Dadansoddwr Rhaglen
Dyddiad cau: 30/07/2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: CNW2030 / Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyflog cychwynnol: £ 36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 15/08/2025
Rhif swydd: 203987
Y rôl
Rydym yn chwilio am ddadansoddwr i ymuno â Rhaglen Trawsnewid CNC2030, gan ddarparu arweiniad a chymorth ariannol arbenigol i reolwyr prosiectau a chanolfannau cost ar draws y sefydliad.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio a rheoli cynllunio a pherfformiad ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys gosod cyllideb tymor canolig, monitro a rhagweld. Gan gydweithio’n agos â rhanddeiliaid, byddwch yn cynorthwyo’r gwaith o nodi effeithlonrwydd, risgiau a chyfleoedd, ac yn cyfrannu at wneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer y blynyddoedd ariannol cyfredol a’r rhai yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn helpu i sicrhau bod rheolaethau, strwythurau ac adrodd ariannol yn parhau i fod yn gywir ac yn cydymffurfio â pholisïau llywodraethu ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r rôl hon yn ganolog i gefnogi trawsnewid ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, gan helpu i ymgorffori gwytnwch ariannol yn ein rhaglenni a chynorthwyo’r gwaith o gyflawni cynllun corfforaethol ac amcanion llesiant Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Andrew R Jones ar Andrew.r.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae’r rôl hon yn gweithio fel rhan o Swyddfa Rheoli CNC2030, gan gynorthwyo rheolwyr prosiectau a rhaglenni sy’n cyflawni un o’r rhaglenni trawsnewid mwyaf uchelgeisiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae CNC2030 yn llunio dyfodol Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gyflawni newid trawsnewidiol ar draws ein pobl, ein systemau a’n gweithrediadau. Fel y sefydliad sy’n gyfrifol am reoli adnoddau naturiol Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu a gwella’r amgylchedd wrth gynnal lles cymunedau a’r economi.
Byddwch yn rhan o dîm sy’n flaengar ac yn helpu i ymgorffori newid a chryfhau’r sylfeini ariannol sy’n cynnal cynaliadwyedd ac effaith hirdymor ar draws y sefydliad.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo staff a rheolwyr cyllideb CNC2030 ledled y sefydliad o ran adnoddau, gan gynnwys darparu cyngor, canllawiau a hyfforddiant.
- Mae rheolwyr canolfannau cost a rheolwyr prosiectau yn sefydlu cynlluniau gwariant ac incwm, lle bo’n berthnasol, ar gyfer cynllunio ariannol tymor canolig gan uwchgyfeirio fel bo’n briodol i reolwyr rhaglenni, a Rheolwr CNC2030.
- Cynorthwyo’r ymarfer manwl o osod cyllideb (ar gyfer y maes penodedig o gyfrifoldeb). Cynorthwyo’r rheolwyr prosiectau a’r ganolfan gostau i greu cynlluniau gwariant ac incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol.
- Monitro perfformiad ariannol (ar gyfer y maes penodedig o gyfrifoldeb), gan ddarparu cyngor ac arweiniad, fel bo’n berthnasol, i fyrddau’r rhaglenni, grwpiau cynllunio’r gweithlu, yr adran fenter ac ati, a nodi meysydd risg neu gyfleoedd. Sicrhau y caiff y rhain eu cyfleu ac y gweithredir arnynt yn briodol. Uwchgyfeirio pan fydd angen.
- Sicrhau rheolaeth a chywirdeb gwybodaeth ariannol a gynhelir ar MyNRW ac mewn adroddiadau, gan gynnwys cynnal y ganolfan gostau a strwythurau prosiectau.
- Hybu cydymffurfedd â’n Cynllun Dirprwyo Ariannol, gan nodi ac yna naill ai datrys problemau neu eu hatgyfeirio i arbenigwyr i’w datrys.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymhwyster technegydd cyfrifyddu neu gymhwysedd trwy brofiad.
- Profiad o weithio o fewn amgylchedd cyllid ar lefel dechnegol.
- Gwybodaeth am egwyddorion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’ a ‘Dosbarthu Derbynebau’ Trysorlys Ei Fawrhydi.
- Dealltwriaeth o ystod eang o’n gweithgareddau busnes ac amgylcheddol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’n Cynllun Dirprwyo Ariannol, gyda’r gallu i gynghori eraill.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.