogaethau gwarchodedig a chynefinoedd sensitif y môr trwy gasglu data o ansawdd uchel ac o’r radd flaenaf ar draws Parth Economaidd Neilltuedig (EEZ) Iwerddon.
Mae’r Atlas o ddosbarthiad teulu’r morfil yn nyfroedd gogledd-orllewin Ewrop, a gyhoeddwyd yn 2003 gan JNCC, yn rhoi disgrifiad a chipolwg o ddosbarthiad pob un o’r 28 rhywogaeth o forfilod y gwyddys yn sicr eu bod wedi bod yn bresennol yn y dyfroedd oddi ar ogledd-orllewin Ewrop yn y 25 mlynedd cyn ei gyhoeddi. Mae’n parhau i fod yn adnodd defnyddiol, er ei fod bellach braidd yn hen. Mae gwybodaeth ychydig yn fwy diweddar ar gyfer rhai rhywogaethau hefyd ar gael yn Adroddiad JNCC Rhif 517 Dadansoddiad o adnoddau Rhaglen Data Morfilod ar y Cyd: Data cam III a gyhoeddwyd yn 2016, a gellir dod o hyd i fapiau dosbarthiad lefel y DU yma: Mapiau dosbarthiad o boblogaethau morfilod ac adar morol yng ngogledd‐ddwyrain yr Iwerydd - Waggitt - 2020 - Journal of Applied Ecology - Llyfrgell Ar-lein Wiley. Mae dadansoddiadau mwy cyfoes ar y gweill drwy brosiect POSEIDON.
Morloi llwyd
Data ar ffurf lluniau adnabod
Fe wnaethom ni a’n partneriaid gynnal arolygon morloi llwyd a chasglu delweddau ar ffurf lluniau adnabod o forloi o bob cwr o Gymru (MapDataCymru); disgrifir y gwaith hwn yn yr adroddiad canlynol: Langley ac eraill. (2018) EIRPHOT: Asesiad hollbwysig o gronfa ddata lluniau adnabod y morlo llwyd (Halichoerus grypus) yng Nghymru. Cyhoeddir canlyniadau hefyd yn Langley ac eraill 2020: Defnydd safleoedd a chysyllted morloi llwyd benywaidd (Halichoerus grypus) o amgylch Cymru. Mae’r data yn darparu hanesion dal morloi unigol, gan roi gwybodaeth am ffyddlondeb safleoedd, cysylltedd rhwng safleoedd a goroesiad. Gellir cyflenwi’r data o dan drwydded a dylech ddilyn y gweithdrefnau ar dudalen Mynediad i’n data ar ein gwefan os ydych chi am ofyn am ddata.
Arolygon a data bwrw lloi
Mae morloi yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y môr. Felly mae amcangyfrifon o ddwysedd morloi yn y môr yn ystyriaeth bwysig mewn asesiadau amgylcheddol fel y darperir yn Carter ac eraill 2025 Dosbarthiad morloi yn y môr yn silff gogledd-orllewin Ewrop: Tuag at cadwraeth a rheolaeth dros ffiniau.
Yn ogystal, darperir setiau data gan Carter ac eraill sy’n manylu ar ddosbarthiad morloi llwyd a llamhidyddion ar y môr ar silff gogledd-orllewin Ewrop i’w lawrlwytho.
Mae data ar nifer a dosbarthiad morloi llwyd yng Nghymru (gan gynnwys cyfrifiadau o forloi ar y lan ar ddistyll y trai, dosbarthiad safleoedd geni a chyfrifiadau lloi) wedi’u casglu dros sawl degawd ac mewn sawl lleoliad yng Nghymru, gan gynnwys Sgomer, Ynys Dewi, Ynys Enlli, gogledd Cymru a gorllewin Cymru. Mae’r adroddiadau niferus sy’n deillio o’r gwaith hwn wedi’u rhestru ar dudalennau Darganfod Data CNC a chyhoeddiadau morol ar ein gwefan.
Yn ddiweddar, comisiynodd CNC yr Uned Ymchwil Mamaliaid Môr (SMRU), Prifysgol St Andrews, i gynnal arolwg synoptig cynhwysfawr o arfordir Cymru er mwyn cyfrif y morloi a oedd ar y lan yn ystod cyfnod arolwg mis Awst 2023. Cyflwynir y data a gasglwyd yn adroddiad tystiolaeth 865: Cyfrifiad o forloi llwyd yng Nghymru gan ddefnyddio arolygon o’r awyr.
Mae ein data’n bwydo i raglen ehangach y DU, a gydlynir gan yr Uned Ymchwil Mamaliaid Môr (SMRU). Caiff hyn ei adolygu gan Bwyllgor Arbennig NERC ar Forloi, sy’n darparu amcangyfrifon o boblogaethau morloi’r DU.
Gogledd Cymru
Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf o loi bach morloi llwyd, a oedd yn darparu amcangyfrifon o nifer y lloi a anwyd a’u dosbarthiad yng ngogledd Cymru (rhwng Aberystwyth ac Aber Afon Dyfrdwy), yn 2017.
Gallwch ofyn am ragor o setiau data gan:
- Arsyllfa Adar Hilbre (ar gyfer Banc Tywod West Hoyle yn aber Afon Dyfrdwy)
- RSPB ac Arsyllfa Adar a Maes Enlli (ar gyfer cyfrifiadau distyll y trai wythnosol o forloi llwyd yn Ynys Enlli)
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (cyfrifon llanw isel rheolaidd o forloi llwyd wrth Riwledyn ger Llandudno)
Sir Benfro
Er ei fod wedi dyddio, mae Cyfrifiad morloi llwyd gorllewin Cymru 1992-1994 Baines ac eraill, 1995 yn dal i fod yn set ddata allweddol ar gyfer y morloi llwyd yng ngorllewin Cymru/Sir Benfro. Adroddiad Gwyddoniaeth Contract CCGC Rhif 131. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor. I gael mynediad at yr adroddiad hwn cysylltwch â chanolfan cwsmeriaid CNC.
Fel rhan o’n gwaith monitro ACA blaenorol a gomisiynwyd, darperir crynodeb o gyfrifiadau lloi yng ngogledd Sir Benfro yn: Strong ac araill 2006. Monitro morloi llwyd Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro 2005. Rhif Adroddiad Monitro Morol CCGC: 26; fersiwn wedi’i golygu i hepgor gwybodaeth, tt 51.
Mae nifer o adroddiadau mwy diweddar sy’n cyflwyno data o gyfrifiadau lloi o amgylch Sir Benfro: Gweler ein hadroddiadau ar dudalennau cyhoeddiadau morol ein gwefan.
Mae gwaith monitro lloi morloi llwyd wedi’i gynnal (ers y 1970au) ar Sgomer, sydd bellach yn Barth Cadwraeth Forol Sgomer, sy’n cynnwys Ynys Sgomer a’r tir mawr (Marloes). Mae data cynhwysfawr ar gael drwy’r adroddiadau blynyddol ar ein tudalennau cyhoeddiadau morol.
Rhoddir crynodeb o ddata bwrw lloi morloi llwyd hyd at 2016 ar Ynys Dewi yma: Morgan LH, Morris CW, Stringell TB. (2018). Ffenoleg bwrw lloi morloi llwyd ar Ynys Dewi, Sir Benfro. Adroddiad Tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru Rhif: 156, tt 22 Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor. Gellir gofyn am ddata o Ynys Dewi gan yr RSPB.
Data Safleoedd Wedi’u Dynodi a Rhywogaethau a Warchodir
Rheoliadau Cynefinoedd: Mapiau a data Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer nodweddion mamaliaid morol Atodiad II
Mae tair rhywogaeth o famaliaid morol wedi’u rhestru o dan Atodiad II o Reoliadau Cynefinoedd yr UE sy’n nodweddion dynodedig o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) morol yng Nghymru:
- Dolffin trwyn potel (Tursiops truncatus)
- Llamhidydd (Phocoena phocoena)
- Morlo llwyd (Halichoerus grypus)
Cewch ragor o wybodaeth am y rhywogaethau hyn, gan gynnwys lle maent yn bresennol fel nodwedd o ACA.
Gweler ein pecynnau cyngor cadwraeth ac asesiadau cyflwr mewn perthynas â dolffiniaid trwyn potel a morloi llwyd.
Rheoliadau Cynefinoedd: Adrodd Rheoliad 9A
Cyhoeddwyd Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2019-2024 ym mis Ionawr 2026. Mae adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A yn cynrychioli asesiad lefel gwlad cyntaf Cymru o dan Reoliad 9A o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd yng Nghymru). Fe’i paratowyd ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae’n integreiddio gwybodaeth am gynefinoedd, rhywogaethau nad ydynt yn adar ac adar, gan roi cyfrif cynhwysfawr o’u tueddiadau, pwysau a mesurau cadwraeth.
Mae adroddiadau lefel y DU ar gyfer Rheoliad 9A (2019-2024) ar gael ar y gwefannau canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2019-2024: Data rhywogaethau morol y DU
- Adrodd ar Reoliadau Cynefinoedd | Cynghorydd i lywodraeth ar gadwraeth natur | JNCC
- Adroddiadau ar Reoliadau Alldraeth 2019–2024: Gwybodaeth gefnogol (cynefinoedd a rhywogaethau adroddiadau lefel nodwedd) | Hyb adnoddau JNCC
Cyhoeddwyd adroddiadau ar Erthygl 12 ac Erthygl 17 blaenorol ar lefel y DU gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).
Data mamaliaid morol eraill
Mae Unedau rheoli ar gyfer morfilod yn nyfroedd y DU (IAMMWG, 2015) yn nodi unedau rheoli ar gyfer y saith rhywogaeth fwyaf cyffredin teulu’r morfil yn nyfroedd y DU. Darperir ffigurau helaethrwydd amcangyfrifedig wedi’u diweddaru a ffiniau pob uned reoli yn Inter-Agency Marine Mammal Working Group (2023): Adolygiad o ffiniau unedau rheoli ar gyfer morfilod yn nyfroedd y DU (2023) | Hyb adnoddau JNCC. Sylwer bod amcangyfrifon hŷn (2016) SCANS III ac ObSERVE yn cael eu defnyddio – mae diweddariad ar y gweill.
Mae’r llamhidydd hefyd wedi’i restru ar restr Comisiynau Oslo a Paris (OSPAR) o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad ac sy’n dirywio. Mae Adroddiadau Statws Ansawdd OSPAR (2023) yn darparu cyfoeth o wybodaeth a data ar ddosbarthiad a helaethrwydd morfilod, nifer y lloi morloi llwyd a anwyd, dosbarthiad morloi ac amcangyfrifon o sgil-ddalfeydd: Pob Asesiad Dangosydd - OSPAR-OAP (Prod).
Mae Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sgil-ddalfeydd rhanbarthol (gogledd-ddwyrain Môr yr Iwerydd a’r moroedd cyfagos) o rywogaethau gwarchodedig, gan gynnwys mamaliaid morol: Eitem - Adroddiad gweithgor ar sgil-ddalfa rhywogaethau a warchodir (WGBYC) 2025 - Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr - Figshare.
Adar morol
Data adar morol
Mae European Seabirds at Sea yn cynnwys data amlder a dosbarthiad adar y môr ar lefel y DU a gogledd-orllewin Ewrop. Mae’r Atlas Morol, data Dosbarthiad ac amlder a fodelwyd ar gyfer Morfilod ac Adar Morol Cymru a'r Dyfroedd Cyfagos ac adroddiad a gynhyrchwyd yn 2023 yn ogystal â gwedudalen CNC Mapio ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio morol yn cynnwys data amlder a dosbarthiad adar y môr ar lefel Cymru gyfan.
Rhaglen fonitro flynyddol barhaus, a sefydlwyd yn 1986, yw'r Rhaglen Monitro Adar Môr (SMP), o 25 o rywogaethau adar môr sy'n bridio'n rheolaidd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'r data'n cynnwys gwybodaeth am nythfeydd adar môr yng Nghymru. Mae adroddiadau blynyddol y Rhaglen Monitro Adar Môr yn dogfennu tueddiadau yn niferoedd y boblogaeth a llwyddiant bridio, cynhyrchedd, goroesiad a deiet adar môr sy'n bridio.
Mae'r Rhaglen Monitro Adar Môr hefyd yn cynnwys cyfrifiadau bridio cyfnodol o ran adar môr er mwyn gwneud y canlynol:
- asesu iechyd a statws cadwraeth y boblogaeth adar môr
- effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar amgylcheddau morol
- llywio cynllunio morol
Cydlynwyd y cyfrifiad cyfredol, Seabirds Count, gan JNCC a dechreuwyd ar y gwaith arolygu yn 2015, a chyhoeddwyd y canlyniadau ar 16 Tachwedd 202
Mae’r Arolwg Adar Gwlyptir (WeBs) a’r Arolwg Adar Dŵr nad ydynt yn Aberol (NEWS) yn cael eu cydlynu gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Mae WeBs yn cynnwys cyfrifiadau rheolaidd o adar môr gaeafol nad ydynt yn bridio mewn ardaloedd arfordirol, gwlyptir a rhynglanwol. Mae NEWS yn cwblhau cyfrifiadau cyfnodol (bod degawd yn fras) o adrannau anaberol o arfordir nad ydynt yn cael eu trin gan WeBs.
Gall y setiau data hyn gael eu defnyddio mewn ffordd ddefnyddiol i lywio astudiaethau cwmpasu ar gyfer ceisiadau gwaith achos, er y bydd rhagor o ddata sy'n benodol i safleoedd fel arfer yn angenrheidiol i lywio asesiadau amgylcheddol.
Adar morol dynodedig a gwarchodedig
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig y Gyfarwyddeb Adar
Mae rhai rhywogaethau adar morol ac adar dŵr yn nodweddion dynodedig Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru, fel y sefydlir dan y Gyfarwyddeb Adar.
Gweler ffiniau Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru ar wefan MapDataCymru. Gallwch ganfod enwau safleoedd unigol drwy glicio ar y map rhyngweithiol a gallwch lawrlwytho data ffiniau safleoedd o'r wefan.
Rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol ac arfordirol yng Nghymru.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Gall adar morol yng Nghymru hefyd gael eu diogelu fel nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Gweler ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru. Gallwch ganfod enwau safleoedd unigol drwy glicio ar y map rhyngweithiol yn ogystal â lawrlwytho data ar ffiniau'r safleoedd.
Rhagor o wybodaeth am nodweddion gwarchodedig Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig unigol.
Data arall ar adar morol
Dysgwch fwy am boblogaethau adar morol yng Nghymru yn yr adroddiad State of Birds in Wales 2022.
Data ar bysgod
Data sydd ar gael ar gyfer rhywogaethau pysgod gwarchodedig, dynodedig neu restredig
Rhywogaethau pysgod gwarchodedig
Mae gwybodaeth am rywogaethau pysgod a warchodir gan y gyfraith ar gael yma:
Mae llawer o'r rhywogaethau hyn i’w cael mewn dyfroedd morol Cymru am gyfnod neu holl gyfnod eu cylch bywyd.
Rhywogaethau pysgod Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a Safleoedd Ramsar
Mae pedair rhywogaeth o bysgod ymfudol (sef rhywogaethau sy'n treulio rhan o'u cylch bywyd mewn dŵr croyw a rhan mewn dŵr hallt) wedi'u rhestru o dan Atodiad II i Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE sy'n nodweddion dynodedig o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) morol yng Nghymru:
- Llysywen bendoll y môr Petromyzon marinus
- ACA Aber Afon Hafren
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Sir Benfro Forol
- ACA Bae Ceredigion
- ACA Aber Afon Dyfrdwy
- Llysywen bendoll yr afon Lampetra fluviatilis
- ACA Aber Afon Hafren
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Sir Benfro Forol
- ACA Bae Ceredigion
- ACA Aber Afon Dyfrdwy
- Herlyn Alosa alosa
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Sir Benfro Forol
- Gwangen Alosa fallax
- ACA Aber Afon Hafren
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Sir Benfro Forol
Mae gan Safle Ramsar Aber Afon Hafren rywogaethau pysgod ymfudol hefyd fel diddordeb cymwys y safle; mae hyn yn cynnwys y rhywogaethau pysgod Atodiad II dynodedig o'r ACA sy'n gorgyffwrdd ond hefyd rhywogaethau pysgod mudol eraill, sef eog yr Iwerydd Salmo salar, y brithyll môr Salmo trutta a’r llysywen Ewropeaidd Anguilla anguilla.
Mae'r casgliad pysgod mudol a'r casgliad pysgod aberol yn aber afon Hafren hefyd yn is-nodweddion o nodwedd aberoedd ACA Aber Afon Hafren, ac mae gan lawer o nodweddion cynefin Atodiad I o ACAau morol yng Nghymru amcan cadwraeth ar gyfer cymunedau biolegol y nodwedd.
Afonydd sy'n ACAau ac sydd â rhywogaethau pysgod ymfudol (eog yr Iwerydd, llysywen bendoll y môr, llysywen bendoll yr afon, yr herlyn a’r wangen) fel nodweddion diddordeb cymwys yw ACA Afon Gwy, ACA Afon Wysg, ACA Afon Tywi, ACA Afonydd Cleddau, ACA Afon Teifi, ACA Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd, ACA Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn, ac ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Bydd y rhywogaethau hyn yn treulio rhan o'u bywyd yn yr amgylchedd morol ac felly gallant fod yn berthnasol i'w hystyried ar gyfer gweithgareddau neu ddatblygiadau morol.
Gellir gweld a lawrlwytho ffiniau'r ACAau a Safleoedd Ramsar yma:
- MapDataCymru / Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau)
- MapDataCymru / Gwlyptiroedd Ramsar o bwysigrwydd rhyngwladol
Darperir ein cyngor cadwraeth ar gyfer y safleoedd perthnasol sydd â rhywogaethau pysgod ymfudol fel nodweddion isod, gyda manylion pellach, gan gynnwys mapiau safle, ar gael yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig.
- ACA a Safle Ramsar Aber Afon Hafren
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Sir Benfro Forol
- ACA Bae Ceredigion
- ACA Aber Afon Dyfrdwy
- ACA Afon Gwy
- ACA Afon Wysg
- ACA Afon Tywi
- ACA Afonydd Cleddau
- ACA Afon Teifi
- ACA Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd
- ACA Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
- ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
Mae ffurflenni data safonol ar gyfer pob safle ar gael ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).
Darperir ein hasesiadau cyflwr ar gyfer ACAau morol â nodweddion pysgod ymfudol isod:
- ACA a Safle Ramsar Aber Afon Hafren
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Sir Benfro Forol
- ACA Bae Ceredigion
- ACA Aber Afon Dyfrdwy
Mae asesiad lefel gwlad cyntaf Cymru o statws cenedlaethol y rhywogaethau hyn o dan Reoliad 9A o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd yng Nghymru) ar gael yma, ac mae'n cynnwys asesiadau a mapiau dosbarthiad ar gyfer pob un o'r rhywogaethau pysgod ymfudol yn Atodiad II:
Rhywogaethau pysgod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae saith rhywogaeth o bysgod ymfudol yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru.
- Llysywen bendoll y môr Petromyzon marinus
- SoDdGA Aber Afon Hafren
- SoDdGA Aber Afon Dyfrdwy
- SoDdGA Afon Teifi
- SoDdGA Afon Dyfrdwy
- Llysywen bendoll yr afon Lampetra fluviatilis
- SoDdGA Aber Afon Hafren
- SoDdGA Aber Afon Dyfrdwy
- SoDdGA Afon Teifi
- SoDdGA Afon Dyfrdwy
- Herlyn Alosa alosa
- SoDdGA Aber Afon Hafren
- SoDdGA Arfordir Pen-bre
- SoDdGA Aber Afon Taf
- SoDdGA Afon Tywi
- Gwangen Alosa fallax
- SoDdGA Aber Afon Hafren
- SoDdGA Arfordir Pen-bre
- SoDdGA Aber Afon Taf
- SoDdGA Afon Tywi
- Brwyniad Conwy Osmerus eperlanus
- SoDdGA Aber Afon Dyfrdwy
- SoDdGA Afon Dyfrdwy
- SoDdGA Dyfrffordd Aberdaugleddau
- Eog yr Iwerydd Salmo salar
- SoDdGA Aber Afon Hafren
- SoDdGA Afon Teifi
- SoDdGA Afon Dyfrdwy
- Llysywen Ewropeaidd Anguilla anguilla
- SoDdGA Aber Afon Hafren
Gellir gweld a lawrlwytho ffiniau'r SoDdGAau yma:
Mae dyfyniadau, mapiau, cynlluniau rheoli a gweithrediadau a allai fod yn niweidiol i'r SoDdGAau ar gael yn:
Mae rhywogaethau pysgod yng Nghymru hefyd wedi'u dynodi'n nodweddion o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) dŵr croyw ac afonol yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae'r rhain yr un fath â'r ACAau afonol a restrir yn adran 5.1.2 uchod.
Rhywogaethau pysgod a restrir o dan ddeddfwriaeth arall
Mae sawl rhywogaeth o bysgod ymfudol a morol wedi'u rhestru yn adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy'n berthnasol i ardaloedd morol ac aberol Cymru (wedi'u rhestru o dan ‘pysgod’ a ‘morol’). Mae rhai o'r rhain hefyd ar restr OSPAR o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio.
Data arall sydd ar gael ar gyfer rhywogaethau pysgod ymfudol
Mae data dosbarthiad rhywogaethau ar gael yma:
Mae gwybodaeth ychwanegol am ddosbarthiadau rhywogaethau pysgod ymfudol o'n harolygon a’n gwaith monitro dŵr croyw ar gael yma:
Mae cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod môr CNC ar gael yma:
Mae data pysgodfeydd ac asesiadau stoc ar gyfer rhai rhywogaethau pysgod ymfudol ar gael yma:
- Asesiad o Stociau a Physgodfeydd Eogiaid, Cymru a Lloegr 2024 – GOV.UK
- Ystadegau pysgodfeydd salmonidau a dŵr croyw ar gyfer 2024 – GOV.UK
- Gweithredu Cynlluniau Rheoli Llyswennod y DU (2020–2023) – GOV.UK
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn asesiad o statws a thueddiadau adnoddau naturiol yng Nghymru, ac mae'n cynnwys manylion am lawer o boblogaethau rhywogaethau pysgod ymfudol:
Os nad yw'r data hwn yn bodloni eich gofynion data penodol, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor arbenigol wrth CNC ar gyfer lleoliad neu rywogaeth benodol a chwilio am ffynonellau data eraill megis llenyddiaeth academaidd a llwyd.
Data arall sydd ar gael ar gyfer rhywogaethau pysgod aberol a morol (gan gynnwys elasmobranciaid)
Mae data ar ddosbarthiad rhywogaethau ar gyfer pysgod aberol a morol ar gael yma:
Mae gwybodaeth am bresenoldeb a thoreithrwydd rhywogaethau pysgod aberol o'n harolygon pysgod aberol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Dysgwch mwy am Data Pysgod Morol CNC yma.
Cynhelir gwaith samplu gan ddefnyddio rhwydi sân a thiwb, treillrwydi trawst a threillrwydi dyfrgwn. Gellir gweld mapiau sy'n dangos asesiadau statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer cyrff dŵr yng Nghymru ar-lein gan ddefnyddio’r canlynol: Arsylwi Dyfroedd Cymru a’u lawrlwytho yn: Dosbarthiad Cylch 3 Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr | MapDataCymru.
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn asesiad o statws a thueddiadau adnoddau naturiol yng Nghymru, ac mae'n cynnwys manylion am lawer o boblogaethau rhywogaethau pysgod aberol a morol:
Mae yna nifer o setiau data pysgod morol a gynhyrchir gan eraill ac sydd ar gael o'r ffynonellau a ddisgrifir isod. Mae'r data hwn wedi’i gasglu at ddibenion asesu pysgodfeydd penodol ac efallai na fydd yn bodloni eich gofynion data penodol, felly efallai y bydd angen i chi geisio cyngor arbenigol ar gyfer lleoliad neu rywogaeth benodol. Hefyd, nid yw'r data hwn yn rhoi darlun cyflawn o bysgod morol yng Nghymru a dylid ystyried y dulliau a ddefnyddiwyd, yr ardaloedd a arolygwyd, ac amseriad yr arolygon.
Mae data pysgodfeydd ac asesiadau stoc ar gyfer rhai rhywogaethau pysgod morol ar gael gan y Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Mor (ICES) yma:
Mae ystadegau pysgodfeydd môr, gan gynnwys data ar lanio, ar gael ar gyfer y DU gan y Sefydliad Rheoli Morol yma:
Mae Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas), mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, yn casglu data ar bysgod yn y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon yn rheolaidd, gan gynnwys dyfroedd Cymru. Gellir dod o hyd i'r data hyn neu gellir gofyn amdano drwy dudalen hafan porth data Cefas.
I gael gwybodaeth am safleoedd silio a magu rhywogaethau pysgod penodol yn nyfroedd y DU, mae'r data a'r adroddiadau canlynol yn berthnasol:
- Spawning and nursery grounds of forage fish in Welsh and surrounding waters from 2008 to 2020 – Campanella a van der Kooij (2021)
- Spawning and Nursery Grounds Layers for Selected Fish in UK Waters in 2010 – Ellis ac eraill (2012)
- Fisheries spawning and nursery areas ‘Fisery Sensitivity Maps in British Waters’ GIS Layers for 1998 – Coull ac eraill (1998)
Ffynonellau data eraill yw:
- Cronfa Ddata Arolygon Treillio (DATRAS), sy'n storio data yn bennaf am arolygon pysgod a gynhelir drwy dreillio gwaelod y môr ac a gydlynir gan grwpiau arbenigol y Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr gyda data arolwg sy’n cwmpasu Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd.
- Porth data morol MEDIN, lle gallwch chwilio am setiau data pysgodfeydd a dyframaethu o dan ‘thema data’ yn y chwiliad uwch.
Os nad yw'r data hwn yn bodloni eich gofynion data penodol, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor arbenigol wrth CNC ar gyfer lleoliad neu rywogaeth benodol a chwilio am ffynonellau data eraill megis llenyddiaeth academaidd a llwyd.
Asesiadau stociau cocos
Rydym yn cynnal neu'n comisiynu arolygon stociau cocos yn y gwanwyn a'r hydref yn Aber Afon Dyfrdwy er mwyn asesu stociau cocos a llywio penderfyniadau rheoli ynghylch cwotâu pysgod cregyn masnachol ac anghenion bwyd adar y gaeaf. Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli pysgodfeydd cocos cyhoeddus eraill yng Nghymru gan gynnwys Cilfach Tywyn a'r Tair Afon a gellir cysylltu â nhw drwy Pysgodfeydd morol a rhynglanwol (LLYW.CYMRU).
Môr-grwbanod
Mae chwech o’r saith rhywogaeth o grwbanod môr wedi’u cofnodi yn nyfroedd y DU, ac mae pump ohonynt yn cael eu gwarchod yn llym o dan Atodlen 2 o’r Rheoliadau Cynefinoedd (Atodiad IV o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd):
- Crwban môr cefn-lledr (Dermochelys coriacea)
- Crwban môr pendew (Caretta caretta)
- Crwban môr gwalchbig (Eretmochelys imbricata)
- Crwban môr pendew Kemp (Lepidochelys kempii)
- Crwban môr gwyrdd (Chelonia mydas)
Y chweched rhywogaeth, y crwban môr pendew lliw olewydd (Lepidochelys olivacea), a ddarganfuwyd yn fyw yn sownd ar lan afon Menai, Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2016; nid yw’r rhywogaeth hon wedi’i rhestru yn Atodiad IV y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.Y seithfed rhywogaeth o grwbanod môr yw’r crwban cefn gwastad (Natator depressus), sy’n endemig i ddyfroedd Awstralasia.
Dim ond y crwban môr cefn-lledr sy’n cael ei ystyried yn ymwelydd rheolaidd (ond prin). Ystyrir bod y pum rhywogaeth arall yn grwydrol yn nyfroedd y DU.
Gweld a lawrlwytho adroddiadau lefel y DU ar gyfer Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2019-2024: data rhywogaethau morol y DU ar gyfer y pum rhywogaeth a restrir uchod. Mae’r crwban môr cefn-lledr a’r crwban môr pendew hefyd wedi’u rhestru o dan:
• Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
• Rhestr OSPAR o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad ac sy’n dirywio
Mae cronfa ddata crwbanod môr a reolir gan Marine Environmental Monitoring (MEM) yn cadw cofnod o bob achos o weld crwban môr a phob crwban môr sy’n mynd yn sownd ar lan yn Ynysoedd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon, a gallwch lawrlwytho adroddiadau cryno blynyddol ohoni.
Mae pob cofnod o grwbanod môr yn y gronfa ddata yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol i NBN Atlas Cymru.
Cael mynediad i'n data
Rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i'n data.
Data arall y mae'n bosib y bydd ei angen arnoch
Nid yw hon yn rhestr gyfan o'r setiau data ecoleg morol i Gymru sydd ar gael.
Yn dibynnu ar eich gofynion data a gwybodaeth, efallai y bydd angen i chi wneud y canlynol:
- chwilio am ddata, arolygon ac adroddiadau a gynhyrchir ac a gedwir gan sefydliadau, cwmnïau ac ymchwilwyr eraill
- comisiynu casglu data ychwanegol
Eich cyfrifoldeb chi yw egluro a dod o hyd i'r data a gwybodaeth y mae eu hangen arnoch i gefnogi'ch cais.