Hwb i fioamrywiaeth Afon Dyfrdwy yn dilyn tynnu Cored Erbistog

Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, sydd wedi’i ariannu gan yr UE ac yn cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dathlu llwyddiant arbennig o ran bioamrywiaeth ac adfer Afon Dyfrdwy.

Yn dilyn tynnu cored Erbistog yr haf diwethaf, mae arbenigwyr pysgodfeydd wedi darganfod 25 o gladdau (nythod) llysywod pendoll y môr i fyny’r afon o ble’r oedd y rhwystr - sy’n arwydd clir bod ymyriadau amgylcheddol ar Afon Dyfrdwy yn araf bach drawsnewid yr ecosystem er gwell.

Yn gynharach y mis hwn, recordiodd tîm y prosiect luniau drôn yn tynnu sylw at un o’r claddau hyn dim ond 40 metr i lawr yr afon o gored fesur Manley Hall.

Mae hyn yn cadarnhau bod tynnu cored Erbistog wedi agor 4 cilomedr ychwanegol o gynefin hanfodol, gan alluogi’r pysgod cynhanesyddol anhygoel hyn i ddychwelyd i safleoedd silio a fu allan o’u cyrraedd am amser maith yn sgil rhwystrau o waith dyn.

Bu tîm prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn olrhain y pysgod cyn tynnu’r gored, a gwelwyd na allai’r rhan fwyaf o’r llysywod pendoll fynd heibio i’r strwythur 3 metr o uchder a 70 metr o led, gan fethu â chyrraedd eu safleoedd silio i fyny’r afon. Roedd hynny’n peryglu goroesiad hirdymor y rhywogaeth warchodedig hon. Yn yr un modd, roedd llawer o eogiaid yn cael trafferth neu’n cael eu hatal yn llwyr rhag mynd heibio i gored Erbistog, a oedd yn bygwth eu goroesiad nhw hefyd.

Yn sgil tynnu’r gored bellach gall pob rhywogaeth o bysgod, nid dim ond llysywod pendoll y môr, nofio’n ddirwystr am y tro cyntaf ers bron i 200 mlynedd.

Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy:
“Mae gweld y claddau hyn uwchlaw’r safle ble tynnwyd cored Erbistog yn wirioneddol gyffrous. Mae’n arwydd clir ein bod, drwy ailgysylltu cynefinoedd a thynnu rhwystrau fel cored Erbistog, yn rhoi cyfle gwirioneddol i rywogaethau eiconig fel llysywod pendoll ac eogiaid ffynnu a meithrin poblogaethau iach.
“Mae hwn yn fuddugoliaeth enfawr i fioamrywiaeth ar Afon Dyfrdwy, ac mae’n dangos y gall gwaith uchelgeisiol fel hyn i adfer afon sicrhau manteision mesuradwy uniongyrchol i fywyd gwyllt a gwella iechyd yr ecosystemau hanfodol hyn.”

Tra bo’r prosiect yn cyflawni canlyniadau o bwys uwchlaw safle’r gyn gored, mae crynodiad llysywod pendoll y môr yn union islaw cored fesur Manley Hall yn tanlinellu’r ffaith bod y strwythur hwn yn dal i fod yn rhwystr sylweddol i allu rhywogaethau i fudo ymhellach i fyny’r afon.

Mae llawer o bysgod yn dal i orfod silio ychydig i lawr yr afon o’r strwythur hwn, sy’n rhwystro’u greddf naturiol i fudo ymhellach i fyny’r afon i safleoedd silio allweddol.

Ychwanegodd Joel:
“Er ein bod wrth ein bodd gyda’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma, mae ein harolygon yn cadarnhau mai Manley Hall yw’r rhwystr sylweddol nesaf. Dyna pam rydyn ni eisoes yn cynllunio gwaith wedi’i dargedu yma ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda’r nod o wella mynediad a sicrhau bod manteision llif dirwystr yn afon Dyfrdwy yn cael eu gwireddu’n llawn.”

Mae’r gwaith o dynnu cored Erbistog, a gwblhawyd yn 2024, yn rhan o gyfres ehangach o fesurau gan brosiect LIFE Afon Dyfrdwy i adfer ‘Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid’ sydd o bwys rhyngwladol. Mae’r dalgylch hwn yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau gwarchodedig, gan gynnwys eogiaid, llysywod pendoll, dyfrgwn, pennau lletwad a misglod perlog.

Ariennir y prosiect gan raglen LIFE yr UE, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Dŵr Cymru a’r Ganolfan Adfer Afonydd.

I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i dudalen we’r prosiect, dilynwch @LIFEAfonDyfrdwy ar y cyfryngau cymdeithasol neu e-bostiwch y tîm ar lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk