Rheolwr y Rhaglen Dechnoleg

Dyddiad cau: 17/08/2025 | Cyflog: Gradd 9, £59,547 - £65,004 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: CNC2030 / Cyllid a Gwasanaethau 

Cyflog cychwynnol: £ yn codi i £ fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 01/09/2025 neu 08/09/2025

Rhif swydd: 203985

Y rôl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynd trwy drawsnewidiad mawr drwy CNC2030, ein rhaglen strategol a gynlluniwyd i gyflawni ein cynllun corfforaethol hyd at 2030. Yn ganolog i hyn mae’r Rhaglen Dechnoleg, sy’n sbarduno arloesedd digidol, profiad gwell i gwsmeriaid, a rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd yn ddoethach.

Fel Rheolwr y Rhaglen Dechnoleg, bydd gennych rôl arweiniol hanfodol yn y trawsnewidiad hwn. Byddwch yn goruchwylio cyflenwyr trydydd parti, timau technegol ac arbenigwyr mewnol wrth alinio strategaeth ddigidol, strategaeth rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd, a strategaeth cwsmeriaid CNC yn un weledigaeth dechnegol unedig a model gweithredu targed. Mae hwn yn gyfle unigryw i lunio dyfodol digidol corff amgylcheddol cenedlaethol Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Andrew Jones Andrew.r.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae’r Rhaglen Dechnoleg yn alluogwr allweddol ar gyfer taith CNC2030—Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei gynllun corfforaethol, “Byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.”

Mae’r cynllun hwn yn nodi ein cenhadaeth i fynd i’r afael â’r tair her amgylcheddol, sef colli byd natur, newid hinsawdd a llygredd, gyda gweledigaeth feiddgar ar gyfer Cymru fwy gwydn.

Drwy’r Rhaglen Dechnoleg, rydym yn moderneiddio systemau digidol, yn trawsnewid sut rydym yn rheoli gwybodaeth, ac yn gwella ymgysylltiad â chwsmeriaid a rhanddeiliaid. Mae technoleg wrth wraidd ein hymdrech i weithio’n ddoethach, yn gyflymach ac yn fwy cynaliadwy ar draws y sefydliad.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a rheoli prosiectau a rhaglenni mawr a chymhleth o fewn y Rhaglen Dechnoleg, gan sicrhau aliniad â pholisïau rheoli prosiectau a rhaglenni CNC, cyflwyno achosion busnes, ac adrodd ar gynnydd i’r Uwch-swyddog Cyfrifol.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol wrth lunio a goruchwylio’r fframwaith llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Dechnoleg, gan gydweithio â sianeli llywodraethu i fonitro prosiectau rhyngddibynnol, mynd i’r afael â materion sicrwydd, a rheoli risgiau corfforaethol yn effeithiol.
  • Trosi strategaethau digidol, rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd, a chwsmeriaid CNC yn weledigaeth dechnegol unedig a model gweithredu targed, gan gydbwyso risgiau, cyfleoedd a goblygiadau cost.
  • Rheoli adnoddau mewnol ac allanol yn uniongyrchol ac ar sail matrics, gan gynnwys cyflenwyr trydydd parti, timau technegol a staff arbenigol, er mwyn sicrhau bod prosiectau a rhaglenni’n cael eu cyflawni’n effeithiol.
  • Gweithredu fel yr arbenigwr sefydliadol wrth newid a gwella busnes, gan ddarparu hyfforddiant ac arweiniad lefel uchel ar egwyddorion gwelliant parhaus a chydymffurfedd â pholisïau rheoli prosiectau a rhaglenni CNC.
  • Cynnal arbenigedd technegol mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg, gan werthuso eu hyfywedd ar gyfer cefnogi amcanion CNC a gwneud penderfyniadau strategol ynghylch eu mabwysiadu neu ddewisiadau amgen.
  • Gweithio’n agos gydag arweinwyr strategol, gweithwyr dadansoddi busnes a swyddogaethau rheoli rhaglenni i sicrhau bod atebion menter ystwyth ac effeithlon a mentrau trawsnewid sy’n addas at y diben yn cael eu darparu.
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan ddylanwadu ar bolisi, strategaeth a gweithgareddau i gyd-fynd â nodau strategol ac anghenion gweithredol CNC.
  • Dadansoddi a dehongli data cymhleth, gan gynhyrchu adroddiadau a dangosfyrddau manwl i gefnogi gwneud penderfyniadau a bodloni gofynion llywodraethu.
  • Gweithredu fel aelod allweddol o dîm rheoli CNC, gan gefnogi trawsnewid sefydliadol a chyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth TGCh dechnegol, gyda chymwysterau proffesiynol cydnabyddedig mewn rheoli rhaglenni/prosiectau (e.e. MSP®, Prince2) a gwelliant parhaus, ochr yn ochr â phrofiad profedig o uwchsgilio staff ac arwain rhaglenni cymhleth a mentrau newid.
  2. Profiad cryf mewn amgylcheddau cymhleth, gan ymgysylltu’n effeithiol ag uwch-arweinwyr busnes/TG a chymunedau defnyddwyr terfynol, a rheoli staff technegol ac arbenigol yn uniongyrchol a thrwy strwythurau matrics, gan gynnwys timau sydd wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol.
  3. Sgiliau dadansoddi, delweddu a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i ddehongli gofynion busnes drwy ddefnyddio ddulliau dadansoddi strwythuredig, a dealltwriaeth gadarn o reoli risgiau corfforaethol ac mewn prosiectau.
  4. Gwybodaeth gynhwysfawr chymhwyso prosesau gwelliant parhaus a rheoli prosiectau a rhaglenni i wella perfformiad, ynghyd ag ymrwymiad i aros yn gyfredol â thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf