Aelod Tîm Gweithlu Integredig
Dyddiad cau: 30/08/2025 | Cyflog: Gradd 3: £28,932 - £30,955 | Lleoliad: Cross Hands
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 13/08/2025
Rhif swydd: 200683
Y rôl
A ydych chi’n rhywun sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored, ac yn mwynhau defnyddio peiriannau a gwneud gwahaniaeth gweladwy mewn cymunedau lleol? Os felly, dyma’ch cyfle i ymuno â thîm brwdfrydig a medrus sy’n gweithio i amddiffyn pobl, eiddo a natur ledled De-orllewin Cymru.
Rydym yn chwilio am Aelod Tîm brwdfrydig ac ymarferol i helpu i gyflawni gwaith hanfodol ym maes rheoli perygl o lifogydd a thir ar draws ein tirwedd hardd ac amrywiol. Wedi’ch lleoli yn ein depo ym Mhlas Gwendraeth yn Cross Hands, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal a gwella asedau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd, coetiroedd a gwarchodfeydd natur.
Bydd eich gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys gweithredu amrywiaeth o beiriannau a pheirianwaith—o lifiau cadwyn a thractorau i gloddwyr a pheiriannau torri gwair—yn ogystal â chynnal ffensys, torri gwair, tasgau adeiladu bach, a chynnal a chadw cynefinoedd. Byddwch yn cofnodi archwiliadau’n ddigidol ac yn cyfrannu at gynnal a chadw strwythurau amddiffyn rhag llifogydd hanfodol, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod mewn cyflwr perffaith er mwyn lleihau’r risg o lifogydd i gymunedau lleol.
Mae hon yn rôl ymarferol, amrywiol a gwerth chweil i rywun sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, sy’n ymfalchïo yn ei waith, ac sydd eisiau cyfrannu at ddiogelwch y cyhoedd a chadwraeth amgylcheddol. Fel rhan o’n tîm ymateb i ddigwyddiadau, byddwch hefyd yn ymateb i argyfyngau fel llifogydd, gan helpu i ddiogelu pobl, cartrefi a seilwaith. Mae trwydded yrru lawn o’r DU (gyda thynnu trelar yn ddelfrydol) yn hanfodol, ac mae gwasanaeth wrth gefn / y tu allan i oriau gwaith yn rhan o’r rôl ar sail rota.
Byddwch yn cael eich cynorthwyo gan dîm profiadol a chyfeillgar sy’n falch o’r gwaith y maen nhw’n ei wneud. Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygu rhagorol i’ch helpu i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau arbenigol, a datblygu eich gyrfa gyda ni. Byddwch chi’n gweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac yn ddelfrydol rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n byw o fewn 30 munud i’n depo yn Cross Hands i fedru ymateb i ddigwyddiadau.
Mae hyn yn fwy na dim ond swydd cynnal a chadw—byddwch chi’n rhan o dîm sy’n gwarchod yr amgylchedd ac yn helpu cymunedau i ffynnu. Os ydych chi’n ddibynadwy, yn ofalus o ran diogelwch, ac yn barod am rôl sy’n cyfuno gweithgaredd corfforol, sgiliau technegol, a gwaith sy’n canolbwyntio ar bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae’r rôl yn dilyn patrwm gwaith naw diwrnod (gyda phob yn ail ddydd Gwener i ffwrdd). Darperir cerbyd â bathodyn ar gyfer teithio i’r safle ac yn ôl. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jamie Neil Davies at Jamie.Davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda lleoliad i'w gadarnhau.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Efallai y byddwch yn gweithredu peirianwaith, a fydd o bosibl yn cynnwys cerbydau nwyddau trwm ac offer a chyfarpar arbenigol a thrwm gwerthfawr.
- Bydd yn ofynnol i chi wneud yr holl waith yn unol â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lles, iechyd a diogelwch Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Bydd gennych y gallu i weithio yn unol â lluniadau technegol manwl a chynlluniau cyfleustodau gan ddarparwyr gwasanaeth.
- Byddwch yn cynghori’r uwch-oruchwyliwr a’r goruchwyliwr ar yr offer a chyfarpar mwyaf addas ar gyfer gwneud gwaith, gan gynnwys ymateb i argyfwng ac y tu allan i oriau.
- Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu dilyn wrth ddefnyddio cyfarpar, peiriannau ac offer, ac yn gyfrifol am oruchwylio aelodau o’r tîm ar y safle wrth iddyn nhw ddefnyddio cyfarpar ac offer o’r fath.
- Bydd yn ofynnol i chi sicrhau bod cyfarpar ac offer sydd o dan eich cyfrifoldeb chi yn cael eu cynnal a’u cadw a’u defnyddio yn unol â’r holl reoliadau perthnasol, er enghraifft trwydded ‘O’, Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER), a Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith (PUWER).
- Bydd yn ofynnol i chi gyfathrebu’n effeithiol â thrydydd partïon, a fydd yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a thirfeddianwyr.
- Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithredu rhaglen rheoli cynefinoedd a gynlluniwyd ar gyfer gwarchodfeydd natur cenedlaethol, gan gynnwys cynnal a gwirio seilwaith gwarchodfeydd natur cenedlaethol.
- Byddwch yn rhan o dîm ymateb i argyfyngau a fydd yn cael ei alw i ddefnyddio cyfarpar, peiriannau ac offer wrth ymateb i ddigwyddiadau llifogydd er mwyn galluogi gweithrediad effeithiol asedau perygl llifogydd.
- Fel uwch-aelod o’r tîm, byddwch yn aml yn arwain ar y safle ac yn mentora aelodau o’r tîm sy’n llai profiadol neu gontractwyr.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Sawl blwyddyn o brofiad gweithredol perthnasol.
2. Diploma NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu gyfwerth.
3. Un neu ragor o’r canlynol (i gynnwys tystiolaeth fel llyfr log, llyfr gwaith wedi’i gwblhau, cynlluniau arbenigol ac yn y blaen): Gweithredwr llif gadwyn canolradd i gynnwys nifer o goed wedi’u chwythu i lawr (dylid cynnwys CS34 ac ati), a gweithrediadau winsio.
4. Gweithredwr cyfarpar a pheiriannau arbenigol trwm. Trwydded y Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) neu drwydded gydnabyddedig arall.
5. Gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes rheoli cadwraeth.
6. Profiad sylweddol o reoli digwyddiadau:llifogydd / tanau diwydiannol / arllwysiadau olew / rheoli silt ac yn y blaen. Sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu canolradd, e.e. AMX.
7. Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelar).
8. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.