CNC yn cynyddu camau rheoleiddio wrth i gwmni dŵr fethu â lleihau digwyddiadau llygredd carthffosiaeth

Rhaid i Dŵr Cymru wneud newidiadau brys a sylfaenol i'w weithrediadau, yn ôl y rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wrth i'r cwmni gofnodi'r nifer uchaf o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth mewn deng mlynedd.
Mae data newydd a ryddhawyd heddiw yn dangos bod y cwmni’n gyfrifol am gyfanswm o 155 o ddigwyddiadau llygredd yn ystod 2024 – 132 o asedau carthffosiaeth a 23 yn ymwneud â chyflenwad dŵr. Er bod digwyddiadau cyflenwi dŵr wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae digwyddiadau carthffosiaeth yn parhau i gynyddu, gan gynyddu o 89 yn 2022, 107 yn 2023 a 132 yn 2024. Mae hyn yn gynnydd o 42% yn y deng mlynedd diwethaf.
O gyfanswm y digwyddiadau, roedd y cwmni'n gyfrifol am chwe digwyddiad difrifol (categori un neu ddau) - gostyngiad o saith y llynedd. Roedd pump o'r rhain o asedau carthffosiaeth ac roeddent i gyd yn ddigwyddiadau categori dau.
Mae dadansoddiad dros y deng mlynedd diwethaf yn dangos mai prif ffynhonnell digwyddiadau yw carthffosydd budr (423), gorlifoedd storm (168) a gweithfeydd trin dŵr (166).
Mae CNC wedi cymryd y camau canlynol i wella perfformiad cwmnïau dŵr:
- Mae wedi sicrhau erlyniadau llwyddiannus am droseddau yn ymwneud â chyfrifoldebau hunanfonitro Dŵr Cymru a digwyddiadau llygredd ar Wastadeddau Gwent ac un o lednentydd Afon Llwyd.
- Mae wedi sicrhau’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad gan gwmnïau dŵr yn yr amgylchedd rhwng 2025-2030 drwy broses adolygu prisiau Ofwat.
- Mae wedi ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr flaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer asedau y gwyddys eu bod yn achosi'r niwed mwyaf i'r amgylchedd.
- Mae wedi cyflwyno canllawiau newydd ynghylch yr amodau lle caniateir i orlif storm ollwng, a phryd mae gollyngiad yn torri amodau ei drwydded amgylcheddol.
Yn 2025 bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn:
- Cyflwyno tîm newydd i gynyddu gwaith monitro ar ollyngiadau cwmnïau dŵr, gwiriadau cydymffurfiaeth ac archwiliadau.
- Cyflwyno canllawiau sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth newydd ar gyfer Cynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd, sy'n gosod targedau newydd i herio cwmnïau dŵr i gyflawni gwelliannau blynyddol.
- Ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, tynhau'r fframwaith ar gyfer asesiadau perfformiad blynyddol i ddod i rym o 1 Ionawr 2026.
Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu o CNC:
“Rydym wedi gweld dirywiad enfawr ym mherfformiad Dŵr Cymru ers 2020, ac er gwaethaf rhybuddion ac ymyriadau dro ar ôl tro nid ydynt wedi gallu gwrthdroi’r duedd bryderus hon.
“Mae hyn wedi ein gadael heb unrhyw ddewis ond mynd ar drywydd nifer o erlyniadau yn erbyn y cwmni ac mae’r rhain wedi dod i ben yn ddiweddar. Nid dyma'r canlyniad rydyn ni ei eisiau, nac ychwaith y canlyniad gorau i'r amgylchedd – ein blaenoriaeth bob amser fydd sicrhau bod cwmnïau'n cydymffurfio ac atal difrod amgylcheddol rhag digwydd yn y lle cyntaf.
“Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sbarduno gwelliannau, ond rhaid i Dŵr Cymru fynd i’r afael ag achos sylfaenol y digwyddiadau llygredd hyn a chymryd camau ataliol cyn i fwy o niwed gael ei wneud i’r amgylchedd dŵr.
“Byddwn yn cynyddu ein capasiti ar gyfer monitro ac archwilio gollyngiadau, yn cyfyngu ar orlifoedd storm heb ganiatâd ac yn cyflwyno meini prawf llymach ar gyfer adroddiadau perfformiad blynyddol. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn derbyn data o'r ansawdd gorau am effaith gweithrediadau cwmnïau dŵr ar yr amgylchedd a'n bod yn gallu ymateb yn briodol.”
Roedd Hafren Dyfrdwy, sy'n darparu gwasanaethau dŵr yfed a dŵr gwastraff i rai o siroedd canolbarth a gogledd Cymru sydd ar y ffin, yn gyfrifol am bum digwyddiad llygredd – dau ohonynt o asedau carthffosiaeth. Mae hyn hefyd yn cynrychioli cynnydd o un digwyddiad llygredd carthffosiaeth yn 2023 a phedwar i gyd. Nid yw'r cwmni wedi bod yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiadau difrifol ers iddo gael ei ffurfio yn 2018.
Gostyngodd nifer y digwyddiadau a hunan-adroddwyd gan Hafren Dyfrdwy y llynedd, gan ostwng i 60%, tra bod Dŵr Cymru wedi cynyddu eu digwyddiadau a hunan-adroddwyd o 70% yn 2023 i 74% yn 2024. Mae'r ddau yn dal i fethu â chyrraedd y targed o 80% a osodwyd gan CNC.
Cyhoeddir adroddiad perfformiad amgylcheddol blynyddol llawn CNC ar gyfer y ddau gwmni dŵr, gyda'r sgôr seren wedi'i diweddaru ar gyfer Dŵr Cymru, yr hydref hwn.
Mae adroddiad digwyddiadau llygredd heddiw wedi'i gyhoeddi i roi diweddariad dros dro ar ddigwyddiadau llygredd a golwg fanwl ar y data dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Hefyd wedi'i gyhoeddi heddiw mae adroddiad data gollyngiadau blynyddol CNC, gyda dadansoddiad o ddata 2024 ar gyfer gollyngiadau gorlifoedd storm.