Cynghorydd Arweiniol Gweithrediadau Coedwig

Dyddiad cau: 4 Medi 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Safonau Ystadau / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 18 Medi 2025

Rhif swydd: 204000

Y rôl

Ydych chi'n barod i lunio dyfodol coedwigaeth yng Nghymru? Rydym yn chwilio am arweinydd technegol profiadol ac angerddol ym maes Cynaeafu Pren a/neu Reoli Coedwigoedd i helpu i arwain sut rydym yn rheoli'r tir yn ein gofal.

Yn y rôl hanfodol hon, byddwch yn arwain datblygiad polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau sy'n trosi polisïau lefel uchel Llywodraeth Cymru a'r DU — gan gynnwys Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS) — yn gamau clir ac ymarferol ar lawr gwlad. Bydd eich arbenigedd yn helpu i sicrhau bod ein gweithrediadau coedwig yn gynaliadwy ac yn effeithiol.

Byddwch yn cydweithio'n agos ag ystod amrywiol o gydweithwyr ar draws timau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Masnachol, a Gweithrediadau, yn ogystal â swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector coedwigaeth. Dyma eich cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon — amddiffyn, gwella a rheoli coedwigoedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sally Tansey

sally.tansey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros faes polisi swyddogaethol gweithrediadau coedwig i sicrhau uniondeb dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gofynion, safonau rheoleiddio a diwydiant UKWAS.
  • Comisiynu a chyflawni gweithdrefnau monitro ac archwiliadau.
  • Cynghori a diffinio bylchau gwybodaeth a chymhwysedd, comisiynu adnoddau, hyfforddiant a rhaglenni i lenwi'r bylchau; rheoli prosiectau, yn unol â'r rhaglen y cytunwyd arni.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector coedwigaeth, gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol a marchnad ar gyfer CNC
  • Arwain neu gyfrannu at grwpiau tasg a gorffen, a gomisiynwyd trwy'r Bwrdd Busnes Stiwardiaeth Tir, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen. 
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno amcanion personol y cytunwyd arnynt.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth ac ysgogwyr polisi Cymru a’r DU sy’n ymwneud â choedwigaeth a’r materion a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy mewn coedwigaeth gyhoeddus yn y DU. 
  2. Gwybodaeth a phrofiad o weithrediadau cynaeafu coed a/neu reoli coedwigoedd yn gynaliadwy. 
  3. Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â’r sector coedwigaeth a rheoli tir yn gynaliadwy ym maes coedwigaeth gyhoeddus yn y DU a sut i gymhwyso hyn yng Nghymru. 
  4. Gweithio gyda chwmnïau yn y Diwydiant Coedwigaeth a lle bo angen gydag awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
  5. Profiad o amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau. 
  6. Bydd gennych aelodaeth Broffesiynol neu byddwch yn gweithio tuag at aelodaeth broffesiynol o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu gorff proffesiynol perthnasol arall
  7. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.
  8. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.  

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf