Llwybrau rhedeg yn ein coetiroedd

Mae llwybrau rhedeg yn rhai o'r coetiroedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r llwybrau rhedeg fel arfer yn dechrau o faes parcio lle ceir panel gwybodaeth sy'n nodi:

  • pa arwyddbyst (saethau lliw neu symbolau eraill) i'w dilyn
  • gradd y llwybr
  • faint o amser y gallai fod ei angen i'w gwblhau
  • beth i edrych amdano ar hyd y llwybr

Bydd arnoch angen esgidiau a chyfarpar sy’n addas i'r amodau - argymhellir esgidiau cerdded.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn

""

Mae dau lwybr rhedeg ag arwyddbyst yn cychwyn o'r prif faes parcio (Traeth).

Mae un llwybr yn dilyn llwybr y Parkrun ac mae'r llwybr arall yn dilyn rhan o'r llwybr a ddefnyddiwyd ar gyfer un o rasys pencampwriaeth y Gymanwlad a gynhaliwyd yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch

Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau

""

Mae pum llwybr rhedeg ag arwyddbyst yn cychwyn o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr.

Maent yn amrywio o ran hyd o gwpl o filltiroedd i hanner marathon.

Am ragor o wybodaeth ewch i Ganolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin.

Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

""

Mae dau lwybr rhedeg ag arwyddbyst yn cychwyn o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr.

Am ragor o wybodaeth ewch i Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.

Coetir Ysbryd Llynfi, ger Pen-y-bont ar Ogwr

""

Mae tri llwybr rhedeg byr ag arwyddbyst yn y coetir hwn.

Am ragor o wybodaeth ewch i Goetir Ysbryd Llynfi

Llwybrau rhedeg sydd ar gau neu wedi’u dargyfeirio

Weithiau mae angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill, neu am resymau eraill fel tywydd gwael.

Rydym yn gosod arwyddion am gau a dargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.

Edrychwch ar dudalen y coetir neu'r warchodfa ar Lleoedd i ymweld â hwy am unrhyw newidiadau cyn i chi ymweld, yn enwedig os ydych am ddilyn llwybr penodol, a dilynwch yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau ar y safle.

Hawliau tramwy cyhoeddus

Gallwch redeg ar bob un o'r pedwar categori o hawliau tramwy cyhoeddus:

  • Llwybrau troed cyhoeddus
  • Llwybrau ceffyl cyhoeddus
  • Cilffyrdd cyfyngedig
  • Cilffyrdd sy’n agored i bob math o draffig

Darganfyddwch fwy am hawliau tramwy cyhoeddus.

Tir mynediad agored

Gallwch redeg ar unrhyw dir sydd wedi'i ddynodi'n dir mynediad agored.

Dangosir tir mynediad agored ar fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans.

Mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd a rhai o'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u dynodi yn dir mynediad agored.

Darganfyddwch fwy am dir mynediad agored.

Codau Cefn Gwlad

Mae'r Codau Cefn Gwlad yn darparu cyngor i gynllunio ymweliad â'r awyr agored ac i helpu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.

Dysgwch fwy am y Codau Cefn Gwlad.

Caniatâd ar gyfer digwyddiadau

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Diweddarwyd ddiwethaf