Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae llwybrau cerdded sy'n addas ar gyfer pob gallu ar gael yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ar draws Cymru.

Mae adrannau o lwybr pren ar rai llwybrau sy'n eich galluogi i brofi amrywiol dirweddau, o gorsydd i wlyptiroedd. Mae llwybrau eraill yn dilyn troedffyrdd gwastad o amgylch llynnoedd neu wrth ymyl afonydd ac mae rhai yn mynd â chi i lecynnau gwylio dros raeadrau.

Mae arwyddbyst ar bob un o'n llwybrau o'u dechrau hyd at eu diwedd a cheir panel gwybodaeth ar ddechrau pob un.

Sut rydym ni'n graddio ein llwybrau

Caiff pob llwybr cerdded yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ei raddio er mwyn rhoi syniad o'i anhawster.

Mae'r graddau'n rhoi sylw i arwyneb y llwybr, graddiannau a lefel y ffitrwydd sydd ei angen.

Mae graddau’r llwybrau wedi’u nodi ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth sydd ar ddechrau'r llwybr.

Dod i wybod mwy am raddau llwybr cerdded.

Llwybrau hygyrch

Mae ein teithiau cerdded gradd hygyrch yn addas i bawb, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Sylwch, os gwelwch yn dda, y gallai fod angen cymorth i wthio cadeiriau olwyn ar hyd rhai adrannau.

Mae'r holl lwybrau cerdded ar y dudalen hon wedi'u graddio fel rhai hygyrch.

Llwybrau eraill

Gall rhai o'r llwybrau eraill yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd fod yn addas ar gyfer defnyddwyr offer addasol.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i helpu pobl sy'n defnyddio offer addasol (beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd) i ganfod pa mor addas y gall rhai o'n llwybrau eraill fod cyn iddynt ymweld.

Er mwyn gwylio'r ffilmiau am rai o'n llwybrau eraill, ewch i Llwybrau ar gyfer Defnyddwyr Offer Addasol.

Er mwyn dod o hyd i lwybrau cerdded yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd eraill ewch i Lleoedd i Ymweld â Nhw.

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Llwybr y Barcud (yn cynnwys Llwybr Pos Anifeiliaid)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.8 milltir/1.3 cilomedr
  • Graddiant ar ei fwyaf: 10%
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol, gwastad hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Mae’r llwybr hwn yn cynnig y mannau gorau i weld y barcudiaid cochion yn cael eu bwydo, naill ai o’r guddfan neu o’r olygfan bwrpasol i wylio’r barcudiaid.

Mae'r llwybr yn dilyn ymyl gogleddol y llyn. Dilynwch y pyst ar hyd y llwybr i ddarganfod ffeithiau am y barcud coch a chwiliwch am gerfluniau a barddoniaeth sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw.

Mae’r Llwybr Pos Anifeiliaid yn dilyn yr un llwybr.

Dod i wybod mwy am ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau

Llyn Dôl Idris

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.4 milltir/0.6 cilomedr
  • Amser: 15-30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: 1.7 metr o led ag wyneb da o amgylch y llyn. Mae mannau gorffwys bob 150 metr ac nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ar y llwybr. Ceir byrddau picnic ger y llyn. Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei reoli.

""

Mae’r llwybr cylchol hwn yn dechrau o’r maes parcio ac mae’n mynd yr holl ffordd o gwmpas y llyn yn y parcdir.

Edrychwch am adar fel bronwen y dŵr a’r siglen lwyd, sy’n magu ar lan y llyn, a’r ysgol bysgod ger y bompren, sy’n helpu eogiaid i gyrraedd y nentydd.

Cylchdaith y Ddôl

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.5 milltir/0.9 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr 1.4 metr o led ag wyneb da sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Mae gwaith dringo graddol o 16% drwy'r coed y tu hwnt i'r llyn, cyn dychwelyd ar hyd lôn gul i'r maes parcio. Mae mannau gorffwys bob 300 metr ac nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ar y llwybr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei reoli mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

""

Mae’r llwybr cylchol hwn yn mynd drwy’r parcdir gyda’i goed sbesimen egsotig.

Edrychwch am yr adfail lle cynhyrchwyd dŵr mwynol a chwrw sinsir Idris am y tro cyntaf a'r blychau ystlumod.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris

Coed Moel Famau, ger yr Wyddgrug

Llwybr Hygyrch

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.2 milltir/0.4 cilomedr
  • Amser: 20 munud

Mae'r llwybr byr hwn yn mynd drwy’r coetir ac wrth ochr nant.

Dod i wybod mwy am ymweld â Choed Moel Famau

Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau

Llwybr Afon Eden (o ganolfan ymwelwyr Coed y Brenin)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 1 milltir/1.7 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr hygyrch, 2 fetr o led hwn ag iddo arwyddbyst glas ag arwyneb da, yn llwybr llinellol dwy ffordd. Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae ei raddiant yn ddim mwy na 10% (1 mewn 10). Cyfanswm y ddringfa yw 105 troedfedd/35 metr. Mae yna fannau gorffwys o leiaf bob 100 metr. Mae graddiant y ddolen ddewisol yn ddim mwy na 17% (1 mewn 6). Mae'r ddolen felen yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio a defnyddwyr offer addasol gan gynnwys sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Mae yma fannau gorffwys o leiaf bob 150 metr. Nid oes grisiau na chamfeydd ar hyd y llwybr cyfan.

Dilynwch y llwybr hygyrch i lawr trwy goetiroedd hyd at safle picnic glan yr afon lle mae Afon Eden yn rhuthro dros y creigiau.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas yw'r llwybr hwn i chi cyn i chi ymweld.

Person anabl sy’n siarad ar y ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol. Mae'n dangos arwyneb y llwybr, graddiannau a dringfeydd i fyny ac i lawr yr allt a lle y gallai fod angen help arnoch mewn mannau penodol. 

Dod i wybod mwy am ymweld â chanolfan ymwelwyr Coed y Brenin

Llwybr Gardd y Goedwig (o faes parcio Gardd y Goedwig)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.2 milltir/0.3 cilomedr
  • Amser: 20 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r daith hygyrch yn llwybr gwastad 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn gyda mannau gorffwys o leiaf bob 100m. Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Dilynwch yr arwyddbyst o faes parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas dros y bont a thrwy ran isaf gardd y goedwig.

Yn yr olygfan, sy’n edrych dros y rhaeadr, gwrandewch ar stori Pont Llam yr Ewig.

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Gardd y Goedwig

Llwybr Copr Glasdir (rhan hygyrch) (o faes parcio Pont Llam yr Ewig)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.5 milltir/0.8 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r rhan hygyrch Llwybr Copr Glasdir yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’n 1.5m o led, yn wastad a chanddo arwyneb da gyda mannau pasio bob 50m a mannau gorffwys bob 150m.

Dilynwch yr arwyddion cyfeirio o faes parcio Pont Llam yr Ewig ar hyd hen dramffordd i'r man gwylio uwchben y gweithfeydd mwyngloddio.

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Glasdir

Llwybr Marchogion y Brenin (o faes parcio Pont Ty'n-y-groes)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.5 milltir/0.8 cilomedr
  • Dringo: Gwastad ar y cyfan
  • Amser: 15 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith yn dilyn llwybr 2 fetr o led ag iddo arwyneb da wrth ochr yr afon ac mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir llecynnau gorffwys o leiaf bob 100 metr.

Dewch i weld y coed Douglas godidog, sef y coed mwyaf yng Nghoed y Brenin.

Mae'r llwybr yn dolennu ochr yn ochr â'r afon hyd at y goeden sydd â’r boncyff llydanaf a elwir ‘Y Brenin’.

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Pont Ty'n-y-groes

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger y Fenni

Llwybr Pren y Gwern

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.4 milltir/0.6 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn cychwyn dros y ffordd o'r maes parcio – cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd. Mae’r llwybr bordiau llydan a gwastad, gyda lleoedd pasio, yn eich galluogi i fwynhau’r coetir yng ngwaelod gwlyb y dyffryn. Gallwch wneud cylchdaith drwy gynnwys yr adran heb lwybr pren sy’n cael ei ddangos ar y map. Mae meinciau pren ar hyd y llwybr. Mae mwd meddal – peidiwch â chrwydro o’r llwybr pren neu’r llwybr.

Sylwch ar goesynnau’r gwern – tystiolaeth o ‘brysgoedio’ (torri’n agos i’r bôn ac ail dyfu).

Edrychwch allan am gold y gors ac ymbarelau pinc, tyner y triaglog sy’n tyfu ar hyd y llwybr coed yn y gwanwyn, ac aroglwch glychau’r gog sy’n tyfu ar hyd y llwybr.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio, Ynys Môn

Llwybr y Gors

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.7 milltir/1.2 cilomedr (allan ac yn ôl)
  • Dringo: Gwastad ar y cyfan
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst glas ar hyd y llwybr pren gwastad, 1.4 medr o led, gan aros am ychydig i fwynhau’r golygfeydd dros y gors. Mae yna feinciau gorffwys bob 300 medr. Ewch yn ôl i'r maes parcio ar hyd yr un llwybr.

Mwynheuwch weld a chlywed adar y gwlyptir yn y gwely cyrs.

Mae yna fywyd gwyllt i'w weld neu glywed drwy’r amser, bob adeg o'r flwyddyn.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron

Llwybr Cors Caron

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 1.6 milltir/2.6 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’n hollol hygyrch ac mae ganddo arwyneb pob tywydd ac amryw o feinciau. Mae'r guddfan yn hygyrch.

Mae’r llwybr pren yn arwain dros rai o rannau mwyaf trawiadol y cors at guddfan fawr.

Llwybr yr Hen Reilffordd

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 6.3 milltir/10.2 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r rheilffordd segur yn cynnig arwyneb cadarn sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae’n rhan o Lwybr Beicio Ystwyth ac mae’r llwybr yn cael ei rannu rhwng cerddwyr, beicwyr a marchogion ceffylau.

""

Mae’r llwybr hwn, sy’n llinelloll, yn dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa.

Mae'n arwain at Iard yr Hen Orsaf yn Ystrad Meurig ac mae’n cynnig golygfeydd da o ran helaeth o Gors Caron.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn, ger Rhaeadr

Llwybr Cors y Llyn

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.7 milltir/1.1 cilomedr
  • Amser: 45 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r warchodfa yn wastad gyda llwybrau pren sydd wedi’u gorchuddio â rhwyll. Mae'r llwybr cylchol yn gorffen gyda llethr graddol yn ôl i'r maes parcio. Mae seddi a mannau pasio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Cadwch at y llwybr pren a'r llwybrau os gwelwch yn dda – mae yma fannau lle mae dŵr agored dwfn a phyllau dyfnion ag ochrau serth sydd wedi'u gorchuddio â llystyfiant arnofiol. Gallwch hefyd archwilio’r caeau o fewn y warchodfa, ond cadwch at y llwybrau os gwelwch fod cnwd gwair yn tyfu – neu mae’n bosibl y bydd da byw yn pori yno. Awgrymir eich bod yn gwisgo esgidiau sy’n dal dŵr ar gyfer unrhyw ymweliad rhwng yr hydref a’r gwanwyn cynnar, gan fod dŵr yn gallu codi trwy’r llwybr pren.

Dilynwch y llwybr sy’n mynd heibio’r ddôl o flodau gwyllt i fwynhau Cors y Llyn.

Chwiliwch am y goedwig binwydd corachaidd a sylwch ar y coetiroedd corsiog ar hyd y llwybr pren.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn

Coedwig Cwm Rhaeadr, ger Llanymddyfri

Llwybr Coetir

  • Grade: Hygyrch
  • Distance: 0.9 milltir/1.5 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr hwn yn cychwyn o’r maes parcio uchaf. Mae yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ond cofiwch fod ganddo ddringfa hir gyda mannau gorffwys. Mae’r rhan fwyaf serth yn 1/20. Mae’r llwybr yn wastad ac mae ganddo wyneb caled o garreg.

Mae’r llwybr hwn drwy’r coetir yn mynd heibio amrywiaeth o wahanol goed gan gynnwys ffynidwydd Douglas anferth a blannwyd yn y 40au.

Mae’n mynd heibio pwll bychan lle mae llwybr pren byr yn croesi’r dŵr – cadwch lygad yn agored am weision y neidr yn yr haf.

Dod i wybod mwy am ymweld â Choedwig Cwm Rhaeadr

Craig y Ddinas, ger Castell-nedd

Llwybr Sychryd

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.4 milltir/0.6 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 20 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis mwy cadarn.

Mae Llwybr Sychryd yn troelli ar lan yr afon trwy geunant coediog, cul.

Yr ochr arall i’r afon fe welwch graig enfawr o'r enw Bwa Maen, sy’n blyg daearegol trawiadol.

Wedi cyrraedd rhaeadrau Sgydau Sychryd mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd.

Dod i wybod mwy am ymweld â Chraig y Ddinas

Parc Coedwig Gwydir, ger Llanrwst

Afon Crafnant (o faes parcio Llyn Crafnant)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan y llwybr hwn sy’n 1.2 metr o led ag iddo arwyneb da, raddiant hawdd ac mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae'r pedair mainc bicnic lai na 100 metr oddi wrth ei gilydd – mae tair ohonyn nhw'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae'r llwybr hwn yn arwain trwy amrywiaeth o goed, o gonwydd tal i goed bedw ifanc, ac yn cyrraedd ardal laswelltog agored wrth ymyl yr afon fyrlymus.

Oedwch am eiliad i wrando am fywyd gwyllt ac i’w gwylio, neu dewch o hyd i'r ‘arwyddion sy’n diflannu’ ar hyd y llwybr sy’n nodi ffeithiau hynod ddiddorol am y coed a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma.

Dod i wybod mwy am ymweld â Llyn Crafnant

Coedwig Hafren, ger Llanidloes

Taith Gerdded Y Rhaeadrau

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.9 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith yn dilyn llwybr ar oleddf o'r maes parcio i'r llwybr pren ac yn dychwelyd trwy'r goedwig ar hyd llwybr llydan ag iddo arwyneb da.

Mae Taith Gerdded Y Rhaeadrau yn dilyn llwybr pren ar hyd glan yr afon ac ymlaen at y rhaeadrau aflonydd.

Yma mae llwyfan uchel er mwyn i chi fwynhau'r olygfa cyn dychwelyd trwy'r goedwig i'r maes parcio.

Dod i wybod mwy am ymweld â Choedwig Hafren

Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn

Llwybr Golwg y Llyn (o faes parcio Llyn Parc Mawr)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¼ milltir/0.3 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr 1.5 metr o led ag iddo arwyneb da o faes parcio Llyn Parc Mawr gyda mannau pasio a llecynnau gorffwys bob 50 metr.

Dilynwch y llwybr ar draws y safle picnic i'r man gwylio dros lyn cudd y goedwig.

Yno fe welwch wybodaeth am yr adar sy'n byw yma, neu arhoswch wrth un o'r byrddau picnic ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld gwiwer goch yn y coed.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd, ger Casnewydd

Mae'r holl lwybrau o amgylch y gwelyau cyrs yn hygyrch i gadeiriau olwyn a cheir meinciau bron bob 200 metr. Mae'r llwybrau'n wastad gyda rhai llethrau ysgafn a ramp igam-ogam wrth ddringo'r pum metr i fyny i lefelau’r cyforgorsydd.

Llwybr y Tegeirianau

  • Pellter: 1 milltir/1.6 km

Cadwch lygad am degeirianau ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf.

Llwybr Cerfluniau

  • Pellter: 1 milltir/1.7 km

Ewch trwy welyau cyrs, dros y bont arnofio a heibio'r goleudy.

Llwybr Coetir ac Aber

  • 1½ milltir/2.3 km

Ewch trwy welyau cyrs, coetir, heibio dŵr agored a'r aber.

Profiad y Gwlyptiroedd

  • Pellter: 2½ milltir/4 km

Mae'r llwybr hwn yn cyfuno'r llwybr tegeirianau, y llwybr coetir a'r aber a rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, ger Abertawe

Taith Gerdded Pant y Sais

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cychwyn o fynedfa i gerddwyr y tu ôl i reiliau ar y B4290 – cymerwch ofal wrth groesi'r ffordd. Mae'n dilyn llwybr pren cylchol, hygyrch gyda mannau pasio a meinciau. Cadwch at y llwybr pren pan fyddwch allan ar y gors gan fod yma dir gwlyb peryglus.

Dilynwch y llwybr pren i ganol y gors a chewch weld y gwelyau cyrs a hesg sy'n gartref i amrywiaeth o blanhigion, adar a phryfed y gwlyptir.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais.

Diweddarwyd ddiwethaf