Mae Wythnos Natur Cymru yn ôl – cannoedd o gyfleoedd ar garreg eich drws

Graffeg Wythnos Natur Cymru 2026

Mae Wythnos Natur Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf (4–12 Gorffennaf), a bydd cymunedau ledled Cymru yn dod at ei gilydd i ddathlu ac archwilio byd natur. Boed yn deithiau cerdded bywyd gwyllt a gwyliau i’r teulu, neu’n weithdai creadigol a gweithgareddau cadwraeth, bydd cannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad.

Mae thema eleni, Yn Eich Cynefin, yn dathlu bywyd gwyllt, mannau gwyrdd, a byd natur bob dydd y gellir eu canfod ledled Cymru – boed yn barciau yn y ddinas ac iardiau ysgolion neu’n arfordiroedd, gerddi, a mannau cymunedol.

Mae mwy na 80 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr wythnos. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys Gŵyl Natur Caerdydd ym Mharc Bute, Diwrnod Natur ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, a Gŵyl Natur Ceredigion yn Aberystwyth, ochr yn ochr â dwsinau o ddigwyddiadau eraill sy’n digwydd ledled y wlad.

Gall pobl gymryd rhan drwy fynd i ddigwyddiad lleol, archwilio byd natur yn agos at gartref, neu dreulio amser yn sylwi ar y bywyd gwyllt a’r mannau gwyrdd o’u cwmpas. Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau i’w gweld ar wefan Wythnos Natur Cymru.

Dywedodd Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i fyd natur.
"Rydyn ni’n annog pawb i edrych yn agosach ar yr holl natur o’u hamgylch, ac i gymryd camau syml ac ymarferol i’w helpu i ffynnu. Boed hynny wrth greu lle i fywyd gwyllt gartref, wrth gymryd rhan mewn prosiectau lleol, neu wrth gefnogi gwaith cadwraeth, mae pob gweithred yn cyfrif ac yn arwain at newid go iawn.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng o ran natur a’r hinsawdd, ac mae’n fwy clir nag erioed bod angen gweithredu. Mae ecosystemau iach yn sail i'n bwyd, i’n hiechyd ac i’n heconomi - ac mae arnyn nhw angen ein cefnogaeth ni i ffynnu. Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle i bob un ohonom ni wneud ein rhan.”

Rhestr o’r digwyddiadau

Cadwch lygad am ddigwyddiadau â seren – dyma rai o’r uchafbwyntiau allweddol sy’n digwydd ledled Cymru yn ystod Wythnos Natur Cymru.

Gogledd Cymru

Taith Dywys yn Chwarel y Mwynglawdd (am ddim)

Chwarel y Mwynglawdd, Wrecsam

4 Gorffennaf 26

11yb – 3yp

Darganfyddwch fywyd gwyllt a threftadaeth ddiwydiannol ddiddorol Chwarel y Mwynglawdd ar y daith dywys hon. Gall cyfranogwyr archwilio un o safleoedd natur lleol pwysicaf Gogledd Cymru wrth ddysgu am y rhywogaethau sydd bellach yn byw yno.

Diwrnod Cofnodi yng Nghastell Gwydir (am ddim)

Castell Gwydir, Conwy, LL26 0PN

4 Gorffennaf

10yb - 4yp

Gwahoddir selogion byd natur i archwilio a chofnodi bywyd gwyllt ar draws gerddi a dolydd Castell Gwydir, sydd â chyfoeth o rywogaethau. Mae’r diwrnod yn cynnig cyfle prin i arolygu safle nad yw wedi ei gofnodi’n ddigonol ond yn llawn bioamrywiaeth.

Cael rhagor o wybodaeth am Diwrnod Cofnodi yng Nghastell Gwydir.

Natur ar Badlfwrdd (bydd angen tocyn)

Llyn Celyn, y Bala, LL23 7NY

4 Gorffennaf

10yb - 12.30yp

Gall cyfranogwyr fwynhau harddwch Llyn Celyn o safbwynt gwahanol yn ystod y sesiwn padlfyrddio dan arweiniad hon. Mae’r gweithgaredd hamddenol hwn yn cyfuno amser ar y dŵr â chyfleoedd i bwyllo a chysylltu â byd natur.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Natur ar Badlfwrdd.

Diwrnod Natur – Natur ar Garreg eich Drws (digwyddiad am ddim)

Parc Eirias, Bae Colwyn, LL29 7SP

4 Gorffennaf

11yb - 3yp

Gall teuluoedd fwynhau diwrnod o weithgareddau, gweithdai, a stondinau rhyngweithiol â’r thema byd natur, gan ddathlu bywyd gwyllt lleol a mannau gwyrdd. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos sefydliadau sy’n helpu pobl i gysylltu â byd natur ledled Conwy.

Cael rhagor o wybodaeth am Diwrnod Natur – Natur ar Garreg eich Drws.

Taith Gerdded Hygyrch a Stori (codir tâl)

Betws-y-coed, LL24 0BB

5 Gorffennaf

1yp - 3yp

Bydd y storïwr a’r awdur Fiona Collins yn tywys taith gerdded hamddenol a hygyrch yn rhannu llên gwerin o Ddyffryn Conwy. Mae’r digwyddiad yn cyfuno straeon, byd natur, a sgwrsio yng nghyffiniau prydferth Betws-y-Coed.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded Hygyrch a Stori.

Taith Gerdded Gwenoliaid Duon yng Nghaergybi

Caergybi, Ynys Môn

5 Gorffennaf

7.45yp – 10yp

Ymunwch â thaith gerdded dywys gyda'r nos i ddarganfod y gwenoliaid duon anhygoel sy'n dychwelyd i Gaergybi bob haf. Dysgwch fwy am yr adar rhyfeddol hyn a'r ffyrdd syml y gall cymunedau helpu i'w gwarchod.

Cael rhagor o wybodaeth am Daith Gerdded Gwenoliaid Duon Caergybi

Tegeirianau a Gloÿnnod Byw (am ddim)

Wrecsam

5 Gorffennaf

2yp – 4yp

Archwiliwch ddolydd blodau gwyllt prydferth wrth ddarganfod y tegeirianau, gloÿnnod byw a bywyd gwyllt arall sy'n ffynnu yno yn ystod misoedd yr haf. Mae'r daith gerdded dywys hon yn dathlu rhai o gynefinoedd mwyaf lliwgar Cymru.

Cael rhagor o wybodaeth am i digwyddiad Tegeirianau a Gloÿnnod Byw.

Straeon i Ddysgwyr Cymraeg – Lefel Mynediad (am ddim)

Bala, Gwynedd, LL23 7YF

7 Gorffennaf

3yp - 4yp

Gall dysgwyr Cymraeg fwynhau straeon gwerin traddodiadol mewn lleoliad hamddenol a chefnogol dan arweiniad y storïwr Fiona Collins. Mae’r sesiwn yn cynnig cyfle hwyliog i ymarfer eich Cymraeg wrth archwilio diwylliant lleol a thraddodiadau adrodd straeon.

Cael rhagor o wybodaeth am Straeon i Ddysgwyr Cymraeg – Lefel Mynediad.

Cyfrinachau Cwm Idwal (codir tâl – angen cadw lle)

Bethesda, LL57 3AD

7 Gorffennaf

10yb–3.30yp

Gall cyfranogwyr archwilio hanes a threftadaeth naturiol ddiddorol Cwm Idwal ar y daith gerdded dywys hamddenol hon. Mae’r diwrnod yn cyfuno daeareg, bywyd gwyllt, enwau lleoedd Cymru, mytholeg, a straeon am y tirwedd yn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Cyfrinachau Cwm Idwal.

10 Straeon ar gyfer Dysgwyr Cymraeg – Lefel Sylfaen (am ddim)

Bala, Gwynedd

7 Gorffennaf

5yp – 6:30yp

Gwahoddir dysgwyr Cymraeg ar lefel Sylfaen i fwynhau chwedlau gwerin traddodiadol Cymru mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol. Mae'r sesiwn yn cynnig ffordd hwyliog o feithrin hyder wrth gysylltu â diwylliant a natur Cymru.

Cael rhagor o wybodaeth am Straeon ar gyfer Dysgwyr Cymraeg – Lefel Sylfaen

Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru (am ddim)

Pen y Pass, Parc Cenedlaethol Eryri, LL55 4NY

9 Gorffennaf

10yb - 4yp 

Mae’r daith gerdded dywys ysgafn hon yn cyfuno gweithgareddau cysylltu â byd natur â llên gwerin Cymru yng nghanol Eryri. Bydd cyfranogwyr yn clywed straeon am y Brenin Arthur, chwedlau lleol, a’r dirwedd wrth fwynhau un o leoliadau mynyddig mwyaf ysblennydd Cymru.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru.

Taith Gerdded Llwybr y Llechi ar gyfer Pobl Dros 55 Oed (codir tâl)

Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri, LL55 4YW

10 Gorffennaf

10yb - 4yp

Gall pobl egnïol dros 55 oed archwilio rhan o Lwybr Llechi hanesyddol Gogledd Cymru ar y daith gerdded dywys hon drwy dirweddau Eryri. Mae’r llwybr yn cyfuno golygfeydd ysblennydd â hanesion am dreftadaeth ddiwydiannol y rhanbarth.

Cael rhagor o wybodaeth am Taith Gerdded Llwybr y Llechi ar gyfer pobl dros 55 oed.

Mapio eich Taith drwy Eryri (bydd angen tocyn)

Bethesda, Parc Cenedlaethol Eryri, LL57 3AD

11 Gorffennaf

10yb - 4yp

Gwahoddir selogion yr awyr agored i fyfyrio ar eu hoff lwybrau trwy Eryri yn ystod y gweithdy creadigol hwn. Bydd cyfranogwyr yn defnyddio mapiau, atgofion, ac yn adrodd straeon i archwilio sut y mae byd natur a thirweddau yn llunio profiadau personol.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Mapio eich Taith drwy Eryri.

Bonanza Bywyd Gwyllt Llyn Brenig (am ddim)

Llyn Brenig, Conwy, LL21 9TT

11 Gorffennaf

10yb - 4yp

Dathliad o fywyd gwyllt i deuluoedd, yn cynnwys adrodd straeon, llwybrau natur, sgyrsiau am gadwraeth, a gweithgareddau ymarferol. Gall ymwelwyr adeiladu blychau adar, creu gwestai gwenyn, a dysgu mwy am brosiectau cadwraeth lleol gan sefydliadau arbenigol.

Cael rhagor o wybodaeth am Bonanza Bywyd Gwyllt Llyn Brenig.

Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos (codir tâl)

Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri, LL54 6BW

12 Gorffennaf

10yb - 4yp

Gall teuluoedd fwynhau diwrnod o antur awyr agored yng nghanol Eryri, gan gynnwys taith gerdded dywys byd natur, picnic ar lan y llyn, a sesiwn padlfyrddio. Mae’r digwyddiad wedi ei gynllunio i helpu teuluoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd wrth gysylltu â byd natur.

Cael rhagor o wybodaeth am Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos.

Canolbarth Cymru

Gwylio Blodau Gwyllt (am ddim)

Sir Drefaldwyn

5 Gorffennaf

10yb – 1yp

Cymerwch olwg agosach ar y blodau gwyllt lliwgar sy'n tyfu ar garreg eich drws a dysgwch sut maen nhw'n cynnal peillwyr a bywyd gwyllt arall. Mae'r sesiwn dywys hamddenol hon yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn natur.

Cael rhagor o wybodaeth ar y sesiwn Gwylio Blodau Gwyllt.

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Burfa

Llanandras, Powys, LD8 2SH

6 Gorffennaf

10yb - 12yp

Gall unigolion sy’n frwd dros fyd natur archwilio un o gynefinoedd gwlyptir pwysicaf Powys ar y daith gerdded dywys hon i weld blodau gwyllt. Mae’r digwyddiad yn cynnig y cyfle i weld tegeirianau, erwain, ac ystod eang o flodau gwyllt tymhorol wedi blodeuo.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Burfa.

Sesiwn Natur Pod Chwarae (am ddim)

Machynlleth

7 Gorffennaf

3:30yp – 4:30yp

Gwahoddir teuluoedd i fwynhau chwarae creadigol yn yr awyr agored wedi'i ysbrydoli gan y byd naturiol. Trwy archwilio a gweithgareddau sy’n ysgogi’r dychymyg, gall plant ddarganfod y bywyd gwyllt a'r mannau gwyrdd o'u cwmpas.

Diwrnod Cofnodi yn Llanfechain (am ddim)

Llanfechain, Powys

7 Gorffennaf

10.30yb - 4yp

Gwahoddir selogion bywyd gwyllt i helpu i gofnodi’r rhywogaethau a geir o amgylch Llanfechain wrth ddysgu mwy am fioamrywiaeth leol. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl o’r un anian, a chyfrannu cofnodion bywyd gwyllt gwerthfawr.

Cael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Cofnodi yn Llanfechain.

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Abercamlo (am ddim)

Y Groes, Powys LD1 6RG

8 Gorffennaf

6yb - 8yp

Gall ymwelwyr ddarganfod yr amrywiaeth toreithiog o flodau gwyllt a chynefinoedd sy’n ffynnu yng Nghors Abercamlo yn ystod y daith gerdded dywys hon yn ystod yr haf. Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd planhigion, bywyd gwyllt, ac ecoleg y safle arbennig hwn.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Abercamlo.

Gerddi Bwydo Adar (am ddim)

Y Plas, Machynlleth

9 Gorffennaf

2yp - 3yp

Cyflwyniad i Gerddi Bwydo Adar gyda Veronica Henry.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Gerddi Bwydo Adar.

Cleisio’r Rhedyn i Gynyddu Cynefin Pryfed Tân (am ddim)

Cwm Elan, Powys

9 Gorffennaf

1.30yb - 4.00yp

Gall gwirfoddolwyr helpu i wella cynefinoedd ar gyfer pryfed tân yng Nghwm Elan trwy waith cadwraeth ymarferol. Nid oes angen profiad, a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar y diwrnod.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Cleisio’r Rhedyn i Gynyddu Cynefin Pryfed Tân.

Diwrnod Agored Edible Mach

Machynlleth

10 Gorffennaf

10yb - 1yp

Dewch i’n sesiwn gwirfoddoli bore dydd Iau a helpwch ni i wella’r safle ar gyfer bywyd gwyllt Am Ddim. Galw heibio.

Cael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Agored Edible Mach.

Taith Gerdded gyda’r Gwenoliaid Du, Aberhonddu (am ddim)

Aberhonddu, Powys, LD3 7LB

10 Gorffennaf

7.30yp - 9.30yp

Mae’r daith gerdded fin nos hon yn cynnig y cyfle i weld gwenoliaid duon wrth iddyn nhw hedfan a chanu ar draws awyr yr haf uwchben Aberhonddu. Bydd cyfranogwyr yn dysgu mwy am yr adar rhyfeddol hyn, ac yn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth lleol.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded gyda’r Gwenoliaid Du, Aberhonddu.

Diwrnod Natur a Lles yng Nghaeau’r Ynys, Aberhonddu

Aberhonddu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

10 Gorffennaf

Bydd digwyddiad Wythnos Natur Cymru pwrpasol yn cael ei gynnal yn Aberhonddu, gan ddod â phobl ynghyd i ddathlu byd natur lleol a harddwch naturiol ardal Bannau Brycheiniog. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Cael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Natur a Lles yng Nghaeau’r Ynys, Aberhonddu.

Taith Gerdded Eco Gwiar Malwen

Parc Natur Penglais, Aberystwyth

11 Gorffennaf

2yp - 4yp

Gyda Tom Moulsdale a Mike Kear. Gan ddefnyddio ei brofiad yn ecolegydd ac yn berson cwiar, bydd Tom yn rhannu’r hyn a ddysgodd am dueddiadau cwiar ecoleg a’r ffordd y mae hyn yn ei helpu i ddeall a rhannu gwybodaeth ecolegol, ond hefyd wedi’i arwain drwy ddrysfa iachau ac yntau’n berson anneuaidd cwiar. Byddwn yn archwilio’r pethau hyn o safbwyntiau bywyd gwyllt ac ecosystem coedwig a rhostir Penglais ac yn eu gadael i’n harwain a’n hysgogi i ddod o hyd i’n llwybrau amrywiol ein hunain y tu hwnt i’r ffurfiau deuaidd ac ailgysylltu â’r gwyllt.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded Eco Gwiar Malwen.

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Ngilfach (am ddim)

Gilfach, Rhaeadr, Powys, LD6 5LF

12 Gorffennaf

2yp - 4yp

Gall ymwelwyr archwilio dolydd blodau gwyllt lliwgar Gilfach, a darganfod y gloÿnnod byw a’r pryfed sy’n dibynnu arnynt. Mae’r daith gerdded yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Powys ar ganol haf.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded Blodau Gwyllt yng Ngilfach.

De Cymru

Dadorchuddio Byd Natur (am ddim)

Parc Gwledig y Gnoll, Castell-nedd, SA11 3EF

4 Gorffennaf

11yb - 4yp

Gall ymwelwyr fwynhau diwrnod o weithgareddau ymarferol ym myd natur, helfeydd pryfed, a theithiau cerdded tywysedig trwy gynefinoedd y parc. Mae’r digwyddiad wedi ei gynllunio i helpu pobl i ddarganfod y bywyd gwyllt sy’n byw ar garreg eu drws.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Dadorchuddio Byd Natur.

Gŵyl Natur Caerdydd (am ddim)

Caeau Llandaf, Caerdydd

4 Gorffennaf

Bydd un o brif ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru, Gŵyl Natur Caerdydd, yn dod â sefydliadau, gweithgareddau, a chyfleoedd ynghyd i bobl gael darganfod a dathlu byd natur yng nghanol y brifddinas.

Cael rhagor o wybodaeth am Gŵyl Natur Caerdydd.

Gwaredu Jac y Neidiwr yng Ngwlyptiroedd Morfa (am ddim)

Gwlyptiroedd Morfa, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

4 Gorffennaf

10yb – 1yp

Helpwch i warchod un o gynefinoedd gwlyptir pwysig Sir Gaerfyrddin trwy ymuno â'r sesiwn wirfoddoli gymunedol hon i fynd i'r afael â jac y neidiwr ymledol. Mae’n gyfle gwych i dreulio amser yn yr awyr agored, cyfarfod â phobl o’r un anian a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt lleol.

Bywyd Gwyllt Glofa Pentremawr – taith gerdded dywys (am ddim)

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin (Lleoliad What3words: ///crust.sailors.divisible)

5 Gorffennaf

10yb - 12.30yp

Mae’r daith gerdded dywys hon yn archwilio sut y mae byd natur wedi adennill hen Lofa Pentremawr, gan ei drawsnewid yn hafan i fywyd gwyllt. Bydd cyfranogwyr yn darganfod y planhigion, y pryfed, a’r rhywogaethau sydd bellach yn ffynnu ar y safle diwydiannol hanesyddol.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Bywyd Gwyllt Glofa Pentremawr – taith gerdded dywys.

Diwrnod Hwyl Coetir Cymunedol Nant Fawr (am ddim)

Cyncoed, Caerdydd

5 Gorffennaf

11yb - 3yp

Gall teuluoedd fwynhau rhaglen lawn o weithgareddau bywyd gwyllt, llwybrau, a phrofiadau dysgu ymarferol yng nghoetir Nant Fawr. Mae gweithgareddau’n cynnwys adnabod gwyfynod, dipio mewn pyllau, a chyfleoedd i ddarganfod bywyd gwyllt lleol.

Cael rhagor o wybodaeth am Diwrnod Hwyl Coetir Cymunedol Nant Fawr.

Saffari Glan Môr i Blant, Gŵyr (am ddim)

Bae Bracelet, Abertawe

5 Gorffennaf

2yp – 4yp

Gall fforwyr ifanc a'u teuluoedd ddarganfod y creaduriaid cyfareddol sy'n byw ar hyd arfordir Cymru yn ystod yr antur glan môr ymarferol hon. Cyfle perffaith i ddysgu am fywyd gwyllt y môr trwy weithgareddau awyr agored diddorol.

Cael rhagor o wybodaeth am y Saffari Glan Môr i Blant, Gŵyr.

Diwrnod Hwyl Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr (am ddim)

Cyncoed, Caerdydd

5 Gorffennaf

11yb – 3yp

Gwahoddir teuluoedd i fwynhau diwrnod llawn hwyl o ddarganfod bywyd gwyllt yng Nghoetir Cymunedol Nant Fawr. Gyda gweithgareddau gan gynnwys archwilio nentydd, adnabod gwyfynod, llwybrau natur a chrefftau ymarferol, mae rhywbeth i bob oed ei fwynhau wrth ddysgu mwy am y bywyd gwyllt a geir yn y lle gwyrdd arbennig hwn.

Cael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Hwyl Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr.

Diwrnod Cadwraeth i Wirfoddolwyr (am ddim)

Gwarchodfa Natur Gymunedol Pwll Slash, Aberllydan, Sir Benfro

6 Gorffennaf

10:30yb

Dathlwch Wythnos Natur Cymru drwy helpu i ofalu am un o warchodfeydd natur lleol Sir Benfro. Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn tasgau cadwraeth ymarferol, gan gynnwys rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw llwybrau cerdded, wrth dreulio amser yn yr awyr agored a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i natur.

Cael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Cadwraeth i Wirfoddolwyr.

Sesiwn Therapi dan y Coed (am ddim)

Glyn Ebwy

8 Gorffennaf

6yp – 8yp

Treuliwch amser yn arafu ac yn ailgysylltu â natur mewn coetir yn ystod sesiwn lles dan arweiniad. Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut y gall treulio amser yn yr awyr agored fod o fudd i les corfforol a meddyliol.

Cael rhagor o wybodaeth am y Sesiwn Therapi dan y Coed.

Planhigion Twyni yng Nghynffig (am ddim)

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr

8 Gorffennaf

10yb - 4yp

Dan arweiniad y botanegydd David Barden a Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, mae’r sesiwn maes hon yn archwilio’r bywyd planhigion cyfoethog a geir ar y twyni yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i adnabod amrywiaeth o rywogaethau wrth ddarganfod pwysigrwydd y cynefin unigryw hwn.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Planhigion Twyni yng Nghynffig.

Taith Gerdded Wythnos Natur Cymru yng Nghorsydd Teifi (am ddim)

Cilgerran, Sir Benfro

9 Gorffennaf

1:30yp – 3:00yp

Dan arweiniad Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, mae'r daith gerdded dywys hon yn cynnig cyfle i archwilio cynefinoedd a bywyd gwyllt Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi. Gall cyfranogwyr fwynhau prynhawn hamddenol yng nghanol natur wrth ddysgu mwy am fywyd gwyllt lleol a chynlluniau ar gyfer canolfan ymwelwyr y warchodfa ar gyfer y dyfodol.

Cael rhagor o wybodaeth am Daith Gerdded Wythnos Natur Cymru yng Nghorsydd Teifi.

Noson Ystlumod a Gwyfynod (am ddim)

Cwm Felin-fach

10 Gorffennaf

8yp – 11yp

Profwch ryfeddodau bywyd gwyllt Cymru ar ôl iddi nosi yn ystod y digwyddiad tywys hwn. Gall cyfranogwyr ddysgu mwy am ystlumod, gwyfynod a rhywogaethau nosol eraill gan ddefnyddio offer arbenigol.

Cael rhagor o wybodaeth am y Noson Ystlumod a Gwyfynod.

Y Cwrdd Gwyrdd (tâl mynediad o £5)

Pontardawe

11 Gorffennaf

11yb – 4yp

Dathlwch natur, cynaliadwyedd a chymuned yn y digwyddiad hwn sy’n addas i deuluoedd ac sy'n cynnwys gweithgareddau, arddangosfeydd a chyfleoedd i gysylltu â sefydliadau amgylcheddol lleol.

Amrywiaeth o dan eich traed: pryfed Pen-lan (rhaid archebu lle)

Cae Ras Pen-lan, Abertawe

11 Gorffennaf

Sesiynau am 11.00yb - 1.00yp; a 2yp-4yp

Darganfyddwch fyd cudd pryfed ar daith gerdded dywys drwy Gae Rasio Pen-lan gyda'r entomolegydd Liam Olds. Y digwyddiad perffaith i bobl o bob oed sy’n caru natur; mae'r daith gerdded yn cynnig y cyfle i weld gwenyn, gloÿnnod byw, chwilod ac infertebratau diddorol eraill wrth archwilio'r hafan bywyd gwyllt drefol hon sy'n edrych dros Fae Abertawe.

Cael rhagor o wybodaeth am Amrywiaeth o dan eich Traed: Pryfed Pen-lan.

Dathlu Natur Sain Ffagan (am ddim)

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd, CF5 6XB

11 Gorffennaf

10yb - 4yp

Gall ymwelwyr gwrdd â gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru a darganfod yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, planhigion, a ffosiliau a geir ledled Cymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos prosiectau gan sefydliadau lleol sy’n gweithio i ddiogelu byd natur a bioamrywiaeth.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Dathlu Natur Sain Ffagan.

Darganfod Bwystfilod Bach Parc Melin Mynach (am ddim)

Abertawe, SA4 4FG

11 Gorffennaf

10yb - 12yp

Gwahoddir teuluoedd a phobl ifanc i ddatgelu’r bywyd gwyllt cudd sy’n byw ym Mharc Melin Mynach. Bydd cyfranogwyr yn chwilio am bryfed, corynnod, gwenyn, a gloÿnnod byw wrth ddarganfod cornel o Abertawe sy’n gyfoethog o ran natur, ac sy’n aml yn cael ei hanwybyddu.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Darganfod Bwystfilod Bach Parc Melin Mynach.

Diwrnod Natur Bionet (am ddim)

Abaty Dinas Basing, Treffynnon

11 Gorffennaf

10yb - 2yp

Bydd y dathliad cymunedol hwn o fyd natur yn dod â sefydliadau, gweithgareddau, a chyfleoedd lleol ynghyd i gysylltu â byd natur yn Sir y Fflint. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Cael rhagor o wybodaeth am Diwrnod Natur Bionet.

Mynd yn Wyllt ym Mharc Gwledig Pen-bre (am ddim – codir tâl parcio)

Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin

11 Gorffennaf

11yb - 4yp

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n addas i deuluoedd, yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau awyr agored, heriau natur, a phrofiadau ymarferol. Gall ymwelwyr fwynhau nifer o ddigwyddiadau, o helfeydd sborion ac adeiladu lloches i gwrdd â sefydliadau lleol sy’n helpu byd natur i ffynnu yn Sir Gaerfyrddin.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Mynd yn Wyllt ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Gŵyl Natur Ceredigion (am ddim)

Aberystwyth, Ceredigion (Lleoliad What3words: banquets.stint.tweezers)

11 Gorffennaf

10yb - 4yp

Mae’r ŵyl rhad ac am ddim hon yn dathlu bywyd gwyllt, tirweddau, a’r bobl sy’n gweithio i’w gwarchod yng Ngheredigion. Mae’r digwyddiad yn dod â grwpiau cadwraeth, artistiaid, ymchwilwyr, a sefydliadau cymunedol ynghyd am ddiwrnod o ddarganfyddiad, creadigrwydd, ac ysbrydoliaeth.

Cael rhagor o wybodaeth am Gŵyl Natur Ceredigion.

Taith Gerdded Bingo Natur gyda Seawatch (am ddim)

Ceinewydd, Ceredigion, SA45 9NR

12 Gorffennaf

11yb - 1yp

Bydd cyfranogwyr yn crwydro’r arfordir gan weld ac adnabod bywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Gan gyfuno arbenigedd morol â gwybodaeth am fywyd gwyllt lleol, mae’r daith gerdded dywys hon yn cynnig ffordd hwyliog a rhyngweithiol o ddarganfod byd natur.

Cael rhagor o wybodaeth am y Daith Gerdded Bingo Natur gyda Seawatch.

Gŵyl Natur y Fro (am ddim)

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston, Bro Morgannwg

18 Gorffennaf

11yb - 3yp

Mae’r ŵyl rhad ac am ddim hon yn dathlu natur ledled Bro Morgannwg ac yn tynnu sylw at ffyrdd y gall pobl gynorthwyo adferiad byd natur. Gall ymwelwyr gwrdd â sefydliadau lleol a darganfod camau ymarferol y gallant eu cymryd i helpu bywyd gwyllt.

Cael rhagor o wybodaeth am Gŵyl Natur y Fro.

Gŵyl BioBlitz (am ddim gyda mynediad i’r ardd)

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne

18 - 19 Gorffennaf

Gwahoddir ymwelwyr i helpu i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl dros ddau ddiwrnod o ddarganfod bywyd gwyllt. Wedi ei gynnal ar draws yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Waun Las, mae’r digwyddiad yn cyfuno gwyddoniaeth dinasyddion â dathliad o fioamrywiaeth Cymru.

Cael rhagor o wybodaeth am Gŵyl BioBlitz.

Ewch yn Wyllt! Parc Pont-y-pŵl

Pont-y-pŵl, Torfaen

25 Gorffennaf

Bydd dathliad cymunedol o fyd natur yn digwydd ym Mharc Pont-y-pŵl fel rhan o Wythnos Natur Cymru. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Ewch yn Wyllt! Parc Pont-y-pŵl. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru