Rheolwr Tystiolaeth Integredig

Dyddiad cau: 3 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 9: £59,547 - £65,004 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwybodaeth a Thystiolaeth / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £59,547 yn codi i £65,004 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 18 Awst 2025

Rhif swydd: 204010

Y rôl

Rydym ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud penderfyniadau cymhleth a diddorol yn barhaus sy’n integreiddio ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol wrth fynd ar drywydd ein hamcan craidd o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym yn chwilio am reolwr i redeg y timau sy’n arwain ar integreiddio gwybodaeth a thystiolaeth ein harbenigwyr o bob cwr o Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwneud penderfyniadau da, gwerthuso’r penderfyniadau hynny, dysgu o’r effaith rydym yn i chael ac addasu iddi, a rhoi gwybod i eraill beth rydym yn ei ddysgu. Fel Rheolwr Tystiolaeth Integredig byddwch yn arwain timau o tua 16 o arbenigwyr gyda thua chwech yn adrodd yn uniongyrchol i chi.  Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth yn ein Tîm Arweinyddiaeth, un o’r pum Pennaeth Busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Dominic Driver

dominic.driver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae’r Adran Gwybodaeth a Thystiolaeth yn arwain y strategaeth a ddefnyddir i gyflawni ein nod o fod yn sefydliad sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Rydym yn defnyddio ein gwyddoniaeth a’n harbenigedd ni ac eraill i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddefnyddio’r dulliau gweithredu sydd ar gael i ni - rheoleiddio, grantiau, cyngor, eiriolaeth, partneriaeth, rheoli tir - er mwyn cyflawni tair amcan llesiant ein Cynllun Corfforaethol - Mae natur yn gwella, Mae cymunedau’n wydn i newid yn yr hinsawdd, ac Mae llygredd yn cael ei atal - trwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.  Rydym yn dysgu o effaith y penderfyniadau hynny ac yn rhannu ein gwybodaeth a’n tystiolaeth i alluogi eraill i gyfrannu at ein hamcanion.  Byddwch yn gyfrifol am redeg y timau gyda chyfrifoldeb uniongyrchol am ein galluogi i ddod â gwybodaeth a thystiolaeth o arbenigeddau eang ynghyd i wneud penderfyniadau integredig.  Cynnyrch allweddol y byddwch chi’n gyfrifol amdano yw ein hadroddiad statudol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a gyhoeddir bob pum mlynedd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rheoli rhaglenni i gasglu ac integreiddio’r dystiolaeth i ategu cyflawni Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru a chyflawni ein pwrpas craidd o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru fel ein bod yn dehongli ac yn ymgorffori tystiolaeth ar draws ein holl swyddogaethau.  
  • Arwain ein gwasanaeth sganio’r gorwel ac arloesi i nodi risgiau, cyfleoedd ac atebion newydd.  
  • Sicrhau bod prosesau sicrhau ansawdd tystiolaeth cadarn yn cael eu sefydlu (gan gynnwys adolygiad gan gymheiriaid) ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru a darparu goruchwyliaeth ac arweiniad ar flaenoriaethu anghenion tystiolaeth. 
  • Rheoli’r Grŵp Tystiolaeth Integredig a pharatoi’r Cynllun Gwasanaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth.
  • Rheoli cylch pum mlynedd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, gan gyhoeddi pob fersiwn yn brydlon i fodloni gofynion ansawdd a defnyddio’r cylch i ddatblygu ein rôl eiriolaeth i helpu i gyflawni ein cynllun corfforaethol. 
  • Rheoli prosiectau materion cymhleth penodol megis darparu cyngor arbenigol, canllawiau, tystiolaeth, targedau / cynlluniau corfforaethol a briffiau technegol i staff ar bob lefel.
  • Ar y cyd ag arweinwyr polisi y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a’r gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, sicrhau bod tystiolaeth dda o’n dulliau strategol, a’n hymyriadau, er mwyn eu gweithredu’n llwyddiannus wrth hyrwyddo dulliau rheoli addasol lle mae angen ymateb i dystiolaeth sy’n newid. 
  • Datblygu a chyflwyno cynlluniau datblygu personol ar draws y Grŵp Tystiolaeth Integredig ac i chi’ch hun. 
  • Bod yn gyfrifol am gyllideb y grŵp.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r blaenoriaethau, yr ysgogwyr a’r rhwystrau a wynebwn ni a’n partneriaid a’n rhanddeiliaid sy’n ymwneud â datblygu, darparu a defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau a dulliau sydd ar gael i gefnogi cydweithio ar y dystiolaeth.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth a pholisi’r llywodraeth sy’n berthnasol i Gymru mewn perthynas ag adnoddau naturiol a llesiant, mecanweithiau cyflawni integredig ac arfarniad amgylcheddol.
  3. Profiad a gallu mewn ymchwil sy’n berthnasol i adnoddau naturiol a llesiant a’r ystod gymhleth o ysgogwyr a rhwystrau i ddangos tystiolaeth o’u cyflawni.
  4. Profiad a gallu i weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau perthnasol.
  5. Profiad a gallu i gynrychioli sefydliad yn gyhoeddus ar faterion proffil uchel, weithiau’n ddadleuol.
  6. Profiad a gallu i rannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, ar draws sefydliad mawr.
  7. Lefel gradd neu gymhwyster addysg uwch cyfatebol neu brofiad cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf