Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau
Dyddiad cau: 17/08/2025 | Cyflog: Gradd 9: £59,547 - £65,004 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: CNC2030 / Cyllid a Gwasanaethau
Cyflog cychwynnol: £59,547 yn codi i £65,004 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos dechrau 01/09/2025 neu 08/09/2025
Rhif swydd: 203986
Y rôl
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynd trwy drawsnewidiad sefydliadol mawr drwy CNC2030, sydd wedi’i gynllunio i’n helpu i gyflawni uchelgeisiau ein cynllun corfforaethol hyd at 2030. Canolbwynt y trawsnewidiad hwn yw’r Rhaglen Gwasanaethau – menter hanfodol sy’n galluogi profiadau gwell i gwsmeriaid, gwasanaethau cymorth gweithredol cryfach, a defnydd mwy craff o adnoddau.
Fel Rheolwr y Rhaglen Gwasanaethau, byddwch yn arwain ar gyflawni rhaglenni cymhleth a newid trawsnewidiol ar draws gwasanaethau corfforaethol CNC. Byddwch yn darparu goruchwyliaeth strategol, yn rheoli timau amlddisgyblaethol a chyflenwyr trydydd parti, ac yn helpu i lunio’r ffordd y mae ein gwasanaethau’n diwallu anghenion defnyddwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth effaith uchel, sy’n ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd â’r profiad, yr egni a’r weledigaeth i helpu i adeiladu gwasanaeth cyhoeddus gwell sydd wedi’i alluogi’n ddigidol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Andrew Jones andrew.r.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r Rhaglen Gwasanaethau yn graidd i CNC2030, ein taith drawsnewid hirdymor sy’n sail i allu CNC i gyflawni ei amcanion llesiant a’r weledigaeth ehangach a nodir yn ein cynllun corfforaethol: “Byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.”
Drwy foderneiddio sut rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, yn rheoli data ac yn rhyngweithio â defnyddwyr, mae’r Rhaglen Gwasanaethau yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad mwy effeithiol, ymatebol a gwydn – ac un sydd mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol a gwasanaethu pobl Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a rheoli prosiectau a rhaglenni mawr a chymhleth o fewn y Rhaglen Gwasanaethau, gan sicrhau aliniad â pholisïau rheoli prosiectau a rhaglenni CNC, cyflawni achosion busnes, ac adrodd ar gynnydd i’r Uwch-swyddog Cyfrifo.
- Darparu arweinyddiaeth strategol wrth lunio a goruchwylio’r fframwaith llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Gwasanaethau, gan gydweithio â sianeli llywodraethu i fonitro prosiectau rhyngddibynnol, mynd i’r afael â materion sicrwydd, a rheoli risgiau corfforaethol yn effeithiol.
- Trosi strategaethau digidol, rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd, a chwsmeriaid CNC yn weledigaeth dechnegol unedig a model gweithredu targed, gan gydbwyso risgiau, cyfleoedd a goblygiadau cost.
- Rheoli adnoddau mewnol ac allanol yn uniongyrchol ac ar sail matrics, gan gynnwys cyflenwyr trydydd parti, timau technegol a staff arbenigol, er mwyn sicrhau bod prosiectau a rhaglenni’n cael eu cyflawni’n effeithiol.
- Gweithredu fel yr arbenigwr sefydliadol wrth newid a gwella busnes, gan ddarparu hyfforddiant ac arweiniad lefel uchel ar egwyddorion gwelliant parhaus a chydymffurfedd â pholisïau rheoli prosiectau a rhaglenni CNC.
- Cynnal arbenigedd technegol mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg, gan werthuso eu hyfywedd ar gyfer cefnogi amcanion Cyfoeth Naturiol Cymru a gwneud penderfyniadau strategol ynghylch eu mabwysiadu neu ddewisiadau amgen.
- Gweithio’n agos gydag arweinwyr strategol, cydweithwyr dadansoddi busnes a swyddogaethau rheoli rhaglenni i sicrhau bod atebion menter ystwyth ac effeithlon a mentrau trawsnewid sy’n addas at y diben yn cael eu darparu.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan ddylanwadu ar bolisi, strategaeth a gweithgareddau i gyd-fynd â nodau strategol ac anghenion gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Dadansoddi a dehongli data cymhleth, gan gynhyrchu adroddiadau a dangosfyrddau manwl i gefnogi gwneud penderfyniadau a bodloni gofynion llywodraethu.
- Gweithredu fel aelod allweddol o dîm rheoli CNC, gan gefnogi trawsnewid sefydliadol a chyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd neu brofiad cyfatebol, gyda chymwysterau proffesiynol cydnabyddedig mewn rheoli rhaglenni/prosiectau (e.e. MSP®, Prince2) a gwelliant parhaus, ochr yn ochr â phrofiad profedig o uwchsgilio staff ac arwain rhaglenni cymhleth a mentrau newid.
- Profiad cryf mewn amgylcheddau cymhleth, gan ymgysylltu’n effeithiol ag uwch-arweinwyr busnes a chymunedau defnyddwyr terfynol, a rheoli staff technegol ac arbenigol yn uniongyrchol a thrwy strwythurau matrics, gan gynnwys timau sydd wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol.
- Sgiliau dadansoddi, delweddu a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i ddehongli gofynion busnes drwy ddefnyddio ddulliau dadansoddi strwythuredig, a dealltwriaeth gadarn o reoli risgiau corfforaethol ac mewn prosiectau.
- Gwybodaeth gynhwysfawr am a chymhwyso prosesau gwelliant parhaus a rheoli prosiectau a rhaglenni i wella perfformiad, ynghyd ag ymrwymiad i aros yn gyfredol â thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.