Cerdded yn Ein Hesgidiau yn Abertawe, de-orllewin Cymru

A oeddech chi’n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli dros 2,040 o asedau amddiffyn rhag llifogydd yn ne-orllewin Cymru yn unig? Neu, ein bod ni’n monitro ansawdd y dŵr mewn wyth traeth ymdrochi dynodedig yn Abertawe drwy gydol yr haf?

Dyma ddim ond cwpl o enghreifftiau o’r gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, yn aml heb i neb sylwi, ond sydd yn gwbl hanfodol i gadw pobl a natur yn ddiogel, yn iach ac yn ffynnu.

Fel rhywun sy’n gweithio yn nhîm Pobl a Lleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, cefais y pleser yn ddiweddar o groesawu aelodau o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ar daith gerdded o’r enw ‘Cerdded yn Ein Hesgidiau’. Rhoddodd y digwyddiad olwg agosach i’n partneriaid ar y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar yr hyn a wnawn – nid yn unig mewn adroddiadau neu strategaethau, ond ar lawr gwlad, lle mae’n wirioneddol bwysig.

Mae ein tîm yn cysylltu pobl, polisi a lle, gan sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol, yn meithrin cydnerthedd cymunedol, ac yn ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rydym hefyd yn arwain y gwaith o gyflawni datganiad ardal y De-orllewin, sy’n llywio sut rydym yn gweithredu ar faterion fel anghydraddoldebau iechyd, defnyddio tir yn gynaliadwy ac adfer ecosystemau.

Roedd y daith hon yn ymwneud â dangos effaith yr hyn a wnawn ar y byd o’n cwmpas, a sut mae gweithio gyda’n gilydd yn gwneud yr effaith honno hyd yn oed yn gryfach.

Beth yw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus – a sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ffitio i mewn?

Crëwyd byrddau gwasanaethau cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Maent yn dod â sefydliadau fel yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eraill ynghyd i wella llesiant pobl yn yr ardal – yn gymdeithasol, yn economaidd, yn amgylcheddol, ac yn ddiwylliannol.

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn dod â’r amgylchedd i’r sgwrs honno. Boed yn lleihau’r risg o lifogydd, gwella ansawdd aer a dŵr, neu gynyddu’r mynediad at natur, mae ein gwaith yn cefnogi nodau’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn uniongyrchol. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i’n partneriaid weld hynny ar waith.

Tîm morol: ailgysylltu â’r môr

Ein stop cyntaf oedd gyda’r Tîm Morol, dan arweiniad James Moon, Arweinydd y Tîm Morol, a aeth â ni i Fae Abertawe i archwilio’r prosiect creu twyni tywod arloesol a weithredwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Abertawe. Mae’r ateb hwn sy’n seiliedig ar natur yn helpu i fynd i’r afael â phroblem tywod sy’n cael ei chwythu gan y gwynt ar hyd y glannau, gan wella diogelwch i gerddwyr, beicwyr a modurwyr ac arbed miloedd o bunnoedd wrth gynnal a chadw bob blwyddyn.

Siaradodd James yn bwerus am yr angen am lythrennedd morol, gan ein hatgoffa bod llawer o bobl wedi colli eu cysylltiad â’r môr. Drwy brosiectau fel y rhain a lansio Strategaeth Llythrennedd Morol Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu pobl i ddeall pa mor bwysig, a bregus, yw ein hamgylcheddau morol.

Roedd yn ffordd wych o gychwyn y daith, gan weld sut mae atebion ymarferol hefyd yn dod â manteision amgylcheddol a chymdeithasol.

Tîm gweithlu integredig: ymateb pan mae’n bwysig

Nesaf, rhoddodd Neil Davies, Arweinydd Tîm y Gweithlu Integredig, gipolwg i ni ar waith hanfodol y Tîm Gweithlu Integredig, yr unigolion ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino, yn aml y tu ôl i’r llenni ac mewn amgylchiadau anodd, i warchod ein cymunedau a’n hamgylcheddau naturiol.

Mae’r tîm medrus iawn hwn yn darparu gwasanaeth ymateb i ddigwyddiadau bob awr o’r dydd, gan gynnig cymorth cyflym ar lawr gwlad a chyngor arbenigol pan fydd argyfyngau’n digwydd. Boed yn llifogydd, tanau gwyllt, neu ddigwyddiadau llygredd, maen nhw’n ymateb gan ddarparu cymorth a chyngor ar y safle i atal niwed amgylcheddol pellach.

Yn ogystal ag ymateb i argyfyngau, mae’r tîm yn rheoli 2,040 o amddiffynfeydd rhag llifogydd, 45 cilometr o amddiffynfeydd wedi’u gosod, ac asedau amgylcheddol eraill ar draws pedair sir, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sy’n ffurfio de-orllewin Cymru. Mae’r tîm hefyd yn cynnal a chadw seilwaith hanfodol o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac yn helpu i ofalu am rwydwaith gwarchodfeydd natur Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gwelsom arddangosiad byw o’u peiriannau torri gwair robotig sy’n rheoli llystyfiant ar asedau Cyfoeth Naturiol Cymru wrth leihau difrod i’r ddaear. Nid yn unig y mae’r dull hwn yn gwella diogelwch ac effeithlonrwydd, ond y mae hefyd yn helpu i warchod bioamrywiaeth ar ein hasedau llifogydd, cronfeydd dŵr a thir arall a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Pwysleisiodd Neil fod eu gwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i argyfyngau. O gynnal a chadw afonydd i wella mynediad cyhoeddus ar lwybrau natur, mae set sgiliau ac ymrwymiad eang y tîm yn hanfodol i genhadaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Seilwaith gwyrdd: gwneud dinasoedd yn wyrddach ac yn iachach

Dan arweiniad ein harbenigwr seilwaith gwyrdd, Fran Rolfe, canolbwyntiodd ein trydydd stop ar seilwaith gwyrdd, gydag ymweliad â gardd law drefol ac Ysgol Gynradd San Helen, enghraifft amlwg o sut rydym yn helpu cymunedau i addasu i newid yn yr hinsawdd mewn ffyrdd ymarferol.

Mae gerddi glaw trefol yn amsugno dŵr glaw, gan leihau llygredd, llifogydd a phwysau ar ddraeniau dinas. Maent hefyd yn creu mannau gwyrdd sy’n cynnal bywyd gwyllt ac yn gwneud dinasoedd yn lanach ac yn fwy deniadol.

Mae’r ysgol yn dioddef llifogydd dŵr wyneb difrifol. Mae gerddi glaw a draeniad cynaliadwy yn cael eu hadeiladu yn yr ysgol ar hyn o bryd i wneud y tiroedd yn fwy diogel, yn wyrddach, a chyda’r fantais ychwanegol o leihau’r risg o lifogydd. Mae’r prosiect hefyd wedi cynnwys athrawon, rhieni, a chontractwyr lleol, gan ddangos sut y gall seilwaith gwyrdd adeiladu cymunedau cryfach, yn ogystal ag amgylcheddau gwell.

Rheoli risg llifogydd: meithrin cydnerthedd gyda’n gilydd

Symudon ni ymlaen i’r safle lle dywedir bod lefelau llifogydd wedi cyrraedd yn ystod llifogydd mawr 1846, wrth ymyl Llys y Goron Abertawe. Ar 29 Ionawr 1846, cafodd Abertawe ei tharo gan ymchwydd llanw enfawr a anfonodd gychod i arnofio i fyny hyd at Wind Street ac achosi llifogydd mewn cartrefi a siopau. Roedd yn un o lifogydd gwaethaf y dref ac yn atgof clir o ba mor bwerus y gall natur fod.

Amlinellodd ein harbenigwr rheoli risg llifogydd, Lester Fulcher, rai o’r ffyrdd rydym yn helpu cymunedau i baratoi ar gyfer tywydd mwy eithafol, a lefel y môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac addasu i hynny.

Un cynllun a safodd allan yn wirioneddol oedd yn Crofty, gogledd Gŵyr. Ar ôl adeiladu amddiffynfeydd llanw ac afonol, trosglwyddwyd y prosiect i’r trigolion lleol, sydd bellach yn cael hysbysiadau gennym ni ac yn cau’r clwydi llanw eu hunain pan fo angen. Mae’r model hwn wedi arbed dros £30,000 y flwyddyn mewn costau gweithredol i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wedi grymuso’r gymuned i gymryd perchnogaeth o’u cydnerthedd.

Dysgon ni hefyd am gynllun ym Mhontarddulais, sydd wedi atal llifogydd afonol yn llwyddiannus ers ei sefydlu, a phrosiect llifogydd Dyffryn Tywi sy’n gwarchod ardal fenter Abertawe a chartrefi cyfagos.

Fel y dywedodd Lester, “Gallwch chi adeiladu wal, ond pa mor uchel ydych chi ei heisiau hi?” Nid peirianneg yn unig yw’r cynlluniau hyn; maen nhw’n ymwneud â gwneud dewisiadau call, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i warchod y nifer fwyaf posibl o eiddo gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i ni.

Dyfroedd ymdrochi ac ansawdd dŵr: gwyddoniaeth sy’n ein cadw’n ddiogel

Roedd ein stop olaf yn ymwneud ag ansawdd dŵr. Esboniodd Hamish Osborn, Arweinydd Tîm Amgylchedd Abertawe, sut yr ydym yn samplu dŵr ymdrochi mewn wyth safle dynodedig yn Abertawe drwy gydol yr haf.

Mae ein staff labordy ym Mhrifysgol Abertawe yn profi samplau am facteria fel E.coli ac enterococci perfeddol i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel i nofwyr. Daeth Natalie Dudley Burton a Bethan Yule o’n labordy i’r digwyddiad ym Mae Abertawe i arddangos technoleg a ddefnyddir gan y timau samplu i gymryd darlleniadau cemegol yn y maes yn ystod tymor y dyfroedd ymdrochi.

Ym Mae Abertawe, mae model rhagfynegi amser real wedi’i ddatblygu sy’n diweddaru bob awr ac yn hysbysu ymwelwyr â’r traeth trwy arwyddion a diweddariadau ar-lein. Mae’n enghraifft wych o ddefnyddio technoleg i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Cawsom olwg ddiddorol hefyd ar samplu infertebratau gan Julie Gething, swyddog asesu amgylcheddol. Dangosodd sut mae gwirio am bryfed a chramenogion, fel gwybed Mai a berdys, yn rhoi darlun o ansawdd hirdymor y dŵr hwnnw. Roedd yn atgof y gall y creaduriaid lleiaf adrodd y straeon mwyaf.

Myfyrdod terfynol: o strategaeth i waith ar lawr gwlad

Fel trefnydd y digwyddiad hwn, roeddwn i’n falch o weld faint o’n partneriaid a adawodd nid yn unig yn fwy gwybodus, ond yn fwy ysbrydoledig. Gwelwyd nad dogfennau polisi neu gynlluniau ar silff yn unig yw ein gwaith ni – mae’n real, mae’n lleol, ac mae’n gydweithredol.

Mae popeth a ddangoswyd gennym yn cysylltu’n uniongyrchol â’r blaenoriaethau yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru – lleihau anghydraddoldebau iechyd, rheoli tir yn gynaliadwy, cynnal bioamrywiaeth, ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Roedd yr adborth a gawsom yn glir: mae’r math hwn o ymgysylltu uniongyrchol yn helpu i feithrin y ddealltwriaeth a’r perthnasoedd y mae eu hangen arnom i fynd i’r afael â’r heriau mawr sydd o’n blaenau.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru