Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Cau llwybrau
Bydd gwaith cwympo coed yn effeithio ein llwybrau yma am mis Chwefror a mis Mawrth, a gallai’r llwybrau hyn gael eu cau ar unrhyw adeg:
Gweler gwybodaeth yn y maes parcio a dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn y datganiad i’r wasg.
Gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr
Nid yw’r caffi na’r siop yn gweithredu bellach ond mae uned sy’n gwerthu bwyd oer a diodydd poeth yn y maes parcio ar agor 10am-4pm bob dydd.
Nid oes staff yn y ganolfan ymwelwyr ac nid oes darpariaeth cymorth cyntaf. Dewch yn barod ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ei wneud a byddwch yn ymwybodol o beth i’w wneud mewn argyfwng.
Mae’r llwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor.
Bydd y barcutiaid coch yn parhau i gael eu bwydo ger y llyn bob dydd am 2pm.
Am wybodaeth ar yr ymarfer marchnata ar gyfer rhentu'r Ganolfan Ymwelwyr ar les yn y dyfodol, ewch i’n gweler tudalennau ymgysylltu Canolfan Ymwelwyr.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn enwog am ei thraddodiad hir o fwydo barcudiaid cochion bob dydd.
Mae llwybrau ag arwyddbyst ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd, marchogion ceffylau a rhedwyr.
Mae parc sgiliau gyda trac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg a llwybr cylchol.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr hwn yn cynnig y mannau gorau i weld y barcudiaid cochion yn cael eu bwydo, naill ai o’r guddfan neu o’r olygfan bwrpasol i wylio’r barcudiaid.
Mae'r llwybr yn dilyn ymyl gogleddol y llyn. Dilynwch y pyst ar hyd y llwybr i ddarganfod ffeithiau am y barcud coch a chwiliwch am gerfluniau a barddoniaeth sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw.
Mae’r Llwybr Pos Anifeiliaid yn dilyn yr un llwybr – lawrlwythwch daflen y Llwybr Pos Anifeiliaid o waelod y dudalen hon a rhowch gynnig ar ddod o hyd i’r anifeiliaid.

Dilynwch yr arwyddion i lawr at hen ffos fwyngloddio ac ewch i fyny’r rhiw at y grib a ein Cadair y Cawr, sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa.

Dilynwch yr arwyddion i fyny at y grib sydd wedi ei gorchuddio â grug a mwynhewch y golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.
Ewch heibio i’r arsyllfa garreg cyn cerdded i lawr trwy’r coed ac ymumo â’r llwybr ffrwd cul a ddaw â chi’n ôl at y maes parcio.

Mae'r llwybrau beicio mynydd yn dechrau o'r maes parcio.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Mae Llwybr Arian yn llwybr y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.
Mae’r llwybr hwn ar hyd ffordd goedwig yn eich arwain at lyn prydferth Blaenmelindwr.
Mae Llwybr Melindwr i fod yn un 'cynyddol' ar gyfer beicwyr sy'n gymwys ar lwybrau gradd glas, fel y gallant wella'u sgiliau cyn symud ymlaen i'r radd nesaf.
Mae’r cylch 1 yn cynnwys un dringfa ar ffordd goedwig, un golygfa wych ac un disgyniad troellog cyffrous â llawer o ysgafellau.
Mae cylch 2 yn mynd i fyny rhan gychwynnol yr 'Italian Job' cyn dod i lawr yr 'Hanner Pibell' wedyn dringo o amgylch y ‘Y Trwyn’ i weld golygfa wych o’r môr ymhell draw. Mae disgyniad hir a throellog sydd â rholeri ac ysgafellau difyr cyn dringa i fynny ffordd goedwig a'r disgyniad terfynol cyffrous.
Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhai o’r rhannau gorau yn Nant yr Arian gyda dringfeydd cymharol fyr.
Gyda rhannau fel ‘Ar y Dibyn’, ‘Lan a Lawr’ a disgynfa olaf gynhyrfus ar hyd ‘Fry fel Barcud’.
Llwybr Summit yw’r llwybr coch hiraf a mwy heriol sy’n gwau ei ffordd drwy’r goedwig ac yn mynd â chi allan i’r rhostir agored.
Mae ‘Arwydd Zorro’ yn cynnig disgynfa hir ardderchog, sy’n werth y ddringfa wedyn i ran ‘Coesau’n Llosgi’.
Mae Llwybr Syfydrin yn cynnwys pob rhan o Lwybr Summit gyda’i drac sengl aruthrol sy’n llifo ac yn plymio – ac yn ychwanegu ato trwy eich arwain allan i’r bryniau agored lle ceir golygfeydd anhygoel.
Mae’r parc sgiliau yn drac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg neu hyd yn oed ar gyfer cynhesu cyn mynd i’r afael â’r llwybrau hwy sy’n cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r nodweddion yn cynnwys roleri, grisiau, ysgafellau, pennau bwrdd, ‘cluniau’ a dysglau.
Cafodd y parc sgiliau ei gynllunio a’i adeiladu gan Trailcraft.
Mae'r llwybrau rhedeg ag arwyddbyst yn dechrau o'r maes parcio.
Cafodd llwybrau Y Fuwch a’r Llo eu henwi ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.
Sylwch:
Cyflwyniad hamddenol i redeg llwybrau, mae’r llwybr 5km hwn yn cychwyn ar y gwastad am oddeutu 2 gilomedr cyn dringo’r grib a mynd i lawr eto i’r maes parcio.
Mae’r llwybr heriol hwn yn dilyn Y Llo cyn croesi’r ffordd a rhedeg ar hyd adfeilion hen fferm.
Ymunwch â ffordd y goedwig a fydd yn mynd â chi heibio Llyn Syfydrin, yna ewch yn ôl heibio’r adfeilion cyn dringo’n ôl ar hyd y grib i’r maes parcio.
Mae rhannau o’r llwybr yn serth a cheir rhan fechan o ffordd darmac.
Mae llwybr marchogaeth yn cychwyn ar ffordd y goedwig ger y ganolfan ymwelwr.
Mae arwyddbyst ar y llwybr o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Mae’r llwybr hwn sydd wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March).
Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf canolbarth Cymru.
Sylwch:
Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yma (cyfres o byst y mae'n rhaid i chi eu darganfod yn eu trefn).
Mae'r rhain yn cynnwys cwrs haws ar gyfer dechreuwyr a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.
I gychwyn:
Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2pm.
Nid oes unrhyw dâl i wylio'r barcud coch yn bwydo.
Aderyn ysglyfaethus digamsyniol yw’r barcud coch, gyda’i gorff browngoch, adenydd onglog a chynffon fforchog ddwfn.
Gallwch ddisgwyl gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer. Maent yn gwibio i lawr i godi darn o gig ac yn bwyta wrth hedfan.
Dyma ein cynghorion ar gyfer gwylio'r barcud coch yn bwydo:
Mae dau fan chwarae i’w cael, un ar gyfer plant bach ac un ar gyfer plant hŷn.
Mae’r holl offer chwarae wedi'u gwneud o adeiladwaith pren cadarn.
Mae Llwybr y Barcud, sy'n mynd o amgylch ymyl y llyn, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae'r graddiant yn 10% neu'n llai gyda mannau gorffwys ar y rhannau ar i fyny.
Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
Rydym yn croesawu cŵn ym Mwlch Nant yr Arian.
Gallwch ddod â’ch ci pan fyddwch yn defnyddio ein llwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd, ond rhaid ichi gadw’r ci ar dennyn neu o dan reolaeth agos.
Cofiwch godi baw eich ci - gallwch waredu’r bag mewn unrhyw fin sbwriel ar y safle.
I gael ymweliad diogel a braf gyda’ch ci, ac i osgoi achosi problemau i eraill, cofiwch ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor:
Gweler brig y dudalen hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mewn tywydd eithafol fel eira, rhew neu wyntoedd cryfion:
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r mannau hyn.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth.
Cymerwch yr A44 o Aberystwyth i gyfeiriad Llangurig.
Ar ôl 9 milltir, mae maes parcio’r ganolfan ymwelwyr wedi’i arwyddo ar y chwith.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 718 812 (Explorer Map 213).
Y cod post yw SY23 3AB. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.
Bydd bws X47 rhwng Aberystwyth a Llanidloes yn stopio ar gais wrth fynedfa’r maes parcio.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Ar ôl cyrraedd talwch wrth y peiriant tocynnau yn y maes parcio.
Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio isaf yn derbyn arian parod a chardiau. Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio uchaf yn derbyn arian parod yn unig.
Nid yw’r peiriannau tocynnau yn rhoi newid felly gofalwch fod gennych yr arian cywir os ydych yn dymuno defnyddio arian mân i dalu.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AB