Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Cau llwybrau

 

Bydd gwaith cwympo coed yn effeithio ein llwybrau yma am mis Chwefror a mis Mawrth, a gallai’r llwybrau hyn gael eu cau ar unrhyw adeg:

 

  • Pob llwybr beicio mynydd
  • Pob llwybr rhedeg
  • Llwybr cerdded y Grib
  • Llwybr marchogaeth Mynydd March

Gweler gwybodaeth yn y maes parcio a dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau.

 

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn y datganiad i’r wasg.

 

Gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr

 

Nid yw’r caffi na’r siop yn gweithredu bellach ond mae uned sy’n gwerthu bwyd oer a diodydd poeth yn y maes parcio ar agor 10am-4pm bob dydd.

 

Nid oes staff yn y ganolfan ymwelwyr ac nid oes darpariaeth cymorth cyntaf. Dewch yn barod ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ei wneud a byddwch yn ymwybodol o beth i’w wneud mewn argyfwng.

 

Mae’r llwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor.

 

Bydd y barcutiaid coch yn parhau i gael eu bwydo ger y llyn bob dydd am 2pm.

 

Am wybodaeth ar yr ymarfer marchnata ar gyfer rhentu'r Ganolfan Ymwelwyr ar les yn y dyfodol, ewch i’n gweler tudalennau ymgysylltu Canolfan Ymwelwyr.

Croeso

Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn enwog am ei thraddodiad hir o fwydo barcudiaid cochion bob dydd.

Mae llwybrau ag arwyddbyst ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd, marchogion ceffylau a rhedwyr.

Mae parc sgiliau gyda trac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg a llwybr cylchol.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Barcud (yn cynnwys Llwybr Pos Anifeiliaid) 

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.8 milltir/1.3 cilomedr
  • Graddiant ar ei fwyaf: 10%
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol, gwastad hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Mae’r llwybr hwn yn cynnig y mannau gorau i weld y barcudiaid cochion yn cael eu bwydo, naill ai o’r guddfan neu o’r olygfan bwrpasol i wylio’r barcudiaid.

Mae'r llwybr yn dilyn ymyl gogleddol y llyn. Dilynwch y pyst ar hyd y llwybr i ddarganfod ffeithiau am y barcud coch a chwiliwch am gerfluniau a barddoniaeth sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw.

Mae’r Llwybr Pos Anifeiliaid yn dilyn yr un llwybr – lawrlwythwch daflen y Llwybr Pos Anifeiliaid o waelod y dudalen hon a rhowch gynnig ar ddod o hyd i’r anifeiliaid.

Llwybr y Mwynwyr

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1.4 milltir/2.3 cilomedr
  • Dringo: 197 troedfedd/80 metr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’n dilyn llwybrau clir. Mae’n cynnwys dringfeydd a disgynfeydd hir a serth. Gall yr arwynebau fod yn arw a gwlyb mewn mannau ac mae rhannau o’r llwybrau yn agored iawn i’r elfennau.

Dilynwch yr arwyddion i lawr at hen ffos fwyngloddio ac ewch i fyny’r rhiw at y grib a ein Cadair y Cawr, sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa.

Llwybr y Grib

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.5 milltir/4.1 cilomedr
  • Dringo: 263 troedfedd/80 metr
  • Amser: 2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’n dilyn llwybrau clir. Mae’n cynnwys dringfeydd a disgynfeydd hir a serth. Gall yr arwynebau fod yn arw a gwlyb mewn mannau ac mae rhannau o’r llwybrau yn agored iawn i’r elfennau.

Dilynwch yr arwyddion i fyny at y grib sydd wedi ei gorchuddio â grug a mwynhewch y golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.

Ewch heibio i’r arsyllfa garreg cyn cerdded i lawr trwy’r coed ac ymumo â’r llwybr ffrwd cul a ddaw â chi’n ôl at y maes parcio.

Llwybrau beicio mynydd

Mae'r llwybrau beicio mynydd yn dechrau o'r maes parcio.

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Arian

  • Gradd: Ffordd coedwig a thebyg
  • Pellter: 7.9 cilomedr
  • Dringo: 160 metr (graddiant mwyaf: 12%)
  • Amser: 45 munud - 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r lefel yn gymharol isel ar hyd ffyrdd y goedwig, heb unrhyw rannau trac sengl, er bod rhan ohono ar hyd ffordd gyhoeddus sy’n mynd o amgylch y llyn. Mae darn byr eithaf serth ar y ffordd yn ôl. Byddwch yn ymwybodol o geir a reidiwch yn ofalus gan ystyried defnyddwyr eraill.

Mae Llwybr Arian yn llwybr y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.

Mae’r llwybr hwn ar hyd ffordd goedwig yn eich arwain at lyn prydferth Blaenmelindwr.

Llwybr Melindwr

  • Gradd: Glas (Cymedrol)
  • Dolen 1 - Pellter: 1.85 cilomedr. Dringo: 75 metr. Amser: 15-30 munud.
  • Dolen 1 & 2 - Pellter: 5 cilomedr. Dringo: 110 metr. Amser: 30 munud - 1 awr.

Mae Llwybr Melindwr i fod yn un 'cynyddol' ar gyfer beicwyr sy'n gymwys ar lwybrau gradd glas, fel y gallant wella'u sgiliau cyn symud ymlaen i'r radd nesaf.

Mae’r cylch 1 yn cynnwys un dringfa ar ffordd goedwig, un golygfa wych ac un disgyniad troellog cyffrous â llawer o ysgafellau.

Mae cylch 2 yn mynd i fyny rhan gychwynnol yr 'Italian Job' cyn dod i lawr yr 'Hanner Pibell' wedyn dringo o amgylch y ‘Y Trwyn’ i weld golygfa wych o’r môr ymhell draw. Mae disgyniad hir a throellog sydd â rholeri ac ysgafellau difyr cyn dringa i fynny ffordd goedwig a'r disgyniad terfynol cyffrous.

Llwybr Pendam

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 10.2 cilomedr
  • Dringo: 220 metr
  • Amser: 1-2 awr

Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhai o’r rhannau gorau yn Nant yr Arian gyda dringfeydd cymharol fyr.

Gyda rhannau fel ‘Ar y Dibyn’, ‘Lan a Lawr’ a disgynfa olaf gynhyrfus ar hyd ‘Fry fel Barcud’.

Llwybr Summit

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 18.5 cilomedr
  • Dringo: 440 metr
  • Amser: 1½-2½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Gofalwch gadw llygad am ddefnyddwyr eraill, yn arbennig pobl yn marchogaeth, a gadewch giatiau fel yr oeddent. Mae llwybrau beicio mynydd Summit a Syfydrin wedi'u dargyfeirio’n rhannol.

Llwybr Summit yw’r llwybr coch hiraf a mwy heriol sy’n gwau ei ffordd drwy’r goedwig ac yn mynd â chi allan i’r rhostir agored.

Mae ‘Arwydd Zorro’ yn cynnig disgynfa hir ardderchog, sy’n werth y ddringfa wedyn i ran ‘Coesau’n Llosgi’.

Llwybr Syfydrin

  • Gradd: Du (Anodd iawn)
  • Pellter: 36 cilomedr
  • Dringo: 750 metr
  • Amser: 3-5 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hi’n reid hir a heriol drwy gefn gwlad agored ac unig, Mae rhan helaeth o’r llwybr ar drac dwbl technegol, sy’n cael ei ddefnyddio gan gerbydau 4x4, beiciau modur, marchogion a cherddwyr. Cofiwch reidio yn ofalus gan roi ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill. Gadewch giatiau fel yr oeddent. Mae llwybrau beicio mynydd Summit a Syfydrin wedi'u dargyfeirio’n rhannol.

Mae Llwybr Syfydrin yn cynnwys pob rhan o Lwybr Summit gyda’i drac sengl aruthrol sy’n llifo ac yn plymio – ac yn ychwanegu ato trwy eich arwain allan i’r bryniau agored lle ceir golygfeydd anhygoel.

Parc Sgiliau 

Mae’r parc sgiliau yn drac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg neu hyd yn oed ar gyfer cynhesu cyn mynd i’r afael â’r llwybrau hwy sy’n cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr.

Mae’r nodweddion yn cynnwys roleri, grisiau, ysgafellau, pennau bwrdd, ‘cluniau’ a dysglau.

Cafodd y parc sgiliau ei gynllunio a’i adeiladu gan Trailcraft.

Gwyliwch ein fideo Parc Sgiliau

Llwybrau rhedeg

Mae'r llwybrau rhedeg ag arwyddbyst yn dechrau o'r maes parcio.

Cafodd llwybrau Y Fuwch a’r Llo eu henwi ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. 

Sylwch:

  • mae'r ddau lwybr yma yn gofyn am lefel resymol o ffitrwydd
  • bydd arnoch angen esgidiau a dillad addas
  • bydd cyfuniad o ffyrdd agored drwy’r goedwig a llwybrau trac sengl lle bydd gwreiddiau, mwd a cherrig dan draed yn achlysurol
  • cofiwch fod yn ymwybodol fod pobl eraill yn defnyddio’r llwybrau

Y Llo

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.1 milltir/4.9 cilomedr
  • Dringo: 295 troedfedd/90 metr
  • Amser: 30-45 munud

Cyflwyniad hamddenol i redeg llwybrau, mae’r llwybr 5km hwn yn cychwyn ar y gwastad am oddeutu 2 gilomedr cyn dringo’r grib a mynd i lawr eto i’r maes parcio.

Y Fuwch

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 6.5 milltir/10.5 cilomedr
  • Dringo: 787 troedfedd/240 metr
  • Amser: 1-1½ awr

Mae’r llwybr heriol hwn yn dilyn Y Llo cyn croesi’r ffordd a rhedeg ar hyd adfeilion hen fferm.

Ymunwch â ffordd y goedwig a fydd yn mynd â chi heibio Llyn Syfydrin, yna ewch yn ôl heibio’r adfeilion cyn dringo’n ôl ar hyd y grib i’r maes parcio.

Mae rhannau o’r llwybr yn serth a cheir rhan fechan o ffordd darmac.

Llwybr marchogaeth

Mae llwybr marchogaeth yn cychwyn ar ffordd y goedwig ger y ganolfan ymwelwr.

Mae arwyddbyst ar y llwybr o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Llwybr Mynydd March

  • Pellter: 6.6 milltir/10.7 cilomedr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dechrau ar ffordd y goedwig (cyfeirnod grid SN 717 814) ac mae'n dilyn llwybr cylchol sy'n cynnwys cyfuniad o ffyrdd coedwig, ffyrdd cyhoeddus a llwybrau. Ceir rhannau byrion sy’n serth a byddwch yn barod am amrywiaeth o arwynebeddau. Mae Bwlch Nant yr Arian yn croesawu sawl math o ddefnyddwyr hamdden felly byddwch yn ymwybodol y gallech ddod ar draws beicwyr mynydd, cerddwyr a rhedwyr.

Mae’r llwybr hwn sydd wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March).

Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf canolbarth Cymru.

Sylwch:

  • parciwch y cerbydau cario ceffylau ar hyd ffordd y goedwig y tu hwnt i'r prif faes parcio. 
  • mae digon o le ar gyfer troi cerbydau mawr.
  • mae’r gorlan ger yr ardal parcio i chi ei defnyddio - defnyddiwch hi yn synhwyrol ac yn ddiogel a  chlymwch eich ceffyl yn ddiogel.

Cyfeiriannu

Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yma (cyfres o byst y mae'n rhaid i chi eu darganfod yn eu trefn).

Mae'r rhain yn cynnwys cwrs haws ar gyfer dechreuwyr a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

I gychwyn:

  • lawrlwythwch y mapiau ar waelod y dudalen hon.
  • defnyddiwch eich sgiliau cyfeiriannu i geisio dod o hyd i byst nodi cyfeiriannu (sy'n cael eu galw'n rheolyddion) yn y drefn gywir.

Bwydo barcudiaid cochion

Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2pm.

Nid oes unrhyw dâl i wylio'r barcud coch yn bwydo.

Aderyn ysglyfaethus digamsyniol yw’r barcud coch, gyda’i gorff browngoch, adenydd onglog a chynffon fforchog ddwfn.

Gallwch ddisgwyl gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer. Maent yn gwibio i lawr i godi darn o gig ac yn bwyta wrth hedfan.

Dyma ein cynghorion ar gyfer gwylio'r barcud coch yn bwydo:

  • dilynwch Lwybr Cerdded y Barcud hwylus, o amgylch y llyn i'r man gwylio.
  • parhewch heibio i'r man gwylio i’r guddfan adar mawr er mwyn cael golwg agos o'r barcutiaid.
  • dysgwch fwy am y barcutiaid coch drwy edrych ar y byrddau gwybodaeth yn y guddfan adar.

Mannau chwarae

Mae dau fan chwarae i’w cael, un ar gyfer plant bach ac un ar gyfer plant hŷn.

Mae’r holl offer chwarae wedi'u gwneud o adeiladwaith pren cadarn.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae Llwybr y Barcud, sy'n mynd o amgylch ymyl y llyn, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae'r graddiant yn 10% neu'n llai gyda mannau gorffwys ar y rhannau ar i fyny.

Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:

  • parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas
  • toiledau hygyrch

Cŵn

Rydym yn croesawu cŵn ym Mwlch Nant yr Arian.

Gallwch ddod â’ch ci pan fyddwch yn defnyddio ein llwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd, ond rhaid ichi gadw’r ci ar dennyn neu o dan reolaeth agos.

Cofiwch godi baw eich ci - gallwch waredu’r bag mewn unrhyw fin sbwriel ar y safle.

I gael ymweliad diogel a braf gyda’ch ci, ac i osgoi achosi problemau i eraill, cofiwch ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.

Oriau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor:

  • mae'r coedwig a'r llwybrau ar agor trwy’r flwyddyn.
  • mae'r toiledau yn y maes parcio ar agor bob dydd.
  • mae'r uned bwyd oer a diodydd yn y maes parcio fel arfer ar agor chwe diwrnod yr wythnos (gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc) o 10am tan 4pm (tan 5pm o'r Pasg hyd hanner tymor yr Hydref).

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mewn tywydd eithafol fel eira, rhew neu wyntoedd cryfion:

  • mae'n bosibl y byddwn yn cau’r maes parcio neu gyfleusterau eraill ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
  • gallai’r maes parcio a’r ffordd tuag at y ganolfan fod yn rhewllyd – dylech ddisgwyl gyrru ar arwynebau llithrig cyn gynted ag y byddwch yn gadael yr A44.
  • nid ydym yn trin unrhyw un o’r llwybrau o amgylch y ganolfan ymwelwyr nac yn y parc coedwig - gallai arwyneb pob llwybr fod yn llithrig, yn enwedig os oes rhew o dan yr eira.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r mannau hyn.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth.

Cymerwch yr A44 o Aberystwyth i gyfeiriad Llangurig.

Ar ôl 9 milltir, mae maes parcio’r ganolfan ymwelwyr wedi’i arwyddo ar y chwith.

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 718 812 (Explorer Map 213).

Y cod post yw SY23 3AB. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.

Bydd bws X47 rhwng Aberystwyth a Llanidloes yn stopio ar gais wrth fynedfa’r maes parcio.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Ni chaniateir parcio dros nos.

Costau parcio

  • £1.50 am 1 awr
  • £3 am hyd at 3 awr
  • £5 am ddiwrnod cyfan

Sut i dalu

Ar ôl cyrraedd talwch wrth y peiriant tocynnau yn y maes parcio.

Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio isaf yn derbyn arian parod a chardiau. Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio uchaf yn derbyn arian parod yn unig.

Nid yw’r peiriannau tocynnau yn rhoi newid felly gofalwch fod gennych yr arian cywir os ydych yn dymuno defnyddio arian mân i dalu.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AB

Diweddarwyd ddiwethaf