Swyddog Cymorth Rheoli Data a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Dyddiad cau: 3 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Tir yn Gynaliadwy / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb:  Penodiad cyfnod penodol tan 31/03/2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 28 Awst 2025

Rhif swydd: 203981

Y rôl

Ymunwch â ni i lunio dyfodol cynaliadwy

Arweiniwch y ffordd ym maes rheoli data ac arloesi digidol ar gyfer adfer natur.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am unigolyn dynamig a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Parodrwydd Gweithredol. Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a thimau gweithredol, byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar reoli data i gefnogi cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Nodi anghenion datblygu TGCh, gan alluogi CNC i ddefnyddio meddalwedd systemau gwybodaeth ddaearyddol a llwyfannau mewnol fel Safle yn llawn.
  • Sicrhau bod data cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig yn cael eu casglu’n gywir i helpu i gyrraedd targedau adfer natur uchelgeisiol Cymru, sef 30 erbyn 30.
  • Datblygu a rheoli setiau data a strwythurau cadarn, gan sicrhau uniondeb a diogelwch data yn unol â mesurau llywodraethu, safonau trwyddedu a phrotocolau CNC.

Dyma eich cyfle i chwarae rhan allweddol yn y ffordd y mae Cymru yn defnyddio data i lunio dyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Russell De'ath

russell.de-ath@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae’r Grŵp Tir a Natur Gynaliadwy yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni gweledigaeth cynllun corfforaethol CNC – lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Mae’r grŵp yn arwain ar ecosystemau a rhywogaethau daearol, yn ogystal â rheoli tir, coedwigoedd a choetiroedd yn gynaliadwy.

Y meysydd yr ydym yn rhoi cyngor arnynt:

  • Ecosystemau daearol
  • Rhywogaethau daearol
  • Rheoli tir yn gynaliadwy
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • Coetiroedd
  • Coedwigaeth
  • Priddoedd

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud:

Y Grŵp Tir a Natur Gynaliadwy:

  • Arwain cynllunio amgylcheddol integredig ar gyfer tir a natur ar draws CNC.
  • Gyrru Rhaglen Tir a Natur CNC, gan gydlynu’r gwaith o gyflawni, monitro, gwerthuso ac adolygu canlyniadau integredig ar draws amryfal wasanaethau.
  • Datblygu polisi, strategaeth a chanlyniadau amgylcheddol dymunol CNC yn ymwneud ag ecosystemau a rhywogaethau daearol, rheoli tir yn gynaliadwy, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, priddoedd, coetiroedd a choedwigaeth.
  • Nodi’r angen am dystiolaeth strategol yn y meysydd hyn a gweithio gyda’r Adran Tystiolaeth i ddylunio a chyflwyno rhaglen dystiolaeth gymhwysol.
  • Cyfrannu mewnbwn arbenigol i asesiadau amgylcheddol (megis yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol) mewn perthynas â meysydd ffocws y grŵp.
  • Arwain datblygiad polisi strategol a chanllawiau technegol, yn fewnol ac yn allanol.
  • Cydweithio’n agos ar draws gwasanaethau CNC, gan gynnwys Rheoleiddio a Thrwyddedu, Tystiolaeth, Gweithrediadau, Stiwardiaeth Tir, Rheoli Digwyddiadau, a Rheoli Adnoddau Naturiol, i gyflawni Rhaglen Tir a Natur CNC.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio gyda’r Tîm Parodrwydd Gweithredol a thimau gweithredol Llywodraeth Cymru i arwain ar roi cyngor ar reoli data. 
  • Nodi anghenion datblygu TGCh i alluogi CNC i ddefnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd systemau gwybodaeth ddaearyddol a llwyfannau mewnol eraill (e.e. Safle) i gasglu data cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig yn gywir, a llywio a dylanwadu ar adrodd tuag at dargedau natur 30 erbyn 30.
  • Datblygu a rheoli setiau data a strwythurau data, a sicrhau diogelwch data trwy lynu wrth drefniadau, safonau a phrotocolau llywodraethu data a thrwyddedu CNC.
  • Mewnforio data a ddarperir gan dimau cyflawni Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn rheolaidd mewn fformatau addas i’w mudo i strwythur data CNC a/neu Lywodraeth Cymru, a’u rheoli a’u dadansoddi yn dilyn hynny. 
  • Cynorthwyo’r gwaith o fewnbynnu data a’u dilysu trwy hyfforddiant a mentora.
  • Dadansoddi a thrin data (gan gynnwys mewn fformatau Power Bi) i gynorthwyo amrediad eang o ofynion adrodd a sicrhau bod ansawdd data CNC yn addas at y diben.
  • Cefnogi darparu a mewnforio data cyfatebol o system iWork partneriaid i’r rhaglenni cyfatebol ar draws CNC er mwyn cefnogi datblygiad dulliau cyson o gofnodi ac adrodd ar gynnydd wrth gyflawni camau gweithredu ar gyfer safleoedd dynodedig.
  • Cyfrannu at ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o gasglu data i sbarduno effeithlonrwydd a gwella ffyrdd CNC o gynllunio, cofnodi ac adrodd.
  • Nodi dulliau ac offer casglu data. Ymgymryd â gwaith maes achlysurol i gynorthwyo timau cyflawni gyda’r gwaith o gasglu data cynradd.
  • Gweithio ar y cyd â thimau eraill yn CNC i gyflawni camau gweithredu cydlynus a strategol ar safleoedd dynodedig yng Nghymru.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o ymdrin â data amgylcheddol gofodol megis data maes / data gwyliadwriaeth, dehongli ac adrodd ar ddata, ac, yn ddelfrydol, bod yn wybodus am amrediad o weithgareddau a methodolegau cadwraeth.
  2. Profiad o weithio gyda data amgylcheddol a gasglwyd yn y maes mewn un neu fwy o’r canlynol: ecoleg ddaearol, ecoleg dŵr croyw, hydroleg, ansawdd dŵr neu wyddor y ddaear.
  3. Profiad o systemau rheoli data, yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o drin data amgylcheddol.
  4. Cymhwyster lefel gradd mewn maes pwnc perthnasol neu wybodaeth ar lefel gyfwerth.
  5. Sgiliau dadansoddol da, gan gynnwys dadansoddi ystadegau, a phrofiad o drin data mewn systemau gwybodaeth ddaearyddol (wrth ddesg ac yn y maes).
  6. Cyfathrebwr ardderchog â sgiliau trefnu da.
  7. Bydd gennych wybodaeth am un neu fwy o’r meysydd canlynol: dadansoddi data, synthesis tystiolaeth a rheoli data, a dealltwriaeth gadarn o ddulliau ystadegol a defnydd o gymwysiadau rheoli data / dadansoddi ystadegol a gofodol (gan gynnwys R ac ESRI).
  8. Bydd gennych sgiliau datrys problemau, gyda’r gallu i echdynnu gwybodaeth allweddol a’i chyflwyno mewn modd clir a chryno i amrediad o gynulleidfaoedd ac ar ffurf ysgrifenedig a llafar.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf